The essential journalist news source
Back
20.
December
2024.
Anfon Twyllwr Dengar i'r carchar am Dwyll gwerth £175,000
 20/12/24

 Cafodd twyllwr didostur a ddefnyddiodd ei swyn a'i berswâd i dwyllo pedwar o bobl i roi £175,000 iddo ei anfon i'r carchar am dros 5 mlynedd Ddydd Mawrth (17 Rhagfyr) a rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol iddo o 10 mlynedd.

Cafodd William Hanson, 49, o Lawnt Trowbridge, Caerdydd ei ddedfrydu i bum mlynedd a mis yn y carchar am dri ar ddeg o gyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd ar 17 Rhagfyr ar ôl pledio'n euog i'r holl droseddau cyn dyddiad yr achos.

Cododd Hanson, sy’n cael ei adnabod hefyd fel Willam Connors neu Bill Austin, yn sylweddol fwy na gwerth y gwaith a wnaed ganddo ar eiddo ei ddioddefwyr, gan orliwio difrifoldeb y gwaith oedd ei angen neu wneud gwaith nad oedd ei angen. Roedd yr holl waith a wnaed o safon wael iawn, a olygodd y bu’n rhaid i’r holl ddioddefwyr wario hyd yn oed mwy o arian i unioni'r gwaith gwael a wnaed ganddo.

Achos yr erlyniad oedd bod Hanson wedi pwyso a pherswadio ei ddioddefwyr i gael gwaith wedi ei wneud ar eu heiddo, gan ennill eu hymddiriedaeth ei fod yn adeiladwr cymwys. Roedd dioddefwr 93 oed, a fu farw cyn y ddedfryd yn anffodus, wedi annog ei mab i beidio â chanslo ei chytundeb gyda Mr Hanson, nac i gynnwys yr heddlu am ei fod yn ymddangos fel 'dyn neis iawn' a fyddai'n 'gwneud gwaith da ac yn rhoi pris teg iddi'.

Dwedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:  "Mae'n fy mlino i y gallai dyn fel Hanson droi aelodau mor fregus o'n cymdeithas yn ysglyfaeth iddo, tra'n parhau i'w swyno i feddwl ei fod yn fasnachwr credadwy.

"Yn anffodus, mae hyn yn gyffredin, lle rhoddir pris y cytunwyd arno i wneud gwaith, ond wrth i'r gwaith gael ei wneud, nodir diffygion neu broblemau newydd nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd, gan gynyddu'r gost yn sylweddol. Mae'n dwyllwr, ac erbyn hyn mae ganddo amser i ystyried ei droseddau o’r tu hwnt i fariau carchar."

Wrth amddiffyn Hanson, fe'i gwnaed yn glir i'r llys, er na blediodd yn  euog ar y cyfle cyntaf, ei fod wedi gwneud hynny cyn y dyddiad a osodwyd ar gyfer yr achos, gan arbed amser ac arian i'r llys. Er bod gan Mr Hanson euogfarnau blaenorol sylweddol, amlygodd yr amddiffyniad fod y diweddaraf yn 2012, sy'n dangos ei fod wedi ceisio cilio o'i orffennol troseddol.

Fel rhan o'r ddedfryd, gwnaed cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol i atal Mr Hanson rhag cynnig neu gynnal gwasanaethau adeiladu neu wella cartrefi fyth eto. Er na roddwyd gorchymyn oes, cafodd orchymyn 10 mlynedd, a fydd yn cyfyngu ar gyfleoedd busnes Hanson pan fydd yn gadael y carchar.

Gwnaethpwyd Cais am Enillion Troseddau i'r llys, fel y gall y cyngor geisio adennill cymaint o arian â phosibl fel iawndal i'w ddioddefwyr.