Mae'r data ansawdd aer ar gyfer 2023 yn dangos bod aer Caerdydd yn lanach, gyda chrynodiadau cyfartalog blynyddol llygryddion ymhell islaw terfynau cyfreithiol.
Nodwyd y gwelliant hwn yn ddiweddargan Auto Trader, a sgoriodd Caerdydd ymhlith y 10 dinas orau yn y DU am yr
ansawdd aer gorau, sy'n golygu mai hi yw'r unig ddinas yng Nghymru i dderbyn yr
anrhydedd hon.
I fonitro llygredd aer, mae'r cyngor yn defnyddio
gwahanol orsafoedd monitro ansawdd aer sy'n olrhain llygryddion fel Nitrogen
Deuocsid (NO2) a deunydd gronynnol (PM10 a PM2.5). Mae terfynau
cyfreithiol wedi eu gosod ar gyfer NO2 a PM10, ac mae
rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru fonitro ac adrodd ar eu canfyddiadau i
Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Dyma rai o brif ganfyddiadau data 2023:
- Safleoedd Monitro Awtomataidd: Cyn mis Mai 2023,
roedd pedwar safle (Fredrick Street, Richards Terrace, Stryd y Castell, ac
Ysgol Gynradd Lakeside) yn cydymffurfio â lefelau NO2, PM10, a PM2.5.
Roedd 45 safle ychwanegol a osodwyd ym mis Mai 2023 hefyd yn cydymffurfio.
- Safleoedd Monitro Anawtomataidd: Dangosodd data o 135
o safleoedd sy'n monitro NO2 eu bod yn cydymffurfio â safonau ansawdd aer,
gyda gostyngiad o 37% mewn allyriadau NO2 ers 2019. Roedd crynodiadau
cyfartalog NO2 yn is nag yn ystod y pandemig.
- Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAAau): Mae gan Gaerdydd
bedwar ARhAA (Canol y Ddinas, Stephenson Court, Pont Elái, a Llandaf).
Mae'r data diweddaraf yn dangos gwelliannau ym mhob ARhAA, gyda
chrynodiadau llygryddion yn is na'r terfynau cyfreithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet
dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd:
"Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y
DU, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf. Mae dod i gysylltiad â llygredd
aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'r risg o glefyd y galon, strôc,
clefydau anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn amcangyfrif bod 1,100 o farwolaethau y gellir eu hosgoi bob blwyddyn
yn gysylltiedig ag amlygiad i NO2.
"Er bod data 2023 yn galonogol, mae unrhyw
fath o lygredd aer yn niweidiol i iechyd, ac mae'n rhaid i ni barhau i wella
ansawdd aer Caerdydd. Mae'r cyngor wedi cymryd camau i leihau llygryddion, gan
gynnwys cyflwyno bysus trydan, ôl-ffitio bysus, gweithredu mesurau lliniaru
tacsis, a gwella llwybrau beicio a cherdded, sydd i gyd yn chwarae rhan wrth
wella'r aer rydym yn ei anadlu a helpu ein canlyniadau iechyd.
"Mae'r cyngor wedi gwneud newidiadau sylweddol
i lif traffig ar Stryd y Castell dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi arwain
at ostyngiad yn lefelau NO2 o dros 40μg/m3 i 33μg/m3, ymhell o fewn
terfynau cyfreithiol. Rwy'n falch iawn o ddatgelu bod Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau cyllid i wneud y newidiadau hyn yn barhaol, a fydd yn gwella’r
strydlun ac yn sicrhau bod y gwaith da hwn sy'n lleihau llygredd yn cael ei
gynnal a'i wella.
"I grynhoi, cafodd ansawdd aer Caerdydd ei
wella’n sylweddol yn 2023 o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig ac mae'n is na'r
lefelau a gafwyd yn ystod y pandemig. Er bod hyn yn galonogol, mae angen mwy o
waith. Gall pawb helpu i leihau llygryddion drwy ddefnyddio trafnidiaeth
gyhoeddus, beicio neu gerdded, a fydd hefyd yn helpu i leihau ein hôl troed
carbon a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd."