Wrth i Storm Darragh symud i ffwrdd o lannau'r DU, mae'r gwaith glanhau yng Nghaerdydd yn parhau, gyda staff y cyngor yn parhau i gael gwared â choed sydd wedi cwympo er mwyn sicrhau bod tir cyhoeddus yn ddiogel i drigolion ei ddefnyddio.
Cafodd canolfan gyswllt y cyngor
gyfanswm o dros 300 o alwadau dros y penwythnos oherwydd effaith y storm, gydag
adroddiadau yr effeithiwyd ar dros 189 o goed ar draws y ddinas.
Gwnaeth cryfder y gwyntoedd yn ystod storm
Darragh ddod â mwy o goed i lawr yn y ddinas mewn un noson nag mewn 20 mlynedd. Mae cant ac un ar ddeg o'r coed hyn wedi cael eu
gwneud yn ddiogel eisoes, gan eu bod yn berygl i'r cyhoedd, gyda 78 o goed sy'n
weddill yn cwympo mewn parcdir ac yn peri dim perygl i'r cyhoedd. Bydd meddygon
coed yn parhau i weithio yn ystod oriau golau dydd i barhau i gael gwared ar
goed sydd wedi cwympo.
Cafodd dwy ffordd eu cau yng Nghaerdydd
dros y penwythnos. Disgynnodd sawl coeden ar y ffordd ymadael oddi ar gylchfan Lecwydd, sy’n
arwain at yr A4232 tuag at Groes Cwrlwys, yn ogystal ag yn Heol Goch ym
Mhentyrch. Agorwyd y ddwy ffordd erbyn 4pm brynhawn Sul, er mwyn sicrhau bod y
llwybrau hyn ar agor i draffig.
Y flaenoriaeth
yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol bob amser yw sicrhau diogelwch y cyhoedd
a'n gweithlu, wrth barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i rai o aelodau
mwyaf agored i niwed y gymuned. Parhaodd y gwaith sy'n darparu Gwasanaethau
Cymdeithasol, Tai (gan gynnwys darpariaeth digartrefedd), Prydau ar Glud,
Teleofal, Priffyrdd ac Awdurdod yr Harbwr drwy gydol y storm.
Bu'r Tîm Rheoli Argyfyngau yn
gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fonitro lefelau'r tair afon sy'n
llifo i Gaerdydd. Cafodd y rhybuddion llifogydd ar gyfer Afon Elái ac Afon
Rhymni eu dileu nos Sadwrn, wrth i’r rhybudd ar gyfer Afon Taf ddod i ben fore
Sul.
Mae'r holl wasanaethau a amharwyd gan y
storm bellach wedi ailagor, gan gynnwys y canolfannau ailgylchu; mynwentydd;
Ysgol Farchogaeth Caerdydd; Rhaffau Uchel, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd;
Cartref Cŵn Caerdydd; Llwybr Golau Parc Bute; Atyniadau Nadolig Stryd Working,
a Chastell Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae'n anodd lliniaru effaith y stormydd
hyn, ond cyn gynted ag y cafodd y cyngor wybod am y rhagolygon, rhoddwyd
mesurau ataliol ar waith. Gwnaethom sicrhau bod gylïau a cheuffosydd yn glir,
aseswyd ardaloedd sy'n dueddol o gael eu heffeithio gan lifogydd yn y ddinas a
gwiriwyd unrhyw adeileddau ar y priffyrdd, fel sgaffaldiau, i sicrhau nad
oeddent yn peri unrhyw berygl i'r cyhoedd.
"Roedd effaith y storm yn sylweddol
gyda thros 160 o goed yn disgyn ar draws y ddinas. Gweithiodd staff yn ddiflino dros y
penwythnos i sicrhau bod y coed a oedd wedi cwympo yn cael eu blaenoriaethu a
bod yr holl goed a oedd yn beryg i'r cyhoedd yn cael eu symud.
"Yn ystod rhybuddion storm,
blaenoriaeth y cyngor bob amser yw sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau
i gael eu darparu, a dyma oedd yr achos yn ystod y Rhybudd Tywydd Coch hwn.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff a weithiodd drwy gydol y penwythnos i sicrhau bod
y cyhoedd yn parhau i fod yn ddiogel. Mae pawb wedi gwneud gwaith gwyrthiol, da
iawn a diolch unwaith eto."