09/12/24
Yn unol â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru, ymgynghorwyd ar gynigion i newid cynllun derbyniadau cydlynol Caerdydd.
Mae'r rheoliadau newydd yn dweud ei bod yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru lunio cynllun derbyniadau cydlynol i ysgolion ar gyfer pob ysgol prif ffrwd a gynhelir yn eu hardal o flwyddyn academaidd 2027-2028.
Caerdydd oedd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno derbyniadau cydlynol ac mae'r cynllun wedi ei fabwysiadu'n llwyddiannus ers dros saith mlynedd.
O'r 117 o ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd, mae 114 bellach o fewn y trefniadau cydlynol, a'u bwriad yw symleiddio'r broses derbyn i ysgolion drwy ganiatáu i ymgeiswyr wneud cais i ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir gan ddefnyddio un ffurflen gais gyffredin a sicrhau eu bod yn cael un cynnig yn unig am le ysgol.
Mae hyn yn galluogi rhieni i gyflwyno eu hysgolion a ffefrir i gyd ar un cais ar-lein, gan ddarparu gwell siawns o sicrhau ysgol a ffefrir yn y rownd gyntaf o dderbyniadau ac atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion, a fyddai fel arall yn atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn.
Yn dilyn cyflwyno rheoliadau Llywodraeth Cymru, rhoddwyd cyfle i randdeiliaid ddweud eu dweud ar y cynllun derbyniadau cydlynol yn ystod ymgynghoriad a gynhaliwyd tan 5 Tachwedd 2024.
Mae'r newidiadau gofynnol yn cynnwys:
- Ei gwneud yn orfodol i bob ysgol ymuno â'r cynllun o flwyddyn academaidd 2027-28. Yng Nghaerdydd mae hyn yn golygu dwy ysgol gynradd sy'n weddill ac un ysgol uwchradd sy'n weddill.
- Newid y dyddiad cau i 31 Hydref ar gyfer ceisiadau ysgolion uwchradd sy'n ofyniad rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru.
- Ni ddylai ymgeiswyr dderbyn mwy nag un cynnig derbyn i blentyn i ysgol a gynhelir.
Derbyniwyd tri ymateb ffurfiol a chodwyd pryderon ynghylch gofyniad rheoleiddio y dyddiad cau cynharach ar gyfer ceisiadau am leoedd mewn ysgolion uwchradd. Gan nad oes unrhyw ofyniad mewn cysylltiad â'r dyddiad agoriadol, bydd y Cyngor a Fforwm Derbyn i Ysgolion Caerdydd, yn ystyried opsiynau ar gyfer agor y broses dderbyn i ysgolion uwchradd yn gynharach nag mewn blynyddoedd blaenorol, er mwyn caniatáu digon o amser i deuluoedd gael eu cefnogi yn y broses ymgeisio.
Roedd safbwyntiau eraill yn ymwneud â rôl ac awdurdod Cyrff Llywodraethu ysgolion yn y broses derbyn i ysgolion a chydlynu trawsffiniol ag Awdurdodau Lleol eraill y bydd y Cyngor yn ceisio eu datblygu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod. Gellir gweld arfarniadau i'r rhain yn yr adroddiad.
Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae sefydlu cynllun derbyniadau cydlynol Caerdydd yn llwyddiannus yn hyrwyddo system deg o ddyrannu lleoedd mewn ysgolion yng Nghaerdydd, gan helpu rhieni drwy wneud y broses ymgeisio am le mewn ysgol yn symlach a rhoi gwell siawns iddynt sicrhau un o'u hysgolion a ffefrir, yn y rownd gyntaf o dderbyniadau.
"Dros y blynyddoedd rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Archesgobaeth Gatholig ac Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru i ehangu'r cynllun a symleiddio'r trefniadau, ac mae bron pob ysgol ledled y ddinas wedi ymuno erbyn hyn, gan sicrhau ffordd decach a haws o wneud cais am leoedd mewn ysgolion."
Nid yw'r cynllun derbyniadau cydlynol yn berthnasol i geisiadau am leoedd meithrin, lleoedd chweched dosbarth, na lleoedd mewn ysgolion arbennig a gynhelir.
Mae'r cynllun ar wahân i Bolisi Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd, sy'n gosod y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yng Nghaerdydd. Nid effeithir ar hawliau cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig a rhai gwirfoddol a gynorthwyir i ymgynghori ar eu trefniadau derbyn eu hunain a'u pennu ac i raddio trefn ymgeiswyr yn erbyn eu meini prawf gordanysgrifio eu hunain wrth gael eu cynnwys yn y cynllun derbyniadau cydlynol.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau 12 Rhagfyr i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 12fed Rhagfyr, 2024, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd