The essential journalist news source
Back
7.
December
2024.
Timau Cyngor Caerdydd yn ymateb drwy'r nos i ddigwyddiadau Storm Darragh
 7/12/24 
 
Roedd criwiau Cyngor Caerdydd yn wynebu amodau heriol, yn gweithio drwy’r oriau mân ac i mewn i’r bore heddiw, gan ymateb i ddigwyddiadau ar draws y ddinas a achoswyd gan ddyfodiad Storm Darragh.

Mae timau parciau a phriffyrdd wedi ymateb i adroddiadau o goed wedi cwympo ers tua 2.30am, gan gyrraedd safle Gabalfa Avenue o fewn 20 munud i’r adroddiad cyntaf i glirio’r briffordd.

Ers hynny, mae criwiau wedi mynychu dros 50 o alwadau i glirio coed sydd wedi cwympo a malurion, ac mae'r tîm yn blaenoriaethu ei ymateb yn seiliedig ar risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae timau hefyd yn gwirio tyllau draen, ceuffosydd, nentydd a sgriniau sbwriel i glirio unrhyw rwystrau i helpu i liniaru'r risg o lifogydd dŵr wyneb.

Y ffordd gyflymaf i’r cyhoedd riportio materion yw trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd, gyda staff yn gweithio i ymateb a chyfeirio’r adroddiadau at ein timau.

Am heddiw mae'r Cyngor yn blaenoriaethu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig ym meysydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai (gan gynnwys darpariaeth digartrefedd), Pryd ar Glud, Teleofal, Priffyrdd; ac Awdurdod yr Harbwr.

Er mwyn diogelu diogelwch y cyhoedd, mae'r cyfleusterau canlynol ar gau:

• Canolfannau Ailgylchu  ar gau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

• Hybiau a Llyfrgelloedd ar gau Dydd Sadwrn

• Dim Casgliadau Gwastraff ar ddydd Sadwrn

• Castell Caerdydd ar gau ddydd Sadwrn

• Mynwentydd ar gau dydd Sadwrn

• Cartref Cŵn Caerdydd ar gau i'r cyhoedd ddydd Sadwrn

• Rhaffau Uchel, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ar gau Dydd Sadwrn

• Ysgol Farchogaeth Caerdydd ar gau dydd Sadwrn

Mae Gŵyl y Gaeaf, Llwybr Golau Parc Bute ac atyniadau Nadolig  ar Stryd Working hefyd ar gau.

Mae Marchnad Caerdydd ar agor heddiw. Mae canolfan hamdden Trem Y Mor  hefyd ar agor, yn ogystal â'r canolfannau hamdden sy'n cael eu rhedeg gan GLL/Better. Bydd y pwll rhyngwladol yn agor am hanner dydd.

Tra bod disgwyl i’r rhybudd tywydd coch am wynt ddod i ben bore ma, mae’r tywydd garw yn debygol o barhau drwy gydol y dydd gyda rhybudd ambr am law trwm yn parhau yn ei le. Mae'r amodau'n parhau i fod yn beryglus.

Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa, gan gynnwys lefelau afonydd, ac mae cyngor a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.