The essential journalist news source
Back
6.
December
2024.
Nodwyd y cynigydd a ffefrir ar gyfer Partneriaeth Adeiladu Tai Caerdydd a'r Fro

Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn eu partneriaeth gyffrous i adeiladu cartrefi fforddiadwy cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyflymder ar draws y rhanbarth.

 Yn dilyn proses gaffael deialog gystadleuol sydd wedi nodi'r cynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried argymhellion i gymeradwyo penodi'r cynigydd a ffefrir yn bartner datblygu yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 12 Rhagfyr.

Y bartneriaeth yw ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei chynllun penigamp Cartrefi Caerdydd, ac mae'n rhan o'i chynlluniau datblygu ehangach - y rhaglen ddatblygu fwyaf dan arweiniad cyngor yng Nghymru, allai godi mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys o leiaf 2,800 o dai cyngor newydd.

Mae'r cydweithio â Bro Morgannwg yn ganlyniad ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol ledled y rhanbarth i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol drwy godi o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Bydd tua hanner yr holl gartrefi newydd yn eiddo fforddiadwy i'w cadw gan y Cynghorau ar gyfer cynlluniau rhent cymdeithasol neu ranberchenogaeth, tra bydd y gweddill yn cael ei werthu ar y farchnad agored.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Roedd ein profiad o'n partneriaeth dai gyntaf yn achos cryf dros gyflwyno'r safleoedd sy'n weddill yn ein rhaglen ddatblygu trwy drefniant partneriaeth arall. Mae'r dull hwn wedi lleihau'r risg o gyflawni ac wedi ein galluogi i gael prosiectau ar y safle yn gyflymach, yn ogystal ag uno safon cartrefi a chartrefi'r cyngor a adeiladwyd i'w gwerthu trwy fabwysiadu dull 'deiliadaeth ddall'.

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Bro Morgannwg ar y bartneriaeth hon ac i gyrraedd y pwynt lle rydym ar fin penodi datblygwr i weithio gyda ni i ddarparu cartrefi newydd mwy effeithlon o ran ynni i Gaerdydd a'r Fro dros y 10 mlynedd nesaf.

"Mae'r broses dendro wedi bod yn hynod gystadleuol ac rydym yn ddiolchgar i bob cynigiwr am eu cyflwyniadau a'u cyfranogiad yn y broses. Edrychwn ymlaen yn awr at benodi ein partner datblygu, yn amodol ar yr holl ddiwydrwydd dyladwy angenrheidiol, ac ailadrodd llwyddiant ein cynllun Cartrefi Caerdydd gyda'n gilydd yn y Bartneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro newydd hon."

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae hwn yn drefniant partneriaeth cyffrous a fydd yn arwain at ddarparu nifer fawr o dai ar draws rhanbarth Caerdydd a'r Fro.

"Byddant yn ynni-effeithlon ac wedi'u hadeiladu'n gynaliadwy, sy'n cyd-fynd yn berffaith ag Ymrwymiad Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

"Bydd cyfran fawr hefyd yn dai cyngor, yn dilyn cynlluniau adeiladu tai blaenorol i ateb y galw cynyddol am y math hwn o eiddo.

"Yn ddiweddar, cwblhaodd y Cyngor waith ar ddatblygiad tai cyngor ar Hayeswood Road yn y Barri, a ddaeth ar ôl cyflawni prosiectau tebyg: Llys Llechwedd Jenner, Lon y Felin Wynt a Clos Holm View."

Pan fydd yn cyfarfod ar 12 Rhagfyr, argymhellir i'r Cabinet gymeradwyo'r rhestr o safleoedd datblygu penodol i'w cynnwys o fewn y rhaglen bartneriaeth i alluogi piblinell ddatblygu ddiffiniedig ar gyfer oes y bartneriaeth, ac i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i ddod â phenodi'r cynigydd a ffefrir i ben.

 Mae'r adroddiad llawn ar gael yma Agenda ar gyfery Cabinet ddydd Iau, 12 Rhagfyr, 2024, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd 

 Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn craffu’r adroddiad pan fydd yn cyfarfod ar 9 Rhagfyr. Bydd agenda a dolen i weddarlledu y cyfarfod hwnnw ar gael yma Agenda ar gyfery Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ddydd Llun, 9 Rhagfyr,2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd