The essential journalist news source
Back
4.
December
2024.
Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

4.12.24

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ddydd Sul, 8 Rhagfyr, am 2pm.

Mae croeso i unrhyw un ddod i'r gwasanaeth i goffau eu hanwyliaid dros gyfnod y Nadolig.

Bydd y gwasanaeth 45 munud, a gynhelir gan y Parchedig Jason Tugwell, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau. Deborah Morgan Lewis fydd yn arwain y canu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet cyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd i'r rhai sydd wedi colli rhywun agos. Mae croeso i bobl o bob ffydd ddod ynghyd a chofio'r rhai sy'n anffodus wedi'n gadael."

Bob blwyddyn mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cefnogi elusen wahanol, ac eleni bydd casgliad er budd Calon Hearts yn cael ei gynnal yn ystod y gwasanaeth.

Mae o leiaf 12 o bobl ifanc sy'n ymddangos yn iach yn marw bob wythnos yn y DU oherwydd cyflyrau'r galon nad oeddent hyd yn oed yn gwybod eu bod ganddyn nhw. Cenhadaeth Calon Hearts yw lleihau'r nifer hwn, fel nad oes yr un teulu yn colli rhywun annwyl i gyflwr y galon y gellid bod wedi'i ganfod a'i reoli.

Bydd ffrwd fyw o'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un nad yw'n gallu bod yno yn bersonol, a bydd recordiad o'r digwyddiad ar gael ar-lein o ddydd Mawrth 10 Rhagfyr ymlaen. Bydd angen cyfrinair i gael mynediad. Am fanylion, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Profedigaeth ar 029 2054 4820 neu drwy e-bostioDerbynfaDraenenPen-y-Graig@caerdydd.gov.uk