28/11/24
Mae'n amser am ein 🧵 tai olaf a'r thema yw Adeiladu'r Cartrefi ‘Cywir'. Beth ry'n ni'n ei feddwl? Wel dyma ni.
Mae adeiladu mwy o gartrefi yn flaenoriaeth yn sicr, ond rydym hefyd yn sicrhau bod y cartrefi a adeiladwn yn addas i'r bobl a fydd yn byw ynddynt, ac yn diwallu eu hanghenion a'u dyheadau.
Mae pob un o'n tai Cyngor newydd yn bodloni safonau hygyrchedd a chartrefi gydol oes, wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gynnwys y canlynol:
✅Ystafell wlyb ar y llawr gwaelod
✅Mynediad gwastad i'r drysau ffrynt a chefn
✅Grisiau mwy llydan yn barod ar gyfer gosod lifft risiau yn y dyfodol
✅Panel yn y nenfwd y gellir ei dynnu allan er mwyn gosod lifft trwy'r llawr yn y dyfodol
Mae ein cartrefi newydd yn hynod gynaliadwy, yn effeithlon iawn o ran ynni & yn cynnwys technolegau adnewyddadwy sy'n golygu eu bod yn cael eu hadeiladu ar gyfer heddiw - gan helpu i arbed arian i drigolion ar gostau ynni & ar gyfer y dyfodol -maen nhw'n fwy caredig i'r blaned.
Nawr, mae disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghaerdydd gynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf felly mae'n hanfodol ein bod yn cynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod ein cartrefi'n addas i'r diben, gan helpu pobl hŷn i gadw'n heini ac yn annibynnol yn hirach.
Felly mae gennym gynlluniau ar gyfer amrywiaeth o lety newydd i bobl hŷn gan gynnwys cynlluniau Byw yn y Gymuned, cynlluniau penodol ar gyfer pobl hŷn a chynlluniau aml-genhedlaeth.
Bydd y 45 fflat hyn ar gyfer pobl 55+ ar Stryd Bute yn barod yr haf nesaf https://www.youtube.com/watch?v=U81K6FZfFX0&t=51s
Mae preswylwyr eisoes yn mwynhau eu cartrefi a'u cyfleusterau newydd yn Nhŷ Addison yn Nhredelerch (y cyntaf o'n cynlluniau Byw yn Gymuned newydd i'w cwblhau) gan gynnwys gwylio'r haul yn machlud o deras y to, sydd â golygfeydd trawiadol! 🌇 🌇
🎥https://www.instagram.com/reel/C1C-PctLJR_/?igsh=MTVmNXl2YTVub2cycQ==
A dydy'r golygfeydd o'r fflatiau newydd yn ein datblygiad Byw yn y Gymuned Heol Lecwydd ddim yn ddrwg chwaith.
Bydd y 44 fflat hyn, yng nghanol y gymuned ac sydd â mynediad gwych at amwynderau lleol, yn barod yn gynnar y flwyddyn nesaf.
.
Gyda'i gilydd, mae ein cynlluniau llety i bobl hŷn yn fuddsoddiad o £200m i adeiladu o leiaf 620 o fflatiau newydd i bobl hŷn. Gallwch ddysgu mwy am gynlluniau eraill yn y rhaglen yma: https://www.devandregencardiff.co.uk/cy/tai/datblygiadau-tai/
A'r peth gorau am y cynlluniau hyn yw eu bod nhw nid yn unig yn creu cartrefi ar gyfer byw'n annibynnol, ond maen nhw'n helpu i gynyddu argaeledd cartrefi cyngor i deuluoedd, pan fydd tenantiaid hŷn yn symud o gartrefi mwy i fflatiau sy'n diwallu eu hanghenion presennol yn well.
Ac ar y nodyn hwnnw, rydym wedi dod i ddiwedd ein cyfres o 🧵 yn edrych ar dai yng Nghaerdydd. Gobeithiwn i'r wybodaeth hon fod o ddefnydd i chi.