26/11/24
Gofynnir i'r gymuned leol ac aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar bont newydd arfaethedig ar draws Afon Taf.
Mae'r bont arfaethedig i gerddwyr a beiciwyr rhwng
y Marl yn Grangetown a Pharc Hamadryad yn Butetown yn cefnogi cynllun adfywio
ehangach y Cyngor i ailddatblygu ystâd Trem y Môr.
Byddai'r bont yn cynnig cysylltiad pwysig i
gymunedau naill ochr i'r afon, i ysgolion, parciau a chyfleusterau hamdden gan
gysylltu â'r rhwydwaith ehangach o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, gan
gynnwys Llwybr y Bae a Llwybr Elái.
Ar ôl cynnal ymgynghoriad ar y cynnig ddiwedd 2022, gwnaed nifer o addasiadau i'r cynllun gan gynnwys symud lleoliad y bont ymhellach i'r de, dylunio lonydd ar wahân i gerddwyr a beicwyr ac ychwanegu goleuadau i ganllawiau’r bont.
Mae'r Cyngor bellach bron yn barod i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y bont ac mae'n awyddus i glywed unwaith eto beth yw barn pobl am y cynlluniau diwygiedig mewn Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais sy'n dechrau Ddydd Llun, 25 Tachwedd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar-lein tan 23 Rhagfyr a gall partïon â diddordeb ddarganfod mwy am y cynlluniau a chyflwyno eu hadborth yma: https://www.devandregencardiff.co.uk/cy/dweudeichdweud/pont-cerddwyr-a-beiciau-trem-y-mor/
Bydd sesiwn wybodaeth galw heibio, lle gall aelodau'r cyhoedd sgwrsio â swyddogion a lleisio eu barn am y bont arfaethedig, hefyd yn cael ei chynnal yn CF11 Ffitrwydd (Canolfan Hamdden Trem y Môr gynt) Ddydd Mercher, 4 Rhagfyr, 12pm - 6.30pm.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae hwn yn gynllun cyffrous iawn a fyddai'n creu cysylltedd llawer gwell rhwng Butetown a Grangetown ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Byddai'r bont yn dirnod ac yn atyniad yn ôl ei rhinwedd ei hun ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl am y cynlluniau diweddaraf cyn i'r cais cynllunio gael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn nesaf."