Thema Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Merched eleni, a elwir yn fwy cyffredin yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, yw ‘Mae’n Dechrau Gyda Dynion’.
Bob
blwyddyn, mae 25 Tachwedd yn nodi’r diwrnod byd-eang i godi ymwybyddiaeth o’r
ymgyrch sy'n annog pobl, yn enwedig dynion a bechgyn, i weithredu a newid yr
ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais.
Mae trais
yn erbyn menywod a merched wedi'i wreiddio mewn nodweddion gwrywaidd niweidiol
ac mae thema eleni yn tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r agweddau a'r
ymddygiadau sy'n cyfrannu at ofn trais i fenywod a merched yn eu bywydau bob
dydd, a hynny gan ddechrau gyda dynion.
Mae Cyngor
Caerdydd bellach yn ei drydydd tymor fel sefydliad achrededig a gydnabyddir gan
White Ribbon UK, yr elusen flaenllaw sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal
trais yn erbyn menywod a merched, am ei ymrwymiad i weithio tuag
at newid diwylliant trawsnewidiol mewn diwylliant staff, systemau, gyda
chwsmeriaid, rhanddeiliaid a chymunedau.
Mae’r Cyngor wedi cytuno hefyd i Gaerdydd fod yn
ddinas sy’n adlewyrchu egwyddorion y Confensiwn ar Ddiddymu pob math o
Wahaniaethu yn erbyn Menywod. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen waith bwrpasol i
hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, amddiffyn hawliau menywod a dileu pob math o
arferion gwahaniaethol yn erbyn menywod.
Unwaith
eto eleni, mae calendr llawn o ddigwyddiadau, gweithdai a
chyfleoedd hyfforddi wedi'i drefnu drwy gydol mis Tachwedd a dechrau mis
Rhagfyr i nodi'r ymgyrch. Mae hyn yn cynnwys yr Wylnos Ganhwyllau flynyddol Dim
Yn Fy Enw I ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf a’r
orymdaith y bore yma o Heol y Gadeirlan i Eglwys Gadeiriol Llandaf ar gyfer
gwasanaeth Cynnau Cannwyll aml-ffydd.
Mae symbol nodedig y Rhuban Gwyn wedi ei daflunio
hefyd ar dŵr Castell Caerdydd i gofio pawb y mae Trais yn erbyn Menywod,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi effeithio arnynt ac i dynnu sylw at ein
dull dinas gyfan o roi diwedd i drais a cham-drin.
Dywedodd Cennad y Rhuban Gwyn a’r Aelod Cabinet
dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver: “Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd - fel
cyngor, dinas, cenedl i atal trais yn erbyn menywod a merched ond fel y mae
thema'r ymgyrch Rhuban Gwyn eleni yn ei ddweud,
mae'n dechrau gyda dynion, felly rydym yn gweithio
i sicrhau bod hyd yn oed mwy o ddynion yn cael eu cefnogi i fod yn well
cynghreiriaid i fenywod a merched.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i herio a newid unrhyw
ddiwylliant o rywiaeth a chasineb at fenywod drwy weithgareddau ac ymyriadau
sy'n mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol a thrwy barhau i roi atebolrwydd
am gam-drin ar y rhai sy'n achosi niwed.”