The essential journalist news source
Back
22.
November
2024.
Y Diweddariad: 22 Tachwedd 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn De Affrica ar 23 Tachwedd yng Nghaerdydd
  • Datgelu cyflawniadau a chynlluniau Caerdydd yn y dyfodol fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF
  • Penodi Contractwr Dylunio Manwl ac Adeiladu ar gyfer Cam Cyntaf Cledrau Caerdydd

 

Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn De Affrica ar 23 Tachwedd yng Nghaerdydd

Bydd Cymru'n herio De Affrica ar  ddydd Sadwrn 23 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 5.40pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.30pm tan 9.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau'n agor am 3.40pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.   Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Datgelu cyflawniadau a chynlluniau Caerdydd yn y dyfodol fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF

Mae Caerdydd wedi cymryd camau breision gyda hyrwyddo hawliau plant a gwrando ar farn pobl ifanc ers dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf yn y DU, yn ôl adroddiad newydd.

Derbyniodd Cyngor Caerdydd y teitl mawreddog gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF UK) i'r ddinas y llynedd, gan gydnabod ymrwymiad yr awdurdod i flaenoriaethu hawliau plant, tra'n sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.

Mae'r prif lwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys: 

Addysg ar Hawliau Plant
Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran addysgu oedolion a phlant am hawliau plant.  Mae mwy na 70% o staff y cyngor wedi derbyn hyfforddiant, ac mae bron pob ysgol gynradd wedi ymuno â rhaglen Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF.  Mae'r fenter hon yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gallu eirioli drostynt eu hunain.

Cyfranogiad a Llais
Mae Caerdydd wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn weithredol mewn prosesau gwneud penderfyniadau.  Cyfrannwyd dros 3,000 awr o amser dinasyddiaeth weithredol gan blant a phobl ifanc, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn cyfarfodydd a phenderfyniadau pwysig i siapio'r ddinas.

Gwella Mannau Cyhoeddus
Mae'r ddinas wedi canolbwyntio ar wella parciau a mannau cyhoeddus i'w gwneud yn well i blant.  Mae plant a phobl ifanc wedi helpu i fapio cymunedau ar draws y ddinas, gan greu amgylcheddau mwy diogel a phleserus i blant a phobl ifanc.

Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Mae Caerdydd wedi ymgymryd â phrosiectau amrywiol i gefnogi merched, plant o gefndiroedd amrywiol, a'r rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.  Mae ymdrechion i fynd i'r afael â gwaharddiadau ysgolion a sicrhau triniaeth deg i bob plentyn wedi cael blaenoriaeth.

Darllenwch fwy yma

 

Penodi Contractwr Dylunio Manwl ac Adeiladu ar gyfer Cam Cyntaf Cledrau Caerdydd

Yn dilyn proses dendro, mae'r contract ar gyfer Dylunio Manwl ac Adeiladu ar gyfer cam cyntaf Cledrau Caerdydd wedi'i ddyfarnu i Graham Group.

Daw hyn yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu cyfraniadau ariannol ar gyfer y prosiect - £50m gan Lywodraeth y DU ac arian cyfatebol Llywodraeth Cymru yn rhoi £50m arall ar gyfer y cynllun.

Mae Graham Group wedi'i benodi o dan Gontract Ymwneud Cynnar gan Gontractwr, a fydd yn caniatáu i'r Cyngor a TC weithio gyda nhw yn ystod camau cynnar y contract i reoli cost y dyluniad a sut y bydd y prosiect yn cael ei adeiladu.

Darllenwch fwy yma