The essential journalist news source
Back
18.
November
2024.
Penodi Contractwr Dylunio Manwl ac Adeiladu ar gyfer Cam Cyntaf Cledrau Caerdydd
 18/11/24

 Yn dilyn proses dendro, mae’r contract ar gyfer Dylunio Manwl ac Adeiladu ar gyfer cam cyntaf Cledrau Caerdydd wedi’i ddyfarnu i Graham Group.

Daw hyn yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu cyfraniadau ariannol ar gyfer y prosiect - £50m gan Lywodraeth y DU ac arian cyfatebol Llywodraeth Cymru yn rhoi £50m arall ar gyfer y cynllun.

Mae Graham Group wedi’i benodi o dan Gontract Ymwneud Cynnar gan Gontractwr, a fydd yn caniatáu i'r Cyngor a TC weithio gyda nhw yn ystod camau cynnar y contract i reoli cost y dyluniad a sut y bydd y prosiect yn cael ei adeiladu.

Mae'r prosiect wedi'i rannu'n ddau gam cyflawni, sef:

Cam 1a) Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r cam hwn yn cael ei ariannu'n llawn a bydd angen ailddatblygu'r rhwydwaith priffyrdd o amgylch Sgwâr Callaghan yn sylweddol, er mwyn i’r tram/trên allu cysylltu â llinell reilffordd bresennol Bae Caerdydd, yn ogystal â phlatfform tram/trên newydd yng Nghaerdydd Canolog.

Er mwyn sicrhau y gall y tram gydgysylltu â llwybrau cerdded a beicio, bydd ardal gyhoeddus newydd o flaen Sgwâr Callaghan, beicffordd ar wahân newydd i gysylltu Caerdydd Canolog â Sgwâr Callaghan sy'n cysylltu â'r rhwydwaith strategol ehangach, a newidiadau i'r trefniadau mynediad ar gyfer traffig drwodd cyffredinol trwy Rodfa Bute a Heol Eglwys Fair Isaf.

Cam 1b) Gorsaf Bae Caerdydd i Stryd Pen y Lanfa. Nid yw'r cam hwn yn cael ei ariannu ar hyn o bryd ond bydd yn cynnwys ailfodelu'r rhwydwaith priffyrdd o amgylch y Rhodres a Stryd Pen y Lanfa i ganiatáu adeiladu estyniad trac tram newydd. Bydd y rhan hon o'r cynllun hefyd yn cynnwys gwella cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gyda chyfleusterau croesi newydd a beicffordd ar wahân newydd i gysylltu Roald Dahl Plass yn well gyda datblygiad yr arena dan do newydd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae'n newyddion gwych ein bod wedi cael cadarnhad o'r cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gall y gwaith manwl ddechrau bellach, gyda'r dyluniad manwl i gael ei gwblhau erbyn Hydref 2025 a disgwylir i'r gwaith ar lawr gwlad ddechrau ddiwedd y flwyddyn nesaf.

“Yn ystod y contract, bydd y Cyngor a TC yn gweithio'n agos gyda Graham Group i sicrhau'r gwerth cymdeithasol gorau posibl i'r contract, drwy greu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol. O dan y rhaglen waith bresennol, gallai'r gwaith adeiladu fod wedi'i gwblhau erbyn dechrau 2028, gyda thramiau'n rhedeg ar y trac yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

“Mae Cledrau Caerdydd yn gynllun uchelgeisiol i ddarparu system drafnidiaeth tramiau newydd Caerdydd a fydd, yn y pen draw, yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i ddwyrain y ddinas gan gysylltu â gorsaf arfaethedig Parcffordd. Yn dilyn rhagor o gyfleoedd cyllid, rydym yn bwriadu darparu gwasanaeth tramiau traws-ddinas sy'n fforddiadwy ac yn ddibynadwy i'r cyhoedd ei ddefnyddio, ac i gysylltu rhai o gymunedau tlotaf Caerdydd â'r rhwydwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf.

“I ddechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn o'r diwedd yn sicrhau bod Butetown wedi'i chysylltu'n iawn â chanol y ddinas, trwy Caerdydd Canolog, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad i'r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.”