The essential journalist news source
Back
18.
November
2024.
Y newyddion gennym ni - 18/11/24

Image

14/11/24 - Mae gan Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd fys ar y pwls!

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn ehangu eu cynnig iechyd a lles, gyda lansiad cynllun monitorau pwysedd gwaed newydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/11/24 - Y diweddaraf am gynlluniau i warchod adeiladau treftadaeth allweddol yng Nghaerdydd

Mae'r diweddariad ar gynlluniau i warchod adeiladau hanesyddol allweddol yng Nghaerdydd gan gynnwys Y Plasty ar Heol Richmond, Yr Hen Lyfrgell ar yr Ais, a Merchant Place/Adeiladau Cory ym Mae Caerdydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/11/24 - Cefnogaeth gyhoeddus i gynlluniau i warchod 11 parc yng Nghaerdydd yn barhaol

Gallai 11 o barciau yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ganfod cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/11/24 - Adeiladu parc sglefrio Llanrhymni yn dechrau cyn bo hir

Cyn bo hir, bydd gan sglefrwyr yng Nghaerdydd barc sglefrio newydd atyniadol i'w fwynhau.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/11/24 - Ymchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Caerdydd

Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru, mae'r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn un sy'n gynyddol enbyd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/11/24 - Dod â'r Goedwig Genedlaethol i chwe Ysgol Caerdydd trwy gydweithrediad Trees for Cities

Bydd chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn trawsnewid eu hierdydd chwarae yn amgylcheddau dysgu llawn natur fel rhan o'r rhaglen Ierdydd Chwarae Iach.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/11/24 - Ysgol Gynradd Windsor Clive yn cael ei gwobrwyo am ragoriaeth mewn iechyd a lles plant

Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái wedi cael ei chydnabod fel Ysgol Ragoriaeth Thrive am roi iechyd a lles plant a staff wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/11/24 - Prif gontractwr dros dro wedi'i benodi i ailgychwyn prosiect adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi prif gontractwr dros dro i adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed, gan ddiogelu'r prosiect gwerth £108m ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan wneud taliadau o dros £7m i'r gadwyn gyflenwi bresennol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/11/24 - Dathlu Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol 2024

Dathlu Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol 2024: Cyngor Caerdydd yn tynnu sylw at gynnydd o ran darparu Prydau Ysgol Am Ddim i Ddisgyblion Cynradd

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/11/24 - Ceisiadau i Ysgolion Cynradd ar gyfer Mis Medi 2025 nawr ar agor

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2025 ar agor nawr ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio pob un o'u pum dewis am y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol sydd wedi'i dewis ganddyn nhw.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/11/24 - Cynlluniau Caerdydd ar gyfer cyfeiriad Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol

Ers mis Ebrill 2014, mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio ochr yn ochr â'i bedwar awdurdod lleol partner cyfagos i weithredu Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol cyfredol Llywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/11/24 - Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth Cartrefi Plant Newydd 2024 i Wella Gofal i Blant sy'n Derbyn Gofal

Mae adroddiad newydd yn amlinellu ymrwymiad Caerdydd i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar i Blant sy'n Derbyn Gofal yn y ddinas wedi cael ei ddatgelu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/11/24 - Tai, Iechyd, Cymuned: Pentref lles cyntaf Caerdydd yn cael ei gymeradwyo

Mae pentref lles cyntaf Caerdydd, datblygiad 27 erw sy'n dwyn ynghyd iechyd a thai i ddarparu cyfleusterau a chartrefi newydd i bobl leol, ar ei ffordd i orllewin y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/11/24 - Mae Castell Caerdydd i'w weld yn nrama'r BBC Wolf Hall: The Mirror and the Light

Mae Drama boblogaidd gan y BBC 'Wolf Hall: The Mirror and the Light' yn cynnwys cast llawn sêr yn cynnwys Mark Rylance fel Thomas Cromwell, Damian Lewis fel Brenin Harri VIII, ac efallai y bydd gwylwyr â llygad barcud yn gweld Castell hanesyddol Caerdyd

Darllenwch fwy yma