14/11/24
Mae hybiau a
llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn ehangu eu cynnig iechyd a lles, gyda lansiad
cynllun monitorau pwysedd gwaed newydd.
Yn yr un modd ag y gall deiliaid cardiau llyfrgell fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill gan gyfleusterau ar draws y ddinas, gall aelodau'r cyhoedd fanteisio ar y cynllun benthyciadau newydd a fydd yn caniatáu iddynt gadw golwg ar eu pwysedd gwaed.
Y cynllun yw'r fenter iechyd a lles ddiweddaraf gan y gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n cefnogi'r nod o gyflawni gweithgarwch i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled y ddinas.
Mae gan un o bob tri oedolyn yn y DU bwysedd gwaed uchel ond nid yw llawer yn sylweddoli hynny. Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel dros gyfnod o amser arwain at nifer o broblemau iechyd gan gynnwys strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau, dementia fasgwlaidd a diabetes.
Gall bod yn fwy
ymwybodol o'u pwysedd gwaed alluogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w
ffordd o fyw fel bod yn egnïol, cadw at bwysau iach, bwyta'n iach, rhoi'r gorau
i ysmygu neu gymryd meddyginiaeth, er mwyn osgoi'r canlyniadau negyddol hyn.
Fodd bynnag,
hyd yn oed pan gynghorir pobl i fonitro eu pwysedd gwaed, gall cost prynu
dyfais fod yn rhwystr.
Nawr, bydd
monitorau a ddilysir gan Gymdeithas Gorbwysedd Prydain ac Iwerddon at ddefnydd
cartref ar gael i'w benthyca am ddim am gyfnodau o dair wythnos i alluogi
preswylwyr i fonitro eu hunain gartref. Bydd cwsmeriaid yn cael llyfryn sy'n
cynnwys gwybodaeth am pam mae’n bwysig monitro pwysedd gwaed, achosion pwysedd
gwaed uchel, sut i ddefnyddio'r ddyfais a chofnodi canlyniadau a beth i'w wneud
os ydyn nhw'n poeni am y darlleniadau maen nhw'n eu cymryd.
Gall aelodau
o'r gymuned a hoffai fenthyca dyfais ond nad oes ganddynt gerdyn llyfrgell ar
hyn o bryd gofrestru am un am ddim yn eu hyb neu eu llyfrgell leol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Rydym yn falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i'n cwsmeriaid. Gall llawer o bobl deimlo'n gynhyrfus wrth i'w pwysedd gwaed gael ei gymryd mewn lleoliad gofal iechyd, a all effeithio ar gywirdeb eu darlleniad. Trwy gael benthyg dyfais o'u llyfrgell neu eu hyb leol, gall cwsmeriaid wneud y monitro yng nghysur eu cartrefi eu hunain a chymryd camau i wella eu hiechyd eu hunain."