Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
- Ceisiadau i Ysgolion Cynradd ar gyfer Mis Medi 2025 nawr ar agor
- Prif gontractwr dros dro wedi'i benodi i ailgychwyn prosiect adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed
- Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth Cartrefi Plant Newydd 2024 i Wella Gofal i Blant sy'n Derbyn Gofal
- Cynlluniau Caerdydd ar gyfer cyfeiriad Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol
Ceisiadau i Ysgolion Cynradd ar gyfer Mis Medi 2025 nawr ar agor
Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2025 ar agor nawr ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio pob un o'u pum dewis am y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol sydd wedi'i dewis ganddyn nhw.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon a chofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd os yw'n mynychu meithrinfa'r ysgol honno. Rhaid gwneud cais o'r newydd am le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd.
Mae pob ardal yng Nghaerdydd yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.
Caiff ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd cymunedol eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cyngor drwy'r system dderbyn ar-lein.
Mae'r Cyngor hefyd yn cydlynu derbyniadau ar gyfer 21 o'r 23 ysgol ffydd gynradd. Eleni mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yn ymuno â'r cynllun derbyniadau cydlynol. Mae hyn yn galluogi rhieni i gyflwyno eu hysgolion a ffefrir i gyd ar un cais ar-lein.
I gael lle mewn ysgol sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol, rhaid i chi wneud cais trwy system dderbyniadau ar-lein y Cyngor.
Dylai rhieni sy'n gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinas Llandaf neu Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol.
Prif gontractwr dros dro wedi'i benodi i ailgychwyn prosiect adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi prif gontractwr dros dro i adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed, gan ddiogelu'r prosiect gwerth £108m ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan wneud taliadau o dros £7m i'r gadwyn gyflenwi bresennol.
Mae'r cwmni adeiladu Borley Engineering Services Ltd (BESL) o Gymru wedi'i ddewis fel y prif gontractwr dros dro brys i sicrhau y gall gwaith ar y safle ailgychwyn cyn gynted â phosibl. Daw'r penderfyniad hwn wrth i ymarfer tendro ddechrau i ddewis prif gontractwr newydd i weld y prosiect yn dod i'w derfyn.
Fel rhan o'r trefniadau gyda gweinyddwr ISG, bydd y Cyngor yn penodi BESL ar sail frys a bydd yn arbed swyddi ac yn diogelu'r gwaith a gwblhawyd hyd yma drwy wneud taliadau o fwy na £7m i'r isgontractwyr a'r cyflenwyr presennol ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau. Credir bod Campws Cymunedol y Tyllgoed yn un o'r prosiectau mwyaf a gafodd ISG ar y safle ledled y DU ac nid yw'r trefniant hwn wedi'i efelychu mewn mannau eraill. Mae'r awdurdod lleol wedi ymgysylltu'n weithredol â'r isgontractwyr drwy gydol y broses, y mae llawer ohonynt wedi'u lleoli o fewn 20 milltir i safle Campws Cymunedol y Tyllgoed.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma'r prosiect mwyaf o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu hyd yn hyn.
Mae'r cynllun yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar un safle yn y Tyllgoed.
Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth Cartrefi Plant Newydd 2024 i Wella Gofal i Blant sy'n Derbyn Gofal
Mae adroddiad newydd yn amlinellu ymrwymiad Caerdydd i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar i Blant sy'n Derbyn Gofal yn y ddinas wedi cael ei ddatgelu.
Bydd Strategaeth gynhwysfawr Cartrefi Plant 2024 yn cael ei chyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w chymeradwyo ac yn argymell cymeradwyo'r Strategaeth Darparu Cartrefi i Blant, dirprwyo awdurdod ar gyfer prosesau caffael, a chydweithio ag awdurdodau lleol eraill.
Mae'r strategaeth yn rhan o ymateb y Cyngor i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy'n gorfodi defnyddio endidau nid-er-elw ar gyfer darparu gwasanaethau cartrefi gofal.
Pwyntiau Allweddol y Strategaeth
Adeiladu ar Lwyddiant: Mae'r strategaeth yn adeiladu ar Strategaeth Gwasanaethau Plant Caerdydd 2023-26, sy'n canolbwyntio ar ddarparu'r cymorth iawn i blant ar yr adeg a'r lle iawn. Dros y 18 mis diwethaf, mae Caerdydd wedi canfod, adnewyddu a chofrestru pedwar cartref preswyl newydd yn llwyddiannus, gyda phedwar cartref arall yn cael eu hadnewyddu. Ar hyn o bryd, mae'r cartrefi hyn yn darparu lleoedd i 20 o blant sydd angen gofal. Yn ogystal, mae eiddo mwy gyda phum fflat hunangynhwysol wedi'i brynu ac mae'n cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc.
Cynlluniau'r Dyfodol: Nod y strategaeth yw cynyddu nifer y cartrefi plant yng Nghaerdydd yn sylweddol, lleihau dibyniaeth ar y farchnad, a chreu trefniadau contractio newydd gyda darparwyr. Y nod yw darparu tua 20 o gartrefi newydd o fewn model comisiynu, gan ddarparu lleoedd ychwanegol ar gyfer 60 o blant.
Ymgysylltu a chydweithio: Cafodd digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 adborth cadarnhaol gan dros 70 o gynrychiolwyr o sefydliadau gwahanol. Pwysleisiodd y prif adborth bwysigrwydd contractau hirdymor, contractau bloc i leihau effaith gwelyau gwag, a mwy o gydweithio ar draws darparwyr ac asiantaethau cyhoeddus. Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys cydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ddiwallu anghenion arbenigol, fel uned asesu rhieni a babanod.
Fframwaith Ariannol a Chyfreithiol: Mae'r strategaeth yn mynd i'r afael â phwysau ariannol oherwydd mwy o ddibyniaeth ar leoliadau preswyl allanol. Mae cyllideb gyffredinol y comisiwn ar gyfer lleoliadau preswyl wedi gweld cynnydd sylweddol, gyda chyllideb sylfaenol y Gwasanaethau Plant wedi cynyddu 60% ers 2019/20 a'r gyllideb lleoliadau allanol wedi cynyddu 85%. Mae'r prif ysgogwyr ar gyfer y cynnydd hwn yn cynnwys codiadau ffioedd mewn ymateb i'r cyflog byw gwirioneddol a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â lleoliadau mwy cymhleth ac arbenigol.
Cydweithredu gydag Awdurdodau Lleol Eraill: Mae'r strategaeth yn cynnwys cynlluniau i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ddiwallu anghenion arbenigol na all Caerdydd eu cynnal ar ei phen ei hun. Er enghraifft, mae Caerdydd mewn trafodaethau cyfnod cynnar gydag awdurdodau lleol eraill ynglŷn â sefydlu uned asesu rhieni a babanod. Nod y cydweithrediad hwn yw cyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddarparu gwasanaethau arbenigol sydd o fudd i blant ar draws sawl rhanbarth.
Cynlluniau Caerdydd ar gyfer cyfeiriad Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol
Ers mis Ebrill 2014, mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio ochr yn ochr â'i bedwar awdurdod lleol partner cyfagos i weithredu Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol cyfredol Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a'r broses o gyflawni trefniadau gwella ysgolion, a elwir yr 'adolygiad Haen Ganol'.
Prif nod yr adolygiad oedd 'gwella deilliannau addysgol drwy ymestyn ein dysgwyr a lleihau'r bwlch tegwch.' Daeth yr Adolygiad i'r casgliad y dylid datblygu Gwasanaethau Gwella Ysgolion fel bod:
- Arweinwyr ysgolion yn cael cyfle i arwain ar faterion gwella ysgolion drwy ganolbwyntio'n fwy ar gydweithio a gwaith partneriaeth lleol rhwng arweinwyr ysgolion a'u hawdurdod lleol.
- Partneriaethau'n datblygu rhwng mwy nag un awdurdod lleol i gefnogi cydweithredu ehangach.
- Arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol cliriach i ysgolion, gan gynnwys symleiddio'r mecanweithiau cyllido cenedlaethol gyda chymaint o adnoddau â phosibl yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion neu i gefnogi grwpiau o ysgolion i gydweithio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw drafft i lywio'r broses bontio i drefniadau Gwella Ysgolion newydd ac yn seiliedig ar yr adborth gan benaethiaid, ac archwiliad ehangach o waith rhwng ysgolion, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio Cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfeiriad arfaethedig y Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol.