Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi prif gontractwr dros dro i adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed, gan ddiogelu'r prosiect gwerth £108m ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan wneud taliadau o dros £7m i'r gadwyn gyflenwi bresennol.
Mae'r cwmni adeiladu Borley Engineering Services
Ltd (BESL) o Gymru wedi'i ddewis fel y prif gontractwr dros dro brys i sicrhau
y gall gwaith ar y safle ailgychwyn cyn gynted â phosibl. Daw'r penderfyniad hwn wrth i ymarfer tendro
ddechrau i ddewis prif gontractwr newydd i weld y prosiect yn dod i'w derfyn.
Fel rhan o'r trefniadau gyda gweinyddwr ISG, bydd y
Cyngor yn penodi BESL ar sail frys a bydd yn arbed swyddi ac yn diogelu'r
gwaith a gwblhawyd hyd yma drwy wneud taliadau o fwy na £7m i'r isgontractwyr
a'r cyflenwyr presennol ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau. Credir bod Campws Cymunedol y Tyllgoed yn un
o'r prosiectau mwyaf a gafodd ISG ar y safle ledled y DU ac nid yw'r trefniant
hwn wedi'i efelychu mewn mannau eraill.
Mae'r awdurdod lleol wedi ymgysylltu'n weithredol â'r isgontractwyr drwy
gydol y broses, y mae llawer ohonynt wedi'u lleoli o fewn 20 milltir i safle
Campws Cymunedol y Tyllgoed.
Wedi’i ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth
Cymru, dyma’r prosiect mwyaf o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau
addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
hyd yn hyn.
Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd
ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands,
i gyd wedi'u lleoli ar un safle yn y Tyllgoed.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd,
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau cynnydd prosiect Campws Cymunedol y
Tyllgoed ac wedi sefydlu trefniant sy'n achub y gadwyn gyflenwi. Drwy ddewis BESL i fod yn brif gyflenwr dros
dro, byddwn ni’n dod â gweithwyr yn ôl i’r safle, byddwn ni’n eu talu am eu
gwaith, yn lleihau oedi, yn cadw costau i lawr, yn diogelu swyddi, ac yn
diogelu'r gadwyn gyflenwi tra hefyd yn diogelu’r buddsoddiad cyhoeddus sydd
eisoes wedi ei wneud yn un o brosiectau addysg mwyaf y DU.
"Mae'r prosiect hwn yn hanfodol ar gyfer
cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion yn y tair ysgol,
ac i'r gymuned ehangach, a fydd yn defnyddio'r cyfleusterau newydd ar y campws,
ac rydym wedi ymrwymo i'w weld yn cael ei gwblhau."
Llinell amser ar gyfer Prosiect Campws y Tyllgoed:
1.
Cyflawni gwaith drwy BESL (Tachwedd 2024 - Ebrill 2025)
o Gwaith yn dechrau ar y
safle ym mis Tachwedd yn dilyn ailgydio.
o Gwneud archebion am
is-gontractwyr a darparwyr eraill.
o Maint y prosiect i gynyddu
i uchafswm o 300 o weithwyr ar y safle.
2.
Proses Dendro ar gyfer y Gwaith sy'n Weddill (Tachwedd
2024 - Ebrill 2025)
o Dechrau’r ymarfer tendro ar
gyfer y gwaith sy'n weddill.
o Gwerthuso ceisiadau a dewis
prif gontractwr newydd.
3.
Ailddechrau’r
Gwaith sy'n Weddill (Ebrill 2025)
o Prif gontractwr newydd yn
ymgymryd â’r prosiect.
o Prosiect yn parhau yn unol
â'r rhaglen.
4.
Cwblhau Cerrig Milltir Allweddol (2025 - 2027)
o Meddiannaeth lawn yn gynnar
yn 2027, gan gynnwys arolygiadau terfynol a rhoi’r allweddi.
Nod y llinell amser hon yw sicrhau bod y prosiect
yn datblygu'n esmwyth ac yn cael ei gwblhau gyda chyn lleied o darfu â phosib,
yn diogelu swyddi, ac yn cynnal ansawdd y cyfleusterau addysgol.