The essential journalist news source
Back
11.
November
2024.
Ceisiadau i Ysgolion Cynradd ar gyfer Mis Medi 2025 nawr ar agor
 11/11/24

 Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2025 ar agor nawr ac mae rhieni’n cael eu hannog i ddefnyddio pob un o’u pum dewis am y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol sydd wedi’i dewis ganddyn nhw. 

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon a chofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd os yw’n mynychu meithrinfa’r ysgol honno. Rhaid gwneud cais o’r newydd am le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd.

Mae pob ardal yng Nghaerdydd yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.  

Caiff ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd cymunedol eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cyngor drwy’r system dderbyn ar-lein

Mae'r Cyngor hefyd yn cydlynu derbyniadau ar gyfer 21 o'r 23 ysgol ffydd gynradd.  Eleni mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yn ymuno â'r cynllun derbyniadau cydlynol. Mae hyn yn galluogi rhieni i gyflwyno eu hysgolion a ffefrir i gyd ar un cais ar-lein.

I gael lle mewn ysgol sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol, rhaid i chi wneud cais trwy system dderbyniadau ar-lein y Cyngor.

Dylai rhieni sy'n gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinas Llandaf neu Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol.

I weld rhestr o'r 21 ysgol ffydd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun cydlynol ac i gael mwy o wybodaeth am dderbyniadau i ysgolion, ewch i; Derbyniadau i ysgolion cynradd (caerdydd.gov.uk).

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg: “Ein nod yw gwneud ymgeisio am le mewn ysgol gynradd mor syml â phosibl trwy sicrhau bod teuluoedd yn deall yn glir sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a sut i wneud cais am le mewn ysgol yn gywir, mae mwy o deuluoedd yn gallu cael lle mewn un o’r ysgolion maen nhw’n eu ffafrio.

"Trwy ein hymgyrch dderbyniadau barhaus, rydym wedi gweld cynnydd yn y blynyddoedd diweddar yn nifer y rhieni sy’n gwneud cais am leoedd mewn ysgolion yn gywir ac yn brydlon, sy’n gam cadarnhaol tuag at wneud yn siŵr bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y cymorth a'r ddealltwriaeth fel nad yw dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol.

"Atgoffir rhieni y gallan nhw nodi pum ysgol y maen nhw’n eu ffafrio. Hefyd, mae 21 ysgol ffydd yn rhan o broses derbyniadau cydlynol Caerdydd, sy'n golygu y gall y teuluoedd hynny sy'n dymuno gwneud cais am leoedd mewn ysgolion cymunedol ac ysgolion ffydd wneud hynny gan ddefnyddio porthol derbyniadau Caerdydd.”

Mae pob ardal y ddinas yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg. Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb p'un a yw'r Gymraeg neu'r Saesneg yn cael ei siarad gartref.  Mae gan Gaerdydd hefyd Uned Drochi’r Gymraeg sydd wedi ennill clod yn genedlaethol, sy'n gweithredu ers 2010, yn cefnogi’n llwyddiannus dros 400 o ddysgwyr heb unrhyw Gymraeg blaenorol i ddod yn rhugl a throsglwyddo i'n hysgolion cyfrwng Cymraeg hanner ffordd drwy eu taith addysg.

Mae rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg ar gael yma ar ein gwefan newydd Ein Dinas Ein Hiaith - Our City Our Language

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Dim ots pa iaith sy’n cael ei siarad gartref, mae addysg Gymraeg ar gael i bob teulu, ac maen’n cynnig cyfleoedd i blant ddod yn gwbl rugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Drwy ein cynlluniau i ddatblygu Caerdydd ddwyieithog, mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel iaith fyw fywiog ac mae’n adlewyrchu ein huchelgais bod pob person ifanc yn cael cyfle i glywed, siarad a mwynhau'r Gymraeg bob dydd gan gynyddu ei brofiadau, ei sgiliau a'i gyfleoedd yn y dyfodol."

Mae arweiniad pellach ar y broses dderbyn ar gael gan Dîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ac mae 7 darn o gyngor wedi eu llunio i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylen nhw wneud cais yn brydlon. I weld y 7 darn o gyngor da a'r animeiddiad ewch i:Derbyn i Ysgolion Caerdydd (youtube.com)

Gallwch chi gael cyngor ac arweiniad syml mewn 11 iaith wahanol yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg, a gall rhieni hefyd ofyn am gymorth a chyngor gan unrhyw un o Hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd."

Bydd y cyfnod ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben Ddydd Llun 13 Ionawr 2025. 

I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

Mae’r ymgyrch 7 o gynghorion gan Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy’n Dda i Blant cyntaf Unicef yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg,  Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Somalïeg ac Wcreineg.