The essential journalist news source
Back
8.
November
2024.
Tai, Iechyd, Cymuned: Pentref lles cyntaf Caerdydd yn cael ei gymeradwyo

8/11/2024
Mae pentref lles cyntaf Caerdydd, datblygiad 27 erw sy'n dwyn ynghyd iechyd a thai i ddarparu cyfleusterau a chartrefi newydd i bobl leol, ar ei ffordd i orllewin y ddinas.

 

Mae'r datblygiad arfaethedig, fydd yn cael ei gyflawni trwy gydweithrediad rhwng Cyngor Caerdydd a'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential fel rhan o raglen Cartrefi Caerdydd ac yn creu tua 235 o gartrefi ar hen safle Coleg Cymunedol Llanfihangel yn Nhrelái, wedi cael cymeradwyaeth gynllunio heddiw.

 

Mae'r datblygiad newydd yn ceisio hyrwyddo byw'n annibynnol gan ganolbwyntio ar iechyd a lles. Mae Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cydweithio i gynnig amrywiaeth o fannau i'r gymuned leol er mwyn gallu darparu gwasanaethau yn well yn yr ardal leol.

 

Gan ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd i bobl hŷn gyda 107 o fflatiau Byw yn y Gymuned i'w rhentu gan y Cyngor, mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys cymysgedd o 128 o gartrefi ar gyfer grwpiau oedran eraill a fydd ar werth ar y farchnad agored. 

 

Bydd y cynllun yn fywiog ac yn nodweddiadol, gyda chymdogaeth gwbl hygyrch gyda'r nod o annog rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo ffordd iach o fyw.  Bydd canolfan feddygol newydd, hyb cymunedol newydd gydag ystafelloedd aml-bwrpas, caffi a man gweithio ystwyth yn greiddiol i’r cynllun mewn sgwâr canolog sydd â chysylltiad da â'r tai ar y safle.

Bydd mannau awyr agored o ansawdd uchel ar draws y lleoliad, gan gynnwys ardal chwaraeon, gerddi cymunedol, rhandiroedd a bydd yr ardaloedd coediog presennol yn cael eu cadw a’u gwella. Mae seilwaith gwyrdd a draenio trefol cynaliadwy yn rhan annatod o ddyluniad y cynllun.

 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio ddoe (7 Tachwedd) ar gyfer yr agweddau hyn ar y pentref lles, a chymeradwywyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer naw fflat byw â chymorth i oedolion a chanolfan seibiant i blant.

 

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Pentref Lles Llanfihangel yn un o'r cynlluniau mwyaf cyffrous yn ein rhaglen datblygu tai, gan ddarparu tai fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr i bobl hŷn yn ogystal â chartrefi newydd i’w gwerthu yn yr ardal.

 

"Bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu mynediad gwell at wasanaethau iechyd, mannau agored a chyfleusterau cymunedol i breswylwyr, gan ategu amwynderau presennol gerllaw a chefnogi pobl hŷn i gadw'n actif a chysylltiedig yn eu cymuned.

 

"Rydym yn gwneud cynnydd da iawn yn erbyn ein huchelgais i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd i'r ddinas, i helpu i ddelio â phwysau tai digynsail ac mae cynllun Llanfihangel yn rhan bwysig o'r cynllun cyffredinol hwnnw."

 

Dywedodd Stuart Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Rhanbarthol | Wates Residential: “Yn Wates, rydyn ni'n ail-ddychmygu lleoedd i bobl ffynnu. Rydym yn falch iawn o'n gwaith gyda Chyngor Caerdydd trwy raglen Byw Caerdydd, gan greu cymunedau ffyniannus ar draws y ddinas.

 

“Mae’r pentref lles newydd hwn – y cyntaf yn y ddinas – yn garreg filltir arall yn ein partneriaeth, ac edrychwn ymlaen at greu cymuned fywiog arall sy’n cefnogi lles yr holl drigolion.”