06/11/24
Cynhelir seremoni Genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru, ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yng Nghaerdydd ddydd Sul 10 Tachwedd 2024.
Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays
Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol a'r Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.
Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Cenedlaethol Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn arwain y canu yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'.
Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AoS, yn ymuno â chyfranogwyr eraill i osod torchau ar Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae'n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd i anrhydeddu a chofio'r aberth a wnaed gan ddynion a menywod di-rif ar adegau o wrthdaro. Mae'r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol yn gyfle i ni fyfyrio ar ddewrder ac ymroddiad y rhai a frwydrodd ac a fu farw dros ein rhyddid.
"Wrth i ni ymgynnull yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, rydym yn talu teyrnged er cof amdanynt ac yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall arwyddocâd eu haberth. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn nid yn unig yn amser i gofio'r gorffennol ond hefyd i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd."
Dywedodd Eluned Morgan, y Prif Weinidog: "Mae'r gwasanaeth coffa yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, wrth inni ymuno â'n gilydd i anrhydeddu'r dynion a menywod o Gymru a aberthodd eu bywydau i sicrhau'r rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw.
"Mae hefyd yn anrhydedd i sefyll ochr yn ochr ag aelodau'r Lluoedd Arfog o Gymru sy'n gwasanaethu ac yn gweinyddu dyletswyddau cadw heddwch ar draws y byd.
"I'r rhai a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro: Fe'ch cofiwn am byth."
Bydd Band y Cymry Brenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn chwarae anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain Fawr ar ddiwedd y seremoni. Caiff aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau wrth y Gofeb Genedlaethol ar ôl y gwasanaeth.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr a gwesteion yn ymgynnull o flaen Neuadd y Ddinas i weld yr Orymdaith a'r Saliwt gan Arglwydd Raglaw EF.
Bydd Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, yn gosod torch yn ystod y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol. Tua diwedd mis Hydref, arweiniodd y Dirprwy Arglwydd Faer deyrngedau'r ddinas i'r rhai yn y Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd a gwrthdaro arall, yn agoriad y Maes Coffa ar dir Castell Caerdydd.
Wrth fyfyrio ar yr agoriad, dywedodd y Cynghorydd Lloyd Jones: "Mae'n bwysig cofio'r rhai a gollodd eu bywydau tra'n gwasanaethu ym mhob gwrthdaro; o ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd at y digwyddiadau presennol yn Wcráin ac yn y Dwyrain Canol.
"Mae'n amser i fyfyrio a thalu teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu, am beryglu eu bywydau i gadw eraill yn ddiogel, ac i gofio eu teuluoedd hefyd.
"Mae'r Maes Coffa yn deyrnged deimladwy i'r aelodau hyn o'r lluoedd arfog ac yn atgof cyhoeddus nad fydd eu hebyrth fyth yn angof."
Mae'r Maes Coffa wedi dod yn draddodiad blynyddol yn y ddinas. Yr oriau agor yw 10.30am tan 5.30pm ac mae mynediad am ddim. Bydd y Maes Coffa yn cau ddydd Mawrth, 12 Tachwedd.