The essential journalist news source
Back
30.
October
2024.
Mae Cerbydau Hacni yng Nghaerdydd bellach yn derbyn taliadau â cherdyn a thaliadau digyswllt
 30/10/24

 Bellach mae'n ofynnol i bob Cerbyd Hacni (tacsis du a gwyn) yng Nghaerdydd dderbyn taliadau â charden a thaliadau digyswllt gan y cyhoedd.

 

Daeth y trefniadau newydd i rym ar 1 Medi, yn dilyn cytundeb yng nghyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor ym mis Mawrth eleni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Nawr ein bod wedi rhoi digon o amser i'r fasnach gydymffurfio â'r rheolau newydd, mae'n bwysig cyfleu'r neges i'r cyhoedd y gallant nawr dalu am eu taith tacsi mewn Cerbyd Hacni â cherdyn neu drwy daliad digyffwrdd.

 

"Rhaid i gerbydau hacni gystadlu am gwsmeriaid â cherbydau hurio preifat, ac roedd y ffaith mai dim ond arian parod y gallai pobl ei dalu o'r blaen yn rhwystr i'w masnach. Gyda mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar apiau ar eu ffonau clyfar a thaliadau cardiau wrth iddynt fynd ati yn eu bywyd bob dydd, dylai’r opsiwn i dalu â charden ac yn ddigyswllt wneud Cerbydau Hacni yn fwy cystadleuol a'u helpu gyda'u masnach.

 

"Bydd y newid hwn o fudd i'r cyhoedd hefyd, gan na fydd yn rhaid i bobl nad ydynt yn cario arian parod wyro eu taith mwyach i fynd at beiriant codi arian parod i dalu am eu siwrne, gan arbed amser ac arian.

 

"Mae'n bwysig nodi bod y newid hwn ond yn berthnasol i Gerbydau Hacni ac nid cerbydau hurio preifat, gan fod yn rhaid archebu pob taith drwy weithredwyr tacsis preifat trwy ap neu drwy ffonio’r cwmni."