The essential journalist news source
Back
29.
October
2024.
Y cynhwysion cywir i ddathlu Mis Plant Gofalwyr Maeth
29/10/24
 
Roedd blawd yn hedfan, toes yn troelli, saws pomodoro yn cael ei dywallt, ac roedd yna ddogn mawr o wenu a chwerthin mewn digwyddiad arbennig i ddathlu plant gofalwyr maeth yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Roedd yn rysáit am noson lwyddiannus wrth i Faethu Cymru Caerdydd ddod â phlant o deuluoedd maeth y ddinas at ei gilydd ar gyfer noson llawn hwyl yn gneud pizza i nodi Mis Plant Gofalwyr Maeth.

Bob mis Hydref, mae'r ymgyrch flynyddol yn gyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i ofal maeth.

Mwynhaodd pedwar ar ddeg o blant a phobl ifanc o deulu Maethu Cymru Caerdydd noson gyda'i gilydd lle cawsant gyfle i rannu eu profiadau gyda'i gilydd, trafod y gefnogaeth y maent yn ei derbyn ac wrth gwrs, mwynhau'r pizzas blasus a wnaethant ym mwyty Eidalaidd Giovanni’s ym Mae Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: “Mae bod yn rhan o deulu maeth yn brofiad sy'n siapio nid yn unig bywydau'r plant sydd mewn gofal ond hefyd y plant yn y teuluoedd maeth eu hunain.

"Rodd y digwyddiad hwn ar gyfer Mis Plant Gofalwyr Maeth yn gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad o blant ein gofalwyr maeth mewn ffordd hwyl a hefyd rhoi cyfle i ni glywed eu barn, a deall a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i'w cefnogi."

Wrth siarad am ei brofiad o fod yn rhan o deulu maethu, dywedodd Rory, 12 oed: "Dwi’n hoffi bod mewn teulu maeth. Mae'n eitha' distaw gyda dim ond fi a mam yn y tŷ felly mae’n dda cael cwmni o gwmpas y tŷ a dwi'n cael teimlad da pan ti'n gwneud rhywbeth da i helpu eraill."

Meddai Helen, sy'n 11 oed: "Gallwch chi groesawu plentyn drwy gael teganau iddo chwarae gyda nhw pan fydd yn cyrraedd, a bod yn gyfeillgar, helpu i ddangos ei ystafell wely ac o gwmpas y tŷ iddo, a rhannu eich rhieni gyda nhw."

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdod Lleol dielw Cymru sy’n gweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol.  Mae'r gwasanaeth yn darparu hyfforddiant arbenigol, cymorth pwrpasol ac adnoddau ariannol ar gyfer gofalwyr maeth ledled y ddinas.

I ddarganfod mwy am Fis Plant Gofalwyr Maethu, darllenwch flog Maethu Cymru Caerdydd y mis hwn yma Bywyd mewn Teulu Maeth: Lleisiau Plant - maethu cymru nghaerdydd

Ac am fwy o wybodaeth am faethu gyda Maethu Cymru Caerdydd, ewch i Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd