The essential journalist news source
Back
23.
October
2024.
Coed afalau 'Gabalva' prin a fu’n tyfu ar Ystâd Bute ar un adeg i gael eu hailgyflwyno i Gaerdydd

23.10.24

Mae rhywogaeth brin o afal a dyfai ar dir ystâd deuluol Bute yng Nghaerdydd ar un adeg i gael ei hailgyflwyno i'r ddinas am yr hyn y credir yw'r tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.

Bydd 50 o goed afalau Gabalfa, a gofnodir yn hanesyddol fel afalau 'Gabalva', yn cael eu plannu ym Mharc Gabalfa, Parc Maitland, fel rhan o Berllan Gymunedol Parc Bute, ac ar dir ysgolion, fel rhan o Brosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd' Cyngor Caerdydd. Gyda chymorth gwirfoddolwyr cymunedol, nod y prosiect yw plannu o leiaf 30,000 o goed newydd ar draws 185 o safleoedd gwahanol yng Nghaerdydd yn ystod tymor plannu coed 2024/25.

Mae'r cofnod olaf o afalau Gabalva ym mannau gwyrdd Caerdydd yn dyddio'n ôl i gyfnod y garddwr enwog Andrew Pettigrew, a oedd yn Brif Arddwr i'r 3yddArdalydd Bute o 1873 i 1901, a ddisgrifiodd dair coeden o'r amrywiaeth hon yn tyfu ar y tiroedd "yma yn Gabalva" fel rhai "tua 35 troedfedd o daldra, gyda boncyffion mwy trwchus na chorff dyn."

Ailddarganfuwyd yr amrywiaeth goll o afal yn Sir Gaerfyrddin yn 2004 ac ers hynny mae wedi'i gynnwys yn y Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol, sy'n rhan o raglen ryngwladol i ddiogelu adnoddau genetig planhigion ar gyfer y dyfodol.

A close-up of a fruitDescription automatically generated

Darlun o afal Gabalva, a dynnwyd o Gardener's Chronicle tua 1900.

Yn ôl rhifyn o'r Gardener's Chronicle a gyhoeddwyd yn oes Pettigrew, roedd yr amrywiaeth hwn o afal yn "ddigon da i fod yn afal pwdin hwyr" ac yn "un gwerthfawr iawn at ddibenion coginio ym misoedd cynnar y flwyddyn" ond hyd yn oed yn oes Fictoria, ymddengys eu bod yn brin, gyda Pettigrew yn sôn am sut yr oedd wedi "dangos sbesimenau o'r ffrwyth i feirniaid da ar wahanol adegau, ond doedd neb yn gwybod hynny."

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae gallu ailgyflwyno'r blas hwn ar hanes i fannau gwyrdd Caerdydd yn eithaf arbennig.

"Yn bennaf, mae Coed Caerdydd yn ymwneud â chefnogi natur, helpu i lanhau'r aer, a mynd i'r afael â newid hinsawdd ac fel rhan o'n strategaeth Caerdydd Un Blaned, ond gwyddom fod trigolion yn awyddus i weld mwy o goed ffrwythau yn cael eu plannu wrth i ni barhau i ehangu canopi coed Caerdydd."

"Yn ymuno â'r 50 o afalau 'Gabalva' bydd 450 o goed ffrwythau eraill gan gynnwys mwy o fathau o afal, yn ogystal â gellyg, eirin a cheirios. Byddwn hefyd yn plannu 200 o goed stryd newydd a dau gilometr o wrychoedd wrth i ni weithio gyda llu o wirfoddolwyr cymunedol anhygoel i ychwanegu at yr 82,000 o goed newydd sydd wedi'u plannu ar draws 24 hectar o dir - ardal sydd yr un maint ag ychydig dros 25 o gaeau Stadiwm Principality - hyd yma."

A sign in a fieldDescription automatically generated

Y Berllan Ffrwythau Cymunedol, a blannwyd fel rhan o Goed Caerdydd, ym Mharc Gabalfa.

Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol ac yn hardd, maen perllannau hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt gyda blodau'r gwanwyn yn darparu ffynhonnell neithdar ardderchog i lawer o bryfed fel gwenyn, pryfed hofran a gwyfynod. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae ffrwythau sy'n cwympo yn y gwynt yn bwydo anifeiliaid di-asgwrn cefn, adar a mamaliaid. Mae coed ffrwythau yn darparu cyfleoedd nythu pwysig hefyd ac yn cyfrannu at gynefinoedd 'coed marw' hanfodol.

Bydd sesiynau plannu coed cymunedol rheolaidd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd rhwng nawr a mis Ebrill 2025. I helpu i blannu coed yn eich ardal chi, ewch i: https://www.eventbrite.com/o/coed-caerdydd-46791623513