The essential journalist news source
Back
23.
October
2024.
Gwaith adeiladu'n dechrau yn swyddogol ar Ysgol Uwchradd newydd Willows

 

 

23/10/2024


Gwaith adeiladu'n dechrau yn swyddogol ar Ysgol Uwchradd newydd Willows

Mae seremoni arbennig wedi nodi dechreuad adeiladu'r cartref newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows.

Y prosiect gwerth £60m yw'r enghraifft ddiweddaraf o waith o dan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Yn rhan ohono, bydd Ysgol Uwchradd Willows bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu er mwyn darparu  ar gyfer 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed gyda 30 lle mewn Canolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth.  

A group of people in safety vests and helmetsDescription automatically generated

Bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu gyda chyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau glaswellt a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.    Bydd y cynllun yn darparu cyfleusterau gwell i gerddwyr i wella trefniadau teithio llesol ar safle'r ysgol newydd.
 
Bydd yr ysgol hon yn Garbon Sero Net – o ran carbon ymgorfforedig yr adeilad, y deunyddiau a ddefnyddir, ac wrth weithredu ar ôl ei chwblhau, 
yn unol â safonau Llywodraeth Cymru.

Cafodd y tir ei dorriar y safle gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry, a Phennaeth Ysgol Uwchradd Willows, Chris Norman.

Ymunodd y ddau â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, llywodraethwyr ysgolion, cynghorwyr lleol a disgyblion Blwyddyn 7 o'r ysgol.

 

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Morgan Sindall Construction, y contractwr a ddewiswyd i ymgymryd â dyluniad ac adeiladwaith manwl y cynllun.

A person and person wearing safety vests and helmetsDescription automatically generated

 

Dywedodd y Pennaeth, Chris Norman:"Mae pob un ohonom yn Willows yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon, mae hwn yn gyfnod arwyddocaol iawn i'n cymuned.  Bydd symud i safle ysgol newydd yn ein helpu i adeiladu ar ein llwyddiannau a darparu'r cyfleusterau rhagorol y mae ein disgyblion, staff a'n cymuned yn eu haeddu."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:   "Ar ôl ei chwblhau, bydd Ysgol Uwchradd newydd Willows yn cynnig adnoddau addysgol, arbenigedd a chyfleoedd addysgu rhagorol i fyfyrwyr a staff. 

"Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol, gan fod o fudd i'r gymuned gyfan gyda chyfleusterau gwell, gan gynnwys meysydd chwaraeon sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

"Mae torri'r tir ar y safle yn garreg filltir gyffrous yn natblygiad yr ysgol, ac rwy'n awyddus i weld y cynnydd wrth i'r ysgol newydd ddod yn fyw."

Dywedodd Rob Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall Construction yng Nghymru: "Mae torri tir ar Ysgol Uwchradd newydd Willows yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i yrru cynnydd ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £60 miliwn nid yn unig yn darparu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i 900 o ddisgyblion, ond bydd hefyd yn cynnig adnoddau cymunedol gwerthfawr trwy ei gyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr.

"Wrth i ni ddechrau adeiladu, rydym yn awyddus i gydweithio'n agos â Chyngor Caerdydd a chymuned yr ysgol i greu gofod lle gall meddyliau ifanc ddatblygu.  Mae ein tîm yn Morgan Sindall Construction yn falch o chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol addysg yng Nghaerdydd, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect trawsnewidiol hwn yn dod yn fyw."

Mae'r llety newydd sbon yn cael ei adeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn Sblot ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun wedi'i wneud gan Morgan Sindall Construction ers mis Awst 2023.   Mae'r rhain wedi cynnwys gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol i ganiatáu i ddatblygiadau fynd rhagddynt, adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle a dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmor ac ar safle Marchnad Sblot.

Mae gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol, cloddio a gwaith tir, gan gynnwys cael gwared ar ddeunydd halogedig ar ôl tarfu ar y tir a gosod ffensys diogel o gwmpas ffin y safle hefyd wedi cael eu cyflawni er mwyn i'r prif waith ddechrau.

Rhagwelir y bydd yr ysgol newydd yn cael ei chwblhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27.

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email:danni.janssens@cardiff.gov.uk

www.cardiffnewsroom.co.uk