The essential journalist news source
Back
23.
October
2024.
Camlas Gyflenwi’r Dociau a Chynllun Dwyrain Canol y Ddinas yn ennill gwobr fawreddog
 23/10/24

 Mae Cynllun Camlas Dwyrain Canol y Ddinas a Ffordd Churchill wedi derbyn gwobr peirianneg sifil o bwys.

Yn gynharach y mis hwn, dyfarnwyd Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward i'r Cyngor, Atkins Realis a Knights Brown yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Ice Cymru 2024.

Mae'r Gwobrau Peirianneg Sifil yn cydnabod unigolion a sefydliadau am arloesi, peirianneg glyfar, a chynaliadwyedd yn y diwydiant yng Nghymru.

Mae dadorchuddio Camlas Gyflenwi’r Dociau sydd dan Ffordd Churchill dros y 70 mlynedd diwethaf yn gam cyntaf mewn prosiect adfywio ehangach, gyda chynlluniau i ymestyn y gamlas ar hyd Ffordd Churchill i gysylltu â'r gamlas i'r de o Stryd Tyndall.

Gallai'r datblygiad newydd hwn agor y potensial i ddarparu ardal drefol newydd gan gynnwys adfywio Stryd y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford, a Lôn y Barics.

Prif bwrpas Camlas Gyflenwi’r Dociau yw rheoli dŵr wyneb, gan ganiatáu i ddŵr glaw basio drwy erddi glaw pwrpasol, fel y gellir glanhau'r dŵr cyn mynd i mewn i'r gamlas yn y pen draw.

Mae'r dyluniad yn sicrhau bod modd dargyfeirio’r 3,500m2 o ddŵr o'r garthffos gan leihau'r gost a'r ynni o drin y dŵr hwn drwy'r orsaf pwmpio carthion ym Mae Caerdydd

Mae ailymddangosiad Camlas Gyflenwi’r Dociau hefyd yn darparu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas, gan greu man cyhoeddus newydd, seddi awyr agored, ardal berfformio ar ffurf amffitheatr a dwy bont droed i groesi'r dŵr. Mae cynefinoedd dŵr arnofiol hefyd wedi'u gosod, gyda dyfrgwn wedi’u gweld yn ddiweddar yn gorffwys ar y platfform cyn parhau â'u diwrnod.

Yn y 1830au, roedd camlas gyflenwi’r dociau yn rhedeg o Afon Taf yn y Gored Ddu i lawr i Ddociau Caerdydd i gynnal lefelau'r dŵr yn Noc Bute Caerdydd. Roedd hyn yn caniatáu i'r doc weithredu 24 awr y dydd, hyd yn oed ar lanw isel, gan wasanaethu Camlas Morgannwg 25 milltir o hyd o Ferthyr Tudful i Gaerdydd i ddod â dur a haearn i lawr i'r ddinas.

Gorchuddiwyd Camlas Morgannwg rhwng 1948 a 1950 a gorchuddiwyd Camlas Gyflenwi’r Dociau ar Ffordd Churchill gyda thrawstiau concrit ac adeiladwyd y lôn gerbydau drosti.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath: "Hoffwn ddiolch i dîm y prosiect a'n contractwyr am gyflawni'r cynllun hwn, a fydd yn gatalydd ar gyfer buddsoddi pellach yn y rhan hon o'r ddinas. Mae'r cyngor wedi nodi ein dyheadau ar gyfer Cwr y Gamlas yn y dyfodol ac mewn amser, a thrwy gyfleoedd cyllido yn y dyfodol gallai'r weledigaeth hon drawsnewid y rhan hon o ganol y ddinas, gan greu ardal newydd fywiog i drigolion ac ymwelwyr ei mwynhau."