Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
- Cynnal Gwasanaeth Coffa yng Nghadeirlan Llandaf ar gyfer Maer Caerdydd, y Cynghorydd Jane Henshaw
- Digwyddiadau Nadolig Cymunedol a noddir gan Urban Centric
- Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus
Cynnal Gwasanaeth Coffa yng Nghadeirlan Llandaf ar gyfer Maer Caerdydd, y Cynghorydd Jane Henshaw
Yn gynharach heddiw, cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghadeirlan Llandaf i anrhydeddu bywyd y Cynghorydd Jane Henshaw, Arglwydd Faer Anrhydeddus Iawn Caerdydd.
Roedd y gwasanaeth, a ddechreuodd am 11am, yn deyrnged o'r galon i'r Cynghorydd Henshaw, a fu farw'n heddychlon ar 21 Medi 2024.
Roedd y Cynghorydd Henshaw yn cael ei hadnabod am ei hymroddiad a'i gwasanaeth diwyro i'r gymuned, ac mae'n gadael gwaddol o dosturi ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.
Gweinyddwyd y gwasanaeth gan y Tra Pharchedig Dr Jason Bray, Deon Llandaf, a arweiniodd y gynulleidfa i gofio a dathlu bywyd a chyfraniadau'r Cynghorydd Henshaw.
Ymhlith y darlleniadau roedd "The View from the Window" gan RS Thomas, a ddarllenwyd gan Rosie White, a darlleniad o'r Pregethwr 3.1-8, 'Y mae tymor i bob peth,' a ddarllenwyd gan y Tad Dean Atkins. Arhosodd y gynulleidfa yn eistedd ar gyfer yr anthem 'In Paradisum' o Requiem Fauré. Traddodwyd darlleniad arall o'r Ysgrythur, Corinthiaid 2 1:3-4, gan y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones. Rhoddwyd 'Teyrnged gan Gyfaill' teimladwy gan y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.
Darllenodd y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan er Anrhydedd i'r Arglwydd Faer, ddarn o Ysgrythur Ioan 14.1-7, 'Af i baratoi lle i ti'. Yna gwahoddwyd y gynulleidfa i benlinio neu eistedd am y gweddïau, dan arweiniad y Parchedig Ganon Dr Jan van der Lely, Canon Ganghellor. Roedd yr emynau'n cynnwys "For the Beauty of the Earth," "Guide Me, O Thou Great Redeemer," a "Lord for the Years."
Digwyddiadau Nadolig Cymunedol a noddir gan Urban Centric
Bydd y digwyddiadau cymunedol i droi goleuadau Nadolig ymlaen yn Rhiwbeina, Y Tyllgoed, Llandaf a Radur a Llanisien yn digwydd eleni - gyda diolch i nawdd Urban Centric, cwmni sy'n arbenigo mewn prosiectau adeiladu preswyl mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.
Ers blynyddoedd lawer, mae'r cyngor wedi bod mewn sefyllfa i dalu am gau'r ffyrdd a staff i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiadau hyn yn ddiogel, ond yn anffodus oherwydd toriadau i gyllidebau'r cyngor, nid ydym yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn am ddim mwyach, na chymorthdalu'r gost.
Esboniwyd y sefyllfa ariannol i drefnwyr digwyddiadau y llynedd, er mwyn rhoi amser iddynt edrych ar drefniadau ariannu amgen.
Oherwydd yr argyfwng costau byw, nid yw hon wedi bod yn dasg hawdd, felly mae'r cyngor wedi camu i mewn a dod o hyd i noddwr, sydd wedi cytuno i dalu tâl y cyngor i sicrhau y gall y digwyddiadau hyn fynd yn eu blaen.
Mae Urban Centric, noddwr y digwyddiadau hyn yn gwmni datblygu sy'n arbenigo mewn prosiectau adfywio preswyl mewn lleoliadau yng nghanol dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, Birmingham a Chaerwysg.
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus
Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24 wedi amlinellu cynnydd sylweddol ar draws meysydd allweddol er gwaethaf y galw mawr am wasanaethau a heriau cymhleth drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r adroddiad yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella bywydau preswylwyr, gyda chyflawniadau nodedig yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion.
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol mae gweithredu'r Strategaeth Llety o fewn y Gwasanaethau Plant yn llwyddiannus, sydd wedi gwella digonolrwydd lleoliadau. Yn y Gwasanaethau Oedolion, mae cyflwyno'r Strategaeth Heneiddio'n Dda yn parhau ac wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol i breswylwyr hŷn, gydag ystod gynyddol o weithgareddau lles cymunedol ar gael.
Er gwaethaf galw parhaus am wasanaethau, pwysau cyllidebol a chymhlethdod cynyddol o ran anghenion, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl cyflawniad pwysig arall.