Bydd y digwyddiadau cymunedol i droi goleuadau Nadolig ymlaen yn Rhiwbeina, Y Tyllgoed, Llandaf a Radur a Llanisien yn digwydd eleni - gyda diolch i nawdd Urban Centric, cwmni sy'n arbenigo mewn prosiectau adeiladu preswyl mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.
Ers blynyddoedd lawer, mae'r cyngor wedi bod mewn
sefyllfa i dalu am gau'r ffyrdd a staff i sicrhau y gellir cynnal y
digwyddiadau hyn yn ddiogel, ond yn anffodus oherwydd toriadau i gyllidebau'r
cyngor, nid ydym bellach yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn am ddim.
Esboniwyd y sefyllfa ariannol i drefnwyr
digwyddiadau y llynedd, er mwyn rhoi amser iddynt edrych ar drefniadau ariannu
amgen.
Oherwydd yr argyfwng costau byw, nid yw hon wedi
bod yn dasg hawdd, felly mae'r cyngor wedi camu i mewn a dod o hyd i noddwr,
sydd wedi cytuno i dalu tâl y cyngor i sicrhau y gall y digwyddiadau hyn fynd
yn eu blaen.
Mae Urban Centric, noddwr y digwyddiadau hyn yn
gwmni datblygu sy'n arbenigo mewn prosiectau adfywio preswyl mewn lleoliadau
yng nghanol dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, Birmingham a Chaerwysg.
Dywedodd Andrew Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr Urban
Centric: "Pan gysylltodd y cyngor am noddwr, roeddem yn hapus i helpu, gan
fod y Nadolig yn amser o ewyllys da a llawenydd. Rydym yn gobeithio y bydd pawb
sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn mwynhau'r digwyddiadau, ac mae'n ffordd i ni
ddweud Nadolig Llawen wrth Gaerdydd."
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet
dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r cyngor yn hapus i gynorthwyo grwpiau
cymunedol ac elusennau gyda'u digwyddiadau cymunedol, ond os yw'r digwyddiad yn
gofyn am gau'r briffordd, lle ar y briffordd neu staff i sicrhau bod y
digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel, yna mae'n rhaid i drefnydd y
digwyddiad dalu'r costau hyn.
"Mewn byd perffaith, hoffem
ddarparu'r cymorth a'r staff am ddim, ond nid yw hyn yn bosibl oherwydd y
costau cynyddol ar y cyngor, yn enwedig ym maes addysg a gofal cymdeithasol.
Hoffwn ddiolch i Urban Centric am eu haelioni, gwn y bydd yn cael ei werthfawrogi
gan breswylwyr ym mhob un o'r cymunedau hyn."