The essential journalist news source
Back
17.
October
2024.
Landlord Caerdydd yn Colli Apêl Ar Ôl Cael Dirwy o £37,000
 17/10/24

 Mae landlord o Gaerdydd a gafodd ddirwy o £37,000 am droseddau diogelwch difrifol yn ei eiddo rhent yn Broadway, Adamsdown, wedi cael apêl yn erbyn y ddirwy ei wrthod, ac mae bellach yn wynebu bil o ychydig dros £42,521, i'w dalu o fewn chwe mis.

 

Roedd Mr Nazir Ahmed, 67, o Heol Albany, Caerdydd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (11 Hydref). Wedi'i gynrychioli gan ei ferch, gofynnodd am ohirio casglu tystiolaeth gan Heddlu De Cymru i gefnogi ei honiad nad oedd yn gallu gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig a sgwatwyr yn yr adeilad. 

 

Fodd bynnag, canfu'r llys nad oedd yr esgus hwn yn ddigonol a gwrthododd ohirio'r achos.

 

Daeth y materion i'r amlwg ym mis Ebrill 2023 pan gysylltodd Heddlu De Cymru â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oherwydd pryderon am yr eiddo. Yn fuan wedyn, fe wnaeth swyddogion y cyngor a'r gwasanaeth tân archwilio'r eiddo a chanfod rhestr hir o amodau annerbyniol ar gyfer eiddo rhent.

 

Roedd yr eiddo Fictoraidd deulawr ar Broadway wedi ei rannu'n bedwar fflat heb ganiatâd cynllunio nac unrhyw drafod gydag adran rheoli adeiladu'r cyngor, na chwmni rheoli adeiladau preifat.

 

Roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

 

  • Nid oedd y mynediad i’r eiddo yn ddiogel.
  • Roedd y drysau tân i'r holl fflatiau yn ddiffygiol.
  • Cafodd y cyflenwad trydan i'r eiddo cyfan ei ddatgysylltu oherwydd ymdrechion parhaus i osgoi'r mesuryddion.
  • Heb drydan, nid oedd dim larwm tân yn gweithio, gwres, golau, na phŵer i redeg offer trydanol fel yr oergell a'r rhewgell.
  • Roedd pla o gnofilod.
  • Roedd cyfleusterau'r gegin yn anniogel ac annerbyniol.
  • Nid oedd cwpwrdd y mesurydd trydan wedi'i ddiogelu rhag tân.

 

Cyflwynwyd Gorchmynion Gwahardd Brys mewn cysylltiad â'r pedwar fflat a'r ardaloedd cyffredin, sy'n golygu na allai'r tenantiaid fyw yno mwyach ac y bu’n rhaid symud allan. Cafodd Mr Ahmed restr o atgyweiriadau i sicrhau bod modd byw yn yr eiddo.

 

Cafodd Mr Ahmed ei erlyn am naw trosedd o dan reoliadau yn ymwneud â thai amlfeddiannaeth.

  

Daethpwyd â'r achos i'r llys ar 29 Chwefror 2024. Cafodd Mr Ahmed orchymyn i dalu £37,000 o ddirwyon, a £2,00 o Dâl Dioddefwyr, a chostau cyfreithiol o £461.84.

 

Nawr bod yr apêl gyfreithiol wedi methu, rhaid i Mr Ahmed dalu £42,521.84, cynnydd o £3,060 i dalu costau cyfreithiol ychwanegol y cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: “Mae tai rhent preifat yng Nghaerdydd yn chwarae rhan amhrisiadwy fel rhan o stoc dai'r ddinas, ac rydym yn gweithio'n agos gyda landlordiaid da i ddarparu'r llety gorau posibl i'w tenantiaid. Yn anffodus, mae rhai landlordiaid yn dewis torri corneli a rhoi eu tenantiaid mewn perygl, ac yn anffodus, mae'r achos hwn yn dangos hynny. Roedd y ddirwy fawr a osodwyd ar y landlord am reswm; doedd yr eiddo ddim yn ddiogel i fyw ynddo.”