The essential journalist news source
Back
16.
October
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Hydref 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mercher, sy'n cynnwys:

  • Cyngor Caerdydd yn datgelu'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer darparu swyddfeydd craidd mwy cost-effeithiol
  • Adfer perl bensaernïol yn nghanol dinas Caerdydd yn agosáu
  • Adeiladu Maes Parcio Aml-lawr newydd ym Mae Caerdydd
  • Saith deg o gyfeirbyst newydd i gael eu gosod ar draws y ddinas a Bae Caerdydd

 

Cyngor Caerdydd yn datgelu'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer darparu swyddfeydd craidd mwy cost-effeithiol

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i newid yr hen Neuadd y Sir am adeilad swyddfeydd modern llai o faint.

Ar ôl proses achos busnes fanwl, cadarnhawyd yr opsiwn adeiladu newydd am lai na hanner pris adnewyddu Neuadd y Sir, a bydd hefyd yn llai na hanner y gosti'w redeg bob blwyddyn.

Oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol a darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, ynghyd â chostau cynyddol, mae Caerdydd yn wynebu bwlch cyllidebol rhagamcanol o bron £60 miliwn y flwyddyn nesaf a bwlch tymor canolig o bron £150 miliwn erbyn 2029.

Swyddfeydd Craidd - Holi ac Ateb

Costau cynnal a chadw a rhedeg sy'n gysylltiedig ag adeiladau'r cyngor yw'r ail gost fwyaf sylweddol i'r awdurdod lleol ar ôl costau staffio, sy'n ei gwneud yn hollbwysig arbed arian ac osgoi costau ychwanegol.

Bydd adroddiad i Gabinet y Cyngor ddydd Iau, 24 Hydref, yn nodi y byddai gwneud Neuadd y Sir yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol ac estyn ei hoes yn sylweddol yn gofyn am fwy na £100m o fuddsoddiad cyfalaf.

Oystyried hynny, bydd y Cabinet yn cael ei argymell i godi adeilad swyddfeydd craidd newydd, llai i fod tua thraean o faint adeilad presennol Neuadd y Sir i gyflawni'r buddion canlynol:

  • Llawer llai o fuddsoddiad cyfalaf gydag adeilad newydd yn costio tua hanner cost moderneiddio adeilad presennol Neuadd y Sir.
  • Arbedion mawr ar gostau rhedeg o adeilad ynni-effeithlon,llawer llai.
  • Gofod swyddfeydd sy'n fwy addas ar gyfer arferion gwaith modern a gweithio mewn partneriaeth.
  • Adeilad carbon sero-net sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau Caerdydd Un Blaned y Cyngor.

Darllenwch fwy yma

 

Adfer perl bensaernïol yn nghanol dinas Caerdydd yn agosáu

Gallai un o adeiladau gorau Caerdydd weld bywyd o'r newydd ar ôl bod yn wag am dros flwyddyn, os yw Cyngor Caerdydd yn cytuno ar becyn benthyciadau ariannol i dalu am gostau adnewyddu.

Ddydd Iau, 17 Hydref, gofynnir i Gabinet y cyngor dderbyn argymhelliad i awdurdodi benthyciad ychwanegol o £1,630,000 o dan gynllun Adfywio Canol Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddelio â'r gost uwch o adnewyddu Tŷ'r Parc i fodloni gofynion treftadaeth, gan gynyddu'r benthyciad gwreiddiol a oedd yn £950,000.

Mae Tŷ'r Parc neu'r Park House, adeilad rhestredig Gradd 1 a gynlluniwyd gan y pensaer Fictoraidd enwog William Burges ar gyfer yr Arglwydd Bute, wedi bod yn wag am 18 mis. Gan ddefnyddio cynllun benthyciadau Llywodraeth Cymru, nod y cyngor yw helpu i adfer y berl bensaernïol hon i'w hen ogoniant.

Ar ôl ei gwblhau, bydd Tŷ'r Parc yn cael ei droi'n dŷ bwyta a lleoliad digwyddiadau bywiog, gan gyfuno amwynderau modern â'i harddwch pensaernïol oesol.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan y cogydd uchel ei barch o Gymru, Tom Simmons, sy'n adnabyddus am ei ddull arloesol o goginio. Mae Simmons yn bwriadu creu profiad bwyta o ansawdd uchel a fydd yn denu trigolion ac ymwelwyr, gan wneud Tŷ'r Parc yn brif gyrchfan ar gyfer bwyd a digwyddiadau.

Darllenwch fwy yma

 

Adeiladu Maes Parcio Aml-lawr newydd ym Mae Caerdydd

Mae'r dyluniad manwl bellach wedi'i gwblhau ar gyfer y maes parcio aml-lawr newydd arfaethedig yng Nglanfa'r Iwerydd, a fydd yn golygu creu'r un nifer o leoedd parcio ceir â'r maes parcio presennol, ond ar ardal lawer llai er mwyn gallu adfywio'r safle.

Mae'r maes parcio newydd yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi'r Arena Dan Do newydd ac mae ei angen hefyd i fodloni telerau prydlesi tenantiaid Canolfan y Red Dragon.

Mae adroddiad a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Caerdydd ar 17 Hydref  nawr yn gofyn am ganiatâd i lunio cytundeb adeiladu â Goldbeck Construction.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y maes parcio newydd yn disodli'r mannau presennol a bydd yn cadw cyfanswm nifer y lleoedd parcio yn yr ardal ar ôl i'r Cyngor brynu Maes Parcio Aml-lawr Q-Parks ar Stryd Pen y Lanfa fis Ionawr 2024.

Darllenwch fwy yma

 

Saith deg o gyfeirbyst newydd i gael eu gosod ar draws y ddinas a Bae Caerdydd

Bydd dau fath newydd o gyfeirbost dwyieithog i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'w ffordd o amgylch y ddinas yn cael eu gosod ym Mae Caerdydd ar 16 a 17 Hydref i brofi eu gwydnwch a'u dyluniad, cyn cael eu cyflwyno ar draws canol y ddinas a Bae Caerdydd ym mis Ionawr 2025.

Bydd y totemau newydd, sy'n dod mewn dau faint, a mynegbyst newydd, yn disodli arwyddion twristiaeth presennol, a osodwyd mor bell yn ôl â'r 1980au. Bydd cant a saith o hen arwyddion yn cael eu gwaredu, a bydd 70 o arwyddion newydd yn cael eu gosod gan ddangos mapiau a gwybodaeth gyfoes.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn £380,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn cynnwys cael gwared ar yr hen arwyddion yn ogystal â dylunio, cynhyrchu a gosod cyfeirbyst newydd.

Bydd y ddau brototeip newydd, totem a mynegbost, yn cael eu gosod y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ac Adeilad y Pierhead i brofi'r dyluniadau cyn i'r arwyddion newydd gael eu cynhyrchu.

Darllenwch fwy yma