The essential journalist news source
Back
16.
October
2024.
Ymgynghoriad yn dechrau ar gynllun parcio preswyl newydd ar gyfer Caerdydd
 16/10/24

 Mae ymgynghoriad chwe wythnos ar gynllun parcio newydd ar gyfer y ddinas yn dechrau heddiw ac mae preswylwyr, busnesau a'r rhai sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i roi eu barn.

Byddai'r cynnig - i symud tuag at ddull newydd yn seiliedig ar ardal o reoli parcio ar draws y ddinas - yn rhoi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos yn agos at eu cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd i barcio ar gyfer cymudwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r cynllun parcio newydd ar gyfer Caerdydd yn bwriadu rhoi mynediad gwell i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, clybiau beiciau a cheir a busnesau lleol i barcio trwyddedau ar y stryd.

"Mae'r arolwg ar-lein wedi'i rannu'n bum adran sy'n cwmpasu'r pum maes arfaethedig, gan roi cyfle i'r cyhoedd ateb cwestiynau penodol i'r ardal y maent yn byw neu'n gweithio ynddi, neu os yw'n well ganddynt, gallant ateb yr holiadur cyfan.

"Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 1 Rhagfyr 2024 felly rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr arolwg, fel y gallwn ddeall blaenoriaethau pobl a chyflawni cynllun sy'n addas ar gyfer ein prifddinas.

I roi eich barn, ewch i www.caerdydd.gov.uk/ymgynghoriadparcio a llenwi'r arolwg."

O dan y cynllun newydd bydd pob lle parcio ar y stryd sydd o fewn ffiniau yr ardaloedd i'r de o'r A48, i'r gorllewin o Afon Rhymni, i'r gogledd o Fae Caerdydd ac i'r dwyrain o Afon Elái a’r wardiau allanol yn cael eu rhannu'n bedair ardal rheoli parcio penodol gyda chyfyngiadau gwahanol ar waith ar gyfer pob un.

Y rhain yw Ardaloedd Rheoli Parcio Canol y Ddinas, Mewnol, Bae Caerdydd ac Allanol. Bydd pob ardal yn cynnwys nifer o barthau parcio.

Byddai'r cynigion yn dod â Chaerdydd yn unol â'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y DU, ac yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad bydd yn cymryd sawl blwyddyn i'w gweithredu, gan y bydd angen Gorchmynion Rheoli Traffig ar wahân ar gyfer pob parth parcio.

Mae'r Ardaloedd Rheoli Parcio newydd arfaethedig fel a ganlyn:

Ardal Rheoli Parcio Canol y Ddinas, fydd yn cynnwys Canol y Ddinas gan gynnwys canol Caerdydd a'r Ganolfan Ddinesig. Bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu reoli 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn ac ni chaniateir unrhyw aros o gwbl. Dim ond yn ystod oriau penodol y caniateir llwytho er mwyn sicrhau y gall busnesau ailstocio.  Ni all unrhyw un wneud cais am drwydded yn yr Ardal Rheoli Parcio hon. Nid effeithir ar safleoedd tacsis, mannau llwytho na mannau parcio i bobl anabl.

Mae’r Ardal Rheoli Parcio Fewnol yn cynnwys rhannau o Adamsdown, Butetown,  Cathays, Grangetown a Phlasnewydd sydd wrth ymyl Canol y Ddinas. Bydd pob lle parcio ar y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 10pm a dim ond trwyddedau preswylwyr, ymwelwyr, cymunedol a gofalwyr y gellir gwneud cais amdanynt. Y tu allan i safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau a thalu ac arddangos rhwng 8am a 10pm.

Mae Ardal Rheoli Parcio Bae Caerdydd yn cynnwys Butetown i gyd i'r de o Sgwâr Callaghan. Bydd pob lle parcio ar y stryd yn Ardal Rheoli Parcio Bae Caerdydd yn cael ei reoli rhwng 8am ac 8pm a dim ond trwyddedau preswylwyr, ymwelwyr, cymunedol a gofalwyr y gellir gwneud cais amdanynt. Heblaw am safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau talu a thalu ac arddangos rhwng 8am ac 8pm.

Mae’r Ardal Rheoli Parcio Allanol yn cynnwys Treganna, Gabalfa, Pen-y-lan a Sblot, a'r rhannau o Adamsdown, Cathays, Grangetown a Phlasnewydd nad ydynt wrth ymyl canol y ddinas. Bydd yr holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 6pm a dim ond trwyddedau preswylwyr, ymwelwyr, busnes, gofalwyr ac ysgolion y gellir gwneud cais amdanynt. Heblaw am safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau a thalu ac arddangos rhwng 8am a 6pm.

Aeth y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth ymlaen: "Mae parcio ar draws y ddinas wedi dod yn broblem gynyddol i lawer o breswylwyr sy'n ei chael hi'n anoddach ac anoddach parcio y tu allan neu'n agos i’w cartrefi eu hunain oherwydd niferoedd cynyddol y traffig cymudo.

"Mae'r gallu i gymudwyr ddod i barcio yn y ddinas am ddim yn arwain at lygredd aer a thagfeydd, gyda’n preswylwyr ni yn dioddef.

"Rydym bob amser wedi bod yn glir, er mwyn glanhau aer y ddinas a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni leihau ein dibyniaeth ar y car preifat ac annog pobl i ystyried trafnidiaeth gyhoeddus.

"Credwn y bydd newid y ffordd rydym yn galluogi pobl i barcio ar draws y ddinas, gan wneud y system yn haws ei deall fel bod gyrwyr yn gwybod ble y gallant barcio neu beidio, yn helpu i leddfu'r problemau hyn a bydd yn annog mwy o bobl i ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n well i'r amgylchedd.

"Wrth i ni barhau i wella llwybrau beicio a cherdded, mae'r gystadleuaeth am le ar rwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cynyddu a chan ei bod yn amhosib creu mwy o lefydd parcio ar y stryd oherwydd cyfyngiadau ffisegol, mae angen gwneud newidiadau. Felly, yr hyn rydym yn ei gynnig yma yw ailwampio'r polisi parcio ar y stryd yn gyfan gwbl trwy greu 'dull parthau' o fewn Ardaloedd Rheoli Parcio fel y gallwn reoli a gorfodi'r mannau parcio sydd ar gael yn well fel na chaiff y system ei chamddefnyddio.”

Er nad yw meddu ar unrhyw drwydded parcio yn gwarantu lle parcio, mae cynigion yn cael eu cyflwyno i ddiwygio telerau ac amodau'r trwyddedau i ryddhau mwy o le, er enghraifft trwy godi mwy ar SUVs i annog pobl i berchen ar geir llai a gosod cyfyngiadau newydd ar drwyddedau ar gyfer eiddo i fyfyrwyr yn unig, ac i sicrhau na ellir camddefnyddio’r system. 

 

Mae'r cynllun parthau parcio newydd yn cynnig newid y telerau ac amodau a’r mathau o drwyddedau parcio sydd ar gael ar hyn o bryd.

Fel rhan o'r gwaith gweithredu, bydd y cyngor yn egluro'n glir sut y gall pobl wneud cais am y trwyddedau newydd fel bod cyfnod pontio di-dor rhwng yr hen system a'r un newydd. Bydd y trwyddedau canlynol yn cael eu cyflwyno bryd hynny.

Ni fyddai preswylwyr sy'n byw mewn ardal barcio bresennol yn gymwys i gael trwydded parcio i breswylwyr pe bai eu heiddo naill ai wedi ei adeiladu, neu ei addasu, ar ôl 1 Medi 2011.  

Ni fyddai preswylwyr sy'n byw mewn ardal barcio newydd (arfaethedig) yn gymwys i gael trwydded parcio i breswylwyr pe bai eu heiddo naill ai wedi ei adeiladu, neu ei addasu, ar ôl 1 Medi 2024.

Y trwyddedau fyddai ar gael o dan y cynllun newydd yw:

Trwydded breswyl: Byddai'n rhaid i bob preswylydd sydd â thrwydded ar hyn o bryd ailymgeisio am drwydded newydd ar gyfer parthau sy'n benodol i'r heol/ardal lle maen nhw’n byw. Bydd hyn yn rhoi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar heol arall sy'n rhan o'u hardal preswylwyr. Bydd yn rhaid i bawb sydd am barcio beic modur ar y stryd hefyd wneud cais am drwydded o dan y system newydd.

Trwydded ymwelwyr: O ran parcio i ymwelwyr, bydd hawl gan bob cartref wneud cais am 240 yn unig o ddiwrnodau parcio i ymwelwyr bob blwyddyn. Trwy roi'r cyfyngiad hwn ar waith, mae'r system yn llai agored i gael ei chamddefnyddio, gan sicrhau bod y broses o ddyrannu parcio i ymwelwyr yn cael ei rannu rhwng cartrefi mewn ardal breswyl benodol.

Trwydded gymunedol: Gellir gwneud cais am drwyddedau parcio ar y stryd cymunedol gan rai addoldai neu grwpiau mynediad i bobl anabl sydd wedi'u heithrio dan ddeddfwriaeth benodol.

Trwydded fusnes: Dim ond busnesau sydd ag eiddo yn yr Ardal Rheoli Parcio Allanol all wneud cais am drwydded parcio ar y stryd, a fydd ond yn caniatáu i berchennog busnes barcio cerbydau sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y busnes o ddydd i ddydd.  Felly, nid yw’r drwydded hon ar gyfer cymudwyr na staff.

Trwydded gofalwr: Mae dau fath o drwydded gofalwr yn cael eu cynnig ar gyfer parcio ar y stryd, un ar gyfer iechyd proffesiynol ac un ar gyfer gofal personol i'r rhai sy'n gymwys.

Trwydded ysgol: Gall ysgolion presennol sydd yn yr Ardal Rheoli Parcio Allanol wneud cais am drwydded ar y stryd i barcio cerbyd sydd ei angen ar gyfer rhedeg yr ysgol. Unwaith eto, nid yw’r drwydded hon ar gyfer cymudwyr na staff.