Bydd dau fath newydd o gyfeirbost dwyieithog i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch y ddinas yn cael eu gosod ym Mae Caerdydd ar 16 a 17 Hydref i brofi eu gwydnwch a'u dyluniad, cyn cael eu cyflwyno ar draws canol y ddinas a Bae Caerdydd ym mis Ionawr 2025.
Bydd y totemau newydd, sy'n dod mewn dau faint, a
mynegbyst newydd, yn disodli arwyddion twristiaeth presennol, a osodwyd mor
bell yn ôl â'r 1980au. Bydd cant a saith o hen arwyddion yn cael eu gwaredu, a
bydd 70 o arwyddion newydd yn cael eu gosod gan ddangos mapiau a gwybodaeth
gyfoes.
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn £380,000 gan
Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn cynnwys cael
gwared ar yr hen arwyddion yn ogystal â dylunio, cynhyrchu a gosod cyfeirbyst
newydd.
Bydd y ddau brototeip newydd, totem a mynegbost, yn
cael eu gosod y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ac Adeilad y Pierhead i
brofi'r dyluniadau cyn i'r arwyddion newydd gael eu cynhyrchu.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet
dros Newid Hinsawdd, Trafnidiaeth a Chynllunio Cynaliadwy: "Mae Caerdydd
wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r holl
gyfeirbyst presennol yng nghanol y ddinas wedi dyddio, gyda dyluniadau
gwahanol. Maen nhw'n barod am newid ac mae sicrhau bod arian ar gael drwy
Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU yn ein galluogi i wneud y gwelliant
hwn".
"Rydym eisiau sicrhau y gall ymwelwyr sy'n dod
i Gaerdydd ddod o hyd i’r ffordd o amgylch canol y ddinas a Bae Caerdydd yn
hawdd. Mae'r arwyddion newydd yn cynnwys eiconau o atyniadau ymwelwyr Caerdydd
i'w gwneud mor syml â phosib ac yn cynnwys Cod QR, fel bod pobl yn gallu cael
gafael ar y wybodaeth ar eu ffôn clyfar."