The essential journalist news source
Back
11.
October
2024.
Adeiladu Maes Parcio Aml-lawr newydd ym Mae Caerdydd
 11/10/24

 Mae'r dyluniad manwl bellach wedi'i gwblhau ar gyfer y maes parcio aml-lawr newydd arfaethedig yng Nglanfa'r Iwerydd, a fydd yn golygu creu’r un nifer o leoedd parcio ceir â’r maes parcio presennol, ond ar ardal lawer llai er mwyn gallu adfywio’r safle.

Mae'r maes parcio newydd yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi'r Arena Dan Do newydd ac mae ei angen hefyd i fodloni telerau prydlesi tenantiaid Canolfan y Red Dragon.

Mae adroddiad a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Caerdydd ar 17 Hydref  nawr yn gofyn am ganiatâd i lunio cytundeb adeiladu â Goldbeck Construction.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y maes parcio newydd yn disodli'r mannau presennol a bydd yn cadw cyfanswm nifer y lleoedd parcio yn yr ardal ar ôl i’r Cyngor brynu Maes Parcio Aml-lawr Q-Parks ar Stryd Pen y Lanfa fis Ionawr 2024.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Fis Ionawr eleni, cymeradwyodd y Cabinet Strategaeth Parcio Ceir newydd ar gyfer yr Arena Dan Do a'r uwchgynllun ehangach. Ar ôl prynu'r Maes Parcio Aml-lawr yn Stryd Pen y Lanfa, mae'n rhaid i'r Cyngor nawr ddarparu maes parcio aml-lawr â 900 o leoedd, sy'n llai na'r cynllun gwreiddiol o 1,300 o leoedd.

"Gyda'i gilydd, bydd y meysydd parcio yn rhoi rheolaeth i'r Cyngor dros 2,119 o leoedd am yr un gost â phris adeiladu maes parcio aml-lawr â 1,300 o leoedd.

"Os rhoddir caniatâd gan y Cabinet, gellid adeiladu'r maes parcio aml-lawr newydd â 900 o leoedd erbyn diwedd y flwyddyn nesaf i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau i ddatblygwr yr Arena. Ar ôl adeiladu’r maes parcio aml-lawr newydd, bydd yn caniatáu i'r Cyngor symud ymlaen i adfywio safle Canolfan y Red Dragon.

Ym mis Ionawr 2020, daeth safle’r Red Dragon yn eiddo i’r Cyngor fel bod gan y Cyngor reolaeth lawn ar y tir sydd ei angen i alluogi datblygu arena dan do newydd â lle i 15,000 o bobl, ac i hwyluso'r buddsoddiad yn safle ehangach Glanfa'r Iwerydd.

Mae'r Cyngor wedi ymgymryd â phroses i ddenu datblygwr ar gyfer y safle, sy'n cynnwys 11.3 erw o dir i'r de o Hemingway Road, ac mae bellach yn gweithio gyda Consortiwm Cyfalaf Aviva (ACC) i gyflwyno cynlluniau ar gyfer datblygiad defnydd cymysg bywiog a all ategu'r cynlluniau ar gyfer yr Arena Dan Do newydd.

Fel rhan o'r cynllun ailddatblygu, mae'r Cyngor hefyd yn ceisio gwella'r llwybrau cerdded a beicio ar hyd Rhodfa Lloyd George. Mae'r Cyngor wedi dechrau ymgynghori â'r gymuned leol ar sut y gellir ailfodelu'r lôn gerbydau i wella llwybrau teithio llesol i ategu'r llinell Metro a’r Cledrau Croesi newydd ac i gynyddu nifer y mannau gwyrdd a thirlunio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae'r gwaith tir rhagarweiniol ar gyfer yr Arena Dan Do newydd yn cyflymu wrth edrych ymlaen at ddiwedd blwyddyn ariannol y contract ym mis Mawrth 2025.

"Mae'r arena a'r uwchgynllun ehangach yn fuddsoddiad sylweddol yn yr economi leol, gan roi hwb i gam nesaf y gwaith i adfywio Bae Caerdydd a chreu swyddi a chyfleoedd i bobl leol wrth sbarduno buddsoddiad pellach yn y rhan hanesyddol hon o'r ddinas.

"Bydd yr arena'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â Chaerdydd ar gyfer digwyddiadau a chyngherddau yn sylweddol, gyda lleoliadau lletygarwch presennol yn elwa yn ogystal â'r datblygiadau newydd a fydd yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun adfywio hwn. Bydd nifer cynyddol yr ymwelwyr hefyd yn amserol wrth i’r gwasanaeth Metro newydd ddod i Fae Caerdydd. Bydd hefyd yn gwella enw da Caerdydd i ddenu mwy a mwy o ddigwyddiadau i'r ddinas.”