Gallai un o adeiladau gorau Caerdydd weld bywyd o’r newydd ar ôl bod yn wag am dros flwyddyn, os yw Cyngor Caerdydd yn cytuno ar becyn benthyciadau ariannol i dalu am gostau adnewyddu.
Ddydd
Iau, 17 Hydref, gofynnir i Gabinet y cyngor dderbyn argymhelliad i awdurdodi
benthyciad ychwanegol o £1,630,000 o dan gynllun Adfywio Canol Trefi Llywodraeth Cymru
er mwyn helpu i ddelio â'r gost uwch o adnewyddu Tŷ’r Parc i fodloni gofynion
treftadaeth, gan gynyddu’r benthyciad gwreiddiol a oedd yn £950,000.
Mae
Tŷ’r Parc neu’r Park House, adeilad rhestredig Gradd 1 a gynlluniwyd gan
y pensaer Fictoraidd enwog William Burges ar gyfer yr Arglwydd Bute, wedi bod
yn wag am 18 mis. Gan ddefnyddio cynllun benthyciadau Llywodraeth Cymru, nod y
cyngor yw helpu i adfer y berl bensaernïol hon i'w hen ogoniant.
Ar
ôl ei gwblhau, bydd Tŷ’r Parc yn cael ei droi'n dŷ bwyta a lleoliad
digwyddiadau bywiog, gan gyfuno amwynderau modern â'i harddwch pensaernïol
oesol.
Mae'r
prosiect yn cael ei arwain gan y cogydd uchel ei barch o Gymru, Tom Simmons,
sy'n adnabyddus am ei ddull arloesol o goginio. Mae Simmons yn bwriadu creu
profiad bwyta o ansawdd uchel a fydd yn denu trigolion ac ymwelwyr, gan wneud
Tŷ’r Parc yn brif gyrchfan ar gyfer bwyd a digwyddiadau.
Dwedodd
y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu:
"Mae adfywio Tŷ’r Parc yn brosiect hanfodol i Gaerdydd. Mae nid yn unig yn
cadw darn sylweddol o'n treftadaeth bensaernïol ond hefyd yn adfywio canol y
ddinas, gan ddarparu cyfleoedd newydd i fusnesau a'r gymuned. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Tŷ’r Parc yn
parhau i fod yn dirnod y gall Caerdydd fod yn falch ohono, ac rydym yn edrych
ar ddefnyddio cynllun benthyca sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru, sydd
wedi'i anelu at adfywio canol trefi, fel y gellir adfer yr adeilad yn
llawn."
I
adennill costau'r benthyciad, bydd y busnes yn ad-dalu dros amser a bydd yr
arian yn cael ei ailgylchu i gynlluniau tebyg eraill. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y cymorth
ariannol a ddarperir yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn gynaliadwy.
Mae
effaith economaidd ddisgwyliedig prosiect adfywio Tŷ’r Parc yn sylweddol. Yn ôl astudiaeth Traweffaith Economaidd
Savills, mae disgwyl i Dŷ'r Parc wedi ei adnewyddu gynhyrchu 10,900 o ymwelwyr
y flwyddyn, gan gyfrannu hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn i'r economi leol.
Bydd
y prosiect hefyd yn dod â manteision sylweddol i'r gymuned leol. Mae Tom Simmons yn bwriadu gweithio gydag
ysgolion lleol drwy fenter Addewid Caerdydd. Mae Addewid Caerdydd yn rhaglen
sy'n cysylltu ysgolion, busnesau a sefydliadau i helpu pobl ifanc yng
Nghaerdydd i ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr. Trwy weithio mewn partneriaeth ag Addewid
Caerdydd, bydd Simmons yn cynnig cyrsiau hyfforddi mewn rheoli digwyddiadau o
ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu am gynllunio
a chynnal digwyddiadau, a allai agor cyfleoedd gyrfa cyffrous iddynt yn y
dyfodol. Nod y fenter hefyd yw chwalu'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â symudedd
cymdeithasol, anableddau a stereoteipiau, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn cael
cyfle cyfartal i lwyddo. Bydd y prosiect
hefyd yn creu gofod newydd, bywiog ar gyfer cynulliadau cymdeithasol,
digwyddiadau a chiniawa, gan ddarparu lleoliad ar gyfer dathliadau lleol. Bydd
y gwaith adnewyddu hefyd yn gwella apêl yr ardal, gan gyfrannu at wella canol y
ddinas yn gyffredinol. Yn ogystal, bydd
y prosiect yn cefnogi busnesau lleol drwy ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, rhoi
hwb i'r economi leol a chreu cyfleoedd gwaith i breswylwyr.
Mae
Park House, a gynlluniwyd gan William Burges, yn cael ei ystyried yn un o'r tai
pwysicaf yng Nghymru’r 19eg ganrif. Dyluniodd Burges, pensaer Fictoraidd amlwg,
adeiladau nodedig eraill yng Nghaerdydd hefyd, gan gynnwys Castell Caerdydd a
Chastell Coch. Mae ei waith yn cael ei ddathlu oherwydd ei arddull Adfywiad
Gothig cywrain, ac mae Tŷ’r Parc yn enghraifft wych o'i ddisgleirdeb fel
pensaer. Mae arwyddocâd hanesyddol a mawredd pensaernïol yr adeilad yn gwneud
ei adfer yn flaenoriaeth cyn iddo ddirywio ymhellach oherwydd iddo gau yn
ddiweddar. Mae'r adeilad wedi'i leoli ger yr Amgueddfa Genedlaethol a Neuadd y
Ddinas, gan ychwanegu at ei bwysigrwydd a'i amlygrwydd yn y ddinas.
Mae'r
Cynllun Benthyciadau Trawsnewid Trefi wedi bod yn allweddol wrth gefnogi
adfywio sawl adeilad allweddol arall yng Nghaerdydd. Mae enghraifft nodedig yn cynnwys Parador 44,
gwesty ar thema Sbaenaidd uwchben Asador, yng nghanol y ddinas.
Mae'r
Cyngor yn bwriadu sicrhau'r benthyciadau ar gyfer prosiect Tŷ’r Parc drwy
gyfuniad o fesurau gan gynnwys arwystl sefydlog dros yr eiddo a dyledeb ar y
busnes. Mae hyn yn golygu bod gan y Cyngor hawliad cyfreithiol dros yr eiddo
a'r asedau busnes, y gellir eu defnyddio i adennill swm y benthyciad os oes
angen.
Bydd
Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau
17 Hydref. Gallwch wylio ffrwd fyw o hwnnw yma Agenda ar gyfer y Cabinet Ddydd Iau 17
Hydref 2024, 2.00pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)
Cyn
hynny, bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn adolygu'r adroddiad a'i
argymhellion o 4.30pm Ddydd Mawrth 15 Hydref. Gallwch wylio'r cyfarfod pwyllgor
hwnnw ar ffrwd fyw o’r cyfarfod hwnnw yma Agenda’r Pwyllgor Craffu’r Economi a
Diwylliant Ddydd Mawrth 15 Hydref, 2024, 4.30pm : Cyngor Caerdydd
(moderngov.co.uk) lle gallwch hefyd weld yr
adroddiad llawn ar yr agenda.