The essential journalist news source
Back
4.
October
2024.
Gwaith gweddnewid parc yng Nglan-yr-afon wedi'i gwblhau
4/10/24
 
Mae gweddnewidiad un o barciau’r ddinas gyda nodweddion newydd ac amgylchedd mwy dymunol wedi'i gwblhau.

Dechreuodd y gwaith gwella yng Ngerddi Clare yng Nglan-yr-afon yn ystod yr haf ac yn dilyn cyflwyno gardd gymunedol newydd, ardal ymarfer corff, a gofod cymdeithasol, ynghyd â phlannu planhigion dolydd a nifer o welliannau eraill, ail-agorwyd y parc heddiw (4 Hydref) i'r gymuned leol ei fwynhau unwaith eto.

Mae’r gwaith wedi’i wneud yn rhan o raglen Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor sy’n cyflwyno projectau adfywio ledled y ddinas.

Mae'r rhaglen yn cyflawni prosiectau adfywio ar raddfa fach gafodd eu hawgrymu gan aelodau lleol.  Mae prosiectau wedi'u cynllunio a'u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i'r afael ag angen neu broblem a nodwyd.

Ariannwyd cynllun Gerddi Clare gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Ymunodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ag aelodau ward lleol yn y gerddi heddiw i weld y gwelliannau, sy'n cynnwys: 

  • Gardd gymunedol newydd.
  • Bwrdd tennis bwrdd newydd.
  • Byrddau picnic newydd.
  • Ardal ymarfer corff pwysau corff/calistheneg newydd.
  • Man cymdeithasol newydd gyda lle i eistedd.
  • Llwybrau wedi'u hail-wynebu a llwybr cerdded cylchol.
  • Ardal ddôl newydd a phlannu newydd arall.
  • Dwy fynedfa giât newydd, un ar bob cornel o Stryd Clare.
  • Plannu coed newydd a chadw coed aeddfed presennol.

Bwriad y gwelliannau yw ategu'r ardal chwarae a'r cyfleusterau chwaraeon yng Ngerddi Despenser gerllaw.

Yn ogystal â gwelliannau Gerddi Clare, gosodwyd darn newydd o waith celf yng Ngerddi Despenser i gymryd lle mosaig llawr a oedd wedi mynd i gyflwr gwael.  Cynhaliodd yr artist lleol Nigel Talbot o Tudor Lane weithdai gyda phlant ysgol lleol i wneud darnau clai ar gyfer strwythurau pren fertigol a chwblhawyd y gwaith celf cyn Gŵyl Glan-yr-afon, pan fu modd i’r plant arddangos eu gwaith celf.

Fel rhan o'r cynllun, mae’r rheiliau yng Ngerddi Despenser hefyd wedi cael eu hailbeintio, trwy raglen Gwneud Iawn â’r Gymuned Carchardai EF a’r Gwasanaeth Prawf.

Dywedodd y Cynghorydd Lee Bridgeman: "Mae ein Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau dros y misoedd diwethaf wedi rhoi bywyd newydd i Erddi Clare. Mae ganddo bellach rywbeth i bawb yn y gymuned leol, o'r ifanc iawn i'n dinasyddion hŷn, ym mha ffordd bynnag maen nhw am fwynhau'r parc hyfryd hwn."

 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Mae tystiolaeth bod mynediad at barciau a mannau gwyrdd o ansawdd da yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles cymunedau, felly rwy'n falch iawn mai Gerddi Clare yw'r diweddaraf yn y ddinas i gael eu gwella."