The essential journalist news source
Back
1.
October
2024.
Gwella ardal chwarae Parc Maitland

1.10.24

Mae gwelliannau i'w gwneud i'r ardal chwarae ym Mharc Maitland yn Gabalfa.

Bydd y gwaith gwella, a fydd yn cymryd tua 6 wythnos i'w gwblhau, yn cynnwys:

  • Gosod offer chwarae newydd.
  • Gosod arwyneb diogelwch newydd.
  • Seddi newydd.
  • Biniau sbwriel newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'n bwysig iawn bod cyfleusterau chwarae awyr agored lleol o ansawdd da ar gael ac rwy'n siŵr bydd teuluoedd sy'n byw'n lleol yn croesawu'r cyfleusterau hyn wedi'u huwchraddio.

I wneud y gwaith, bydd yr ardal chwarae'n cau i'r cyhoedd o 7 Hydref. Mae disgwyl i'r gwaith gymryd tua 6 wythnos i'w gwblhau, yn amodol ar y tywydd ac unrhyw amgylchiadau annisgwyl.

Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i beidio â gwneud gwelliannau i ardaloedd chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol, ond er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi'i gwblhau cyn gwanwyn 2025, bydd yr ardal chwarae ar gau yn ystod hanner tymor mis Hydref sydd i ddod. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.