The essential journalist news source
Back
27.
September
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Medi 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Principality Caerdydd ar Hydref 6
  • Rhagor o gynlluniau ar gyfer rhagor o gartrefi
  • Estyn yn cymeradwyo Ffederasiwn yr Enfys am arweinyddiaeth gref a chydweithio effeithiol
  • Cyllid newydd 'Dinas Gerdd Caerdydd' i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad

 

Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Principality Caerdydd ar Hydref 6

Gyda Hanner Marathon Principality Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd 6 Hydref, mae disgwyl i'r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Ar ddydd Mercher 2Hydref bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig i osod a datgymalu pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.

Darllenwch fwy yma

 

Rhagor o gynlluniau ar gyfer rhagor o gartrefi

Mae cynlluniau ar gyfer 280 o dai cyngor newydd eraill i'r ddinas, i helpu i leddfu'r pwysau tai eithafol sy'n wynebu'r Cyngor, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ceisio cymorth digartrefedd ac mae llety dros dro y ddinas i gyd yn llawn.

Fel rhan o'i ymateb cyflym i'r argyfwng tai hwn, mae'r Cyngor yn cynnig caffael tri eiddo arall yn y ddinas a fyddai'n darparu 280 o unedau llety ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol at yr eiddo a'r tir sydd eisoes wedi'u prynu i helpu i fynd i'r afael â'r galw.

Bydd y cynlluniau newydd, sy'n cynnwys caffael bloc llety myfyrwyr presennol o 103 o fflatiau, gwesty gweithredol sy'n darparu mwy na 150 o unedau a Thŷ Amlfeddiannaeth 20 gwely, yn cael eu trafod gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Medi.

Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddarparu'r 250 o gartrefi newydd a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai ac mae disgwyl i 33 o'r 99 uned llety i deuluoedd o ansawdd uchel mewn dau adeilad ym Mae Caerdydd fod yn barod erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, tra bydd y gweddill yn dilyn yn ddiweddarach yn 2025. Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud ar ddefnyddio 120 o gartrefi modiwlaidd ynni-effeithlon parod ar lain wag 1.87 erw ar Stryd Pen y Lanfa.

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Mae'r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni i gynyddu ystod a digonolrwydd llety yn y ddinas yn symud ymlaen yn dda, ond ni fydd y rhain yn unig yn ddigon i ddiwallu'r pwysau rydyn ni'n ei brofi nawr, a'r hyn sydd o'n blaenau dros y flwyddyn i ddod.

"Mae heriau newydd yn dod i'r amlwg drwy'r amser, felly mae'n hanfodol ein bod yn chwilio am opsiynau newydd yn gyson i roi hwb i argaeledd tai fforddiadwy."

Darllenwch fwy yma

 

Estyn yn cymeradwyo Ffederasiwn yr Enfys am arweinyddiaeth gref a chydweithio effeithiol

Mae Ysgolion Cynradd Glan-yr-Afon a Bryn Hafod yn Llanrhymni wedi cael eu canmol gan Estyn am eu harweinyddiaeth gref, eu cydweithio effeithiol, a'u heffaith gadarnhaol ar les a dysgu disgyblion drwy bartneriaeth Ffederasiwn yr Enfys.

Canmolwyd y cwricwlwm a ddarperir yn y ddwy ysgol gynradd am ddarparu ystod eang ac ysgogol o brofiadau dysgu, gan alluogi disgyblion i ymgysylltu'n frwdfrydig a gwneud cynnydd sylweddol.  Mae dull cydweithredol y ffederasiwn yn sicrhau tegwch y ddarpariaeth i bob disgybl, gyda staff o'r ddwy ysgol yn elwa o gyfleoedd dysgu proffesiynol a rennir.  Mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd cyson mewn meysydd fel gwella sgiliau darllen disgyblion a chefnogi'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Ymhlith y cryfderau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad mae'r berthynas gref rhwng staff, disgyblion a'u teuluoedd, a'r ffocws ar greu amgylchedd diogel, cefnogol. Nodwyd ymddygiad cadarnhaol disgyblion a'u hymgysylltiad â'r dysgu a chanmolwyd athrawon am eu nodau clir a'u defnydd effeithiol o gwestiynu i wella'r dysgu.

Mewn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn yn argymell gwelliannau o ran darparu cyfleoedd i ddisgyblion iau ddatblygu eu sgiliau trwy archwilio a chwarae annibynnol, yn ogystal â defnydd mwy penodol o sgiliau rhifedd ar draws y dysgu ehangach.

Mewn ymateb i'r arolwg, bydd y ffederasiwn yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn. Mae Estyn hefyd wedi gwahodd Ffederasiwn yr Enfys i baratoi astudiaeth achos ar ei waith yn arwain cydweithredu ar draws y ddwy ysgol, i'w rhannu ar wefan Estyn fel enghraifft o arfer gorau.

Darllenwch fwy yma

 

Cyllid newydd 'Dinas Gerdd Caerdydd' i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cefnogaeth ariannu newydd ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd fel rhan o'i waith 'Dinas Gerdd Caerdydd' i helpu i ddiogelu a gwella sin gerddoriaeth y ddinas, sydd hefyd yn gweld yr Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae'r gronfa, sy'n agored i bob lleoliad llawr gwlad yn y ddinas, yn cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £10,000 tuag at wella lleoliadau. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae lleoliadau llawr gwlad Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol ym myd cerddoriaeth y ddinas.  Maent yn darparu cyfleoedd pwysig i artistiaid lleol ddatblygu ac adeiladu cynulleidfaoedd, gweithredu fel canolbwynt i gymunedau, a helpu i wneud Caerdydd yn lle bywiog a chyffrous yr ydym yn ei hadnabod ac yn ei charu."

"Mae'r gefnogaeth a gynigir gan y gronfa hon, ochr yn ochr â'r gwaith arall sy'n cael ei gyflawni drwy ein strategaeth gerddoriaeth - gan gynnwys Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd newydd, ein cefnogaeth i ailddatblygu Clwb Ifor Bach, cymorth a roddasom i Porters a Sustainable Studios pan oedd angen iddynt ddod o hyd i gartrefi newydd, a'n cynllun datblygu talent newydd Little Gigs - i gyd yn anelu at helpu i sicrhau eu bod yn gallu goresgyn yr heriau sy'n wynebu lleoliadau ledled y DU a pharhau i ffynnu wrth galon sîn gerddoriaeth Caerdydd.

Mae'r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU.

Am fwy o wybodaeth am Ddinas Gerdd Caerdydd, ewch i:https://dinasgerddcaerdydd.cymru/