The essential journalist news source
Back
24.
September
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Medi 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Mae ceisiadau am le ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 nawr ar agor
  • Yn fwy grymus, iach a hapus: Cynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024-2028
  • Ysgol Bro Eirwg wedi'i chanmol am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn

 

Mae ceisiadau am le ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 nawr ar agor

Mae ceisiadau am le ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 nawr ar agor ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall cyflwyno cais yn brydlon a nodi pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

Mae Tîm Derbyn Cyngor Caerdydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad cam wrth gam syml ar ffurf 7 darn o gyngor, i helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae'r wybodaeth ar gael  ar-lein  a thrwy animeiddiad  wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r holl bum dewis sydd ar gael. 

Pe bai teulu'n dewis rhoi un opsiwn ysgol yn unig, er enghraifft, maent yn cyfyngu'n fawr ar eu siawns o sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn 
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ein nod o hyd yw sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd fynediad at y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol er mwyn osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le ysgol.

"Rydym am atgoffa teuluoedd nad yw rhestru un ysgol yn unig ar eu cais yn gwella'r tebygolrwydd o gael eu derbyn yno. Mewn gwirionedd, drwy beidio â defnyddio'r pum opsiwn sydd ar gael, gall teuluoedd leihau eu siawns o sicrhau lle yn un o'u hysgolion o ddewis.

"Er mwyn sicrhau bod y broses ymgeisio am ysgolion yn deg ac yn hygyrch i bawb, mae sawl menter ar waith, gyda'r nod o hyrwyddo system fwy teg ar gyfer dyrannu lleoedd mewn ysgolion yng Nghaerdydd. Un o'r rhain yw ein hymgyrch barhaus '7 Darn o Gyngor - Derbyn i Ysgolion', sy'n cynnig arweiniad a chefnogaeth glir, gan wneud y broses dderbyn yn fwy tryloyw a syml fel bod gan bob teulu gyfle cyfartal i sicrhau lle yn un o'u hysgolion o ddewis."

Darllenwch fwy yma

 

Yn fwy grymus, iach a hapus: Cynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024-2028

Mae ymrwymiad o'r newydd i wneud Caerdydd yn lle gwych i heneiddio wrth wraidd cynllun gweithredu drafft newydd.

Mae Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, rhwydwaith o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a'r trydydd sector yn ogystal â sefydliadau eraill gan gynnwys busnesau, siopau, lleoliadau adloniant, grwpiau cymunedol a phobl hŷn eu hunain, wedi datblygu'r cynllun pum mlynedd newydd fel map ffordd ar gyfer creu amgylchedd lle mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fod yn fwy egnïol, lle gallan nhw gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd y ddinas, a byw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain cyhyd ag y bo modd.

Mae datblygiad cynllun 2024 - 2028, a drafodwyd gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod heddiw (19 Medi), yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed gan Gaerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn ers dod yn aelod cyntaf Cymru o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn ym mis Mawrth 2022. Mae gwaith Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, sydd bellach yn cael ei ystyried yn "aelod rhagorol" o'r rhwydwaith gan Sefydliad Iechyd y Byd, wedi cael ei arddangos i aelodau eraill ledled y byd fel enghraifft o arfer da.

Mae'r cynllun yn cyd-fynd â nifer o strategaethau a chynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2024-27 a Strategaeth Heneiddio'n Dda 2022 - 2027, Strategaeth Llunio Ein Llesiant i'r Dyfodol 2023-2035 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyd-gynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro 2023-28 a 'Cymru sy'n Dda i Oedran: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio', ac mae'n tynnu sylw at gyflawniadau'r flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys:

  • 36,318 awr o ofal wedi'u darparu gan Hybiau Gofal
  • 344 o ymweliadau cartref wedi'u cynnal gan Sight Life, elusen ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
  • 2,055 o ddigwyddiadau pobl hŷn wedi eu darparu yn Hybiau Caerdydd
  • 33,147 o gysylltiadau cwsmeriaid wedi'u rheoli gan dîm Pwynt Cyswllt Cyntaf y Cyngor
  • 12,000 o Archwiliadau Diogelwch Cartref wedi'u cynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • 290 o fusnesau sy'n deall dementia
  • 17,144 o ymwelwyr â gwefan Caerdydd sy'n Deall Dementia
  • Dros 200 o ddigwyddiadau ymgysylltu gan Heddlu De Cymru

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Leonora Thomson:  "Mae gan Gaerdydd boblogaeth sy'n heneiddio ac er bod y ffaith bod pobl yn byw'n hirach yn rhywbeth y dylem ei ddathlu, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i helpu pobl hŷn i fod yn egnïol, yn iach ac mor annibynnol â phosibl wrth iddynt heneiddio.

"Mae cynllun 2024-2028 yn ganlyniad cydweithio helaeth â phartneriaid ac ymgynghori â'n cymuned. Rydym i gyd yn rhannu'r weledigaeth ar y cyd bod ein dinas yn diwallu anghenion a dyheadau ein dinasyddion hŷn, gan barhau i symud ymlaen ar ein taith oed-gyfeillgar ac adeiladu ar y cynnydd rhagorol a gyflawnwyd hyd yn hyn."

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Bro Eirwg yn derbyn canmoliaeth am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn

Mae Ysgol Bro Eirwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhredelerch, wedi cael canmoliaeth uchel gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf.

Mae'r ysgol, sy'n rhan o Ffederasiwn y Ddraig, wedi cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth glir, ei hamgylchedd cefnogol, a'i hymrwymiad i feithrin balchder disgyblion yn eu hunaniaeth Gymreig.

Nododd arolygwyr fod y pennaeth, mewn cydweithrediad ag uwch arweinwyr, yn darparu arweinyddiaeth glir ac effeithiol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at gysondeb yn narpariaeth yr ysgol ac addysg gyfannol ei disgyblion. Mae'r cydweithrediad effeithiol o fewn y ffederasiwn a chydag ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wedi cryfhau'r arweinyddiaeth hon ymhellach.

Mae'r ysgol wedi creu amgylchedd cefnogol sy'n blaenoriaethu gofal a lles o ansawdd uchel i'w disgyblion ac mae'r awyrgylch cadarnhaol hwn yn cael ei adlewyrchu yn ymddygiad ac agweddau'r disgyblion tuag at ei gilydd ac oedolion.

Mae'r adroddiad yn cydnabod prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella effeithiol iawn yr ysgol a'r ffordd y defnyddiodd arweinwyr wybodaeth a gasglwyd i gyfoethogi darpariaeth yr ysgol yn fedrus, yn enwedig wrth ddatblygu amgylchedd dysgu ysgogol sy'n meithrin chwilfrydedd a hyder ymhlith y disgyblion ieuengaf.

Mae athrawon yn yr ysgol yn cael eu canmol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy'n datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth gymunedol a Chymreig ymhlith disgyblion ac mae'r ysgol yn darparu ystod eang o brofiadau gwerthfawr sy'n ehangu gorwelion disgyblion ac yn cyfrannu at eu datblygiad cyffredinol.

Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynd i'r ysgol gyda sgiliau Cymraeg lafar islaw'r lefel ddisgwyliedig, maent yn gwneud cynnydd sylweddol yn ystod eu hamser yn yr ysgol ac erbyn diwedd eu cyfnod yn Ysgol Bro Eirwg, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu cyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar ei dull llwyddiannus o greu amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol. Bydd yr astudiaeth achos hon yn cael ei rhannu ar wefan Estyn er budd ysgolion eraill ledled Cymru.

Darllenwch fwy yma