20/09/24 - Cynnig Setliad i Gyngor Caerdydd mewn Anghydfod Treth Dirlenwi gyda CThEF
Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb mewn egwyddor gyda CThEF i setlo anghydfod treth yn ymwneud â phridd a deunydd a ddygwyd i hen safle tirlenwi Ffordd Lamby rhwng naw a saith mlynedd yn ôl i gyfuchlinio a chapio'r safle.
20/09/24 - Rhagor o gynlluniau ar gyfer rhagor o gartrefi
Mae cynlluniau ar gyfer 280 o dai cyngor newydd eraill i'r ddinas, i helpu i leddfu'r pwysau tai eithafol sy'n wynebu'r Cyngor, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
20/09/24 - Campws Cymunedol y Tyllgoed - Datganiad gan Gyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael gwybod bod ISG Construction Ltd, prif gontractwr prosiect Campws Cymunedol y Tyllgoed, wedi gwneud cais i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
19/09/24 - Yn fwy grymus, iach a hapus: Cynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024-2028
Mae ymrwymiad o'r newydd i wneud Caerdydd yn lle gwych i heneiddio wrth wraidd cynllun gweithredu drafft newydd.
19/09/24 - Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Kitchener gan Estyn am ethos cynhwysol a chymuned dysgu gref
Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn Nhreganna wedi cael ei chanmol gan Estyn am ei hamgylchedd cynhwysol a chroesawgar, sy'n meithrin diwylliant o barch, cyfrifoldeb ac empathi ymhlith ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.
19/09/24 - Estyn yn cymeradwyo Ffederasiwn yr Enfys am arweinyddiaeth gref a chydweithio effeithiol
Mae Ysgolion Cynradd Glan-yr-Afon a Bryn Hafod yn Llanrhymni wedi cael eu canmol gan Estyn am eu harweinyddiaeth gref, eu cydweithio effeithiol, a'u heffaith gadarnhaol ar les a dysgu disgyblion drwy bartneriaeth Ffederasiwn yr Enfys.
18/09/24 - Pino Palladino (a chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Mae Pino Palladino, un o chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan artistiaid yn cynnwys Adele, The Who, D'Angelo, Ed Sheeran, Nine Inch Nails, Eric Clapton, Gary Numan, B.B. King, Bryan Ferry ac eraill.
18/09/24 - Ysgol Bro Eirwg yn derbyn canmoliaeth am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn
Mae Ysgol Bro Eirwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhredelerch, wedi cael canmoliaeth uchel gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf.
18/09/24 - Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer adeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd
Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r prif waith adeiladu ar Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.
17/09/24 - Seremoni Gosod y Garreg Gopa Campws Cymunedol y Tyllgoed
Mae Campws Cymunedol newydd sbon y Tyllgoed wedi gosod y garreg gopa, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn y campws addysg arloesol gwerth £110m yn y Tyllgoed.
17/09/24 - Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn
Mae Ysgol Pen y Pîl, ysgol gynradd Gymraeg yn Trowbridge, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac am feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
12/09/24 - Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd; ysgol gynradd fywiog a chynhwysol meddai Estyn
Mae Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, wedi rhyddhau ei adroddiad arolygu diweddaraf ar Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi'i lleoli yn yr Eglwys Newydd.
10/09/24 - Adroddiad Estyn yn amlygu llwyddiant Ysgol Arbennig y Court
Mae Ysgol Arbennig y Court yn Llanisien wedi cael ei chanmol gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, am ei hamgylchedd dysgu meithringar a chynhwysol, gan ganmol staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i les myfyrwyr.