The essential journalist news source
Back
20.
September
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Medi 2024
 20/09/24

 Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys:

·      Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer adeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd

·      Pino Palladino (a chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

·      Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn

 

 

 

Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r prif waith adeiladu ar Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.

 

Bydd y buddsoddiad addysg gwerth mwy na £60 miliwn, yn darparu amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau gwair a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

 

Bydd y cynllun diweddaraf sydd i'w gyflawni o dan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd yr Ysgol Uwchradd Willows bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu i ddarparu lle i 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed yn ogystal â 30 lle mewn Canolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth. Bydd cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle'r ysgol newydd hefyd yn cael eu darparu fel rhan o'r cynllun.   

 

Ym mis Mai, cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd i'r llety newydd sbon gael ei adeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn Sblot ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun wedi'i wneud gan Morgan Sindall Construction ers mis Awst 2023. 

 

Mae'r gwaith galluogi yn cynnwys gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol i ganiatáu i ddatblygiadau fynd rhagddynt, adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle a dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmor ac ar safle Marchnad Sblot.

 

Er mwyn paratoi ar gyfer dechrau'r prif waith, mae gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol, cloddio a gwaith tir, gan gynnwys cael gwared ar ddeunydd halogedig ar ôl tarfu ar y tir a gosod ffensys diogel o gwmpas ffin y safle hefyd yn cael eu cyflawni.

 

Darllenwch fwy yma

 

 

Pino Palladino (a chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

 

Mae Pino Palladino, un o chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan artistiaid yn cynnwys Adele, The Who, D'Angelo, Ed Sheeran, Nine Inch Nails, Eric Clapton, Gary Numan, B.B. King, Bryan Ferry ac eraill.

 

Nawr, bydd y cyfansoddwr, y cynhyrchydd a'r bas sydd wedi ennill yng Ngwobrau’r Grammy yn camu i'r llwyfan ar gyfer ei sioe gyntaf yn ei dref enedigol o dan ei enw ei hun mewn 30 mlynedd, fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

 

Mae'r tocynnau hefyd yn cynnwys cyfle i gael cipolwg unigryw ar yrfa 40 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth lle bu’n gweithio gyda phob math o artist, o Phil Collins i Perfume Genius, ac o John Mayer i J Dilla, wrth iddo sgwrsio  gyda'r DJ 6Music, Huw Stephens, yn trafod pob agwedd ar gerddoriaeth – o'r caneuon mae'n eu caru,  i'w arddull bas unigryw - a sut y lluniodd Caerdydd ei ddylanwadau cerddorol.

 

Yn ymuno â Pino ar lwyfan Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar nod Lun 14 Hydref bydd yr offerynnwr taro Chris Dave, a anwyd yn Houston, sydd wedi chwarae gyda rhai o'r enwau mwyaf nodedig y byd jazz ac R&B ac fe'i disgrifiwyd unwaith fel "y drymiwr mwyaf peryglus sydd ar dir y byw," gan Questlove o The Roots.

 

Ar y gitâr, yn tynnu ar ei gefndir mewn roc, gospel, jazz, R&B, blŵs a ffync gyda dogn sylweddol o soul bydd Isaiah Sharkey. Yn hanu o deulu cerddorol yn Chicago, cydiodd Sharkey yn ei gitâr gyntaf pan oedd yn 3 oed. Erbyn iddo gyrraedd 14 oed roedd yn perfformio mewn clybiau yn Chicago ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd wedi denu sylw a diddordeb cewri'r diwydiant cerddoriaeth fel The Isley Brothers, John Mayer, Patti LaBelle a llawer o rai eraill.

 

Darllenwch fwy yma

 

 

Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn

 

Mae Ysgol Pen y Pîl, ysgol gynradd Gymraeg yn Trowbridge, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac am feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 

 

Roedd yr arolygiad yn canmol pennaeth a thîm arwain yr ysgol am eu cyfeiriad clir a'u cydweithrediad effeithiol, yn enwedig o fewn Ffederasiwn y Ddraig, a ffurfiwyd yn 2019.  Mae'r bartneriaeth hon gydag Ysgol Gymraeg Bro Eirwg wedi creu cymuned ddysgu ffyniannus sy'n dathlu diwylliant Cymru ac yn darparu profiadau gwerthfawr i ddisgyblion.

 

Canodd yr arolygwyr glodydd yr ysgol am ei hymroddiad i ofal a lles disgyblion, sy'n dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad ac agweddau myfyrwyr ac amgylchedd cefnogol yr ysgol sy'n sicrhau bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

 

Cydnabuwyd athrawon yn yr ysgol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy'n helpu disgyblion i ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn i'w cymuned leol ac i Gymru a nodwyd ystod o weithgareddau difyr y tu mewn a'r tu hwnt i'r ystafell ddosbarth am ehangu gorwelion disgyblion a gwella eu profiad addysgol.

 

Er bod gan bron pob disgybl sy'n dod i mewn i'r ysgol sgiliau Cymraeg is na'r disgwyl, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfathrebu Cymraeg a Saesneg, mathemateg a sgiliau digidol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

 

Disgrifiwyd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fel rhai hynod effeithiol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da dros amser.

 

Yn adroddiad cyffredinol gadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael ag ef yn ei chynllun gweithredu; Cynorthwyo disgyblion ymhellach i wella eu dealltwriaeth o destunau ar draws pob maes dysgu.

 

Darllenwch fwy yma

 

Cynnig Setliad i Gyngor Caerdydd mewn Anghydfod Treth Dirlenwi gyda CThEF

 

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb mewn egwyddor gyda CThEF i setlo anghydfod treth yn ymwneud â phridd a deunydd a ddygwyd i hen safle tirlenwi Ffordd Lamby rhwng naw a saith mlynedd yn ôl i gyfuchlinio a chapio'r safle.

 

Roedd yr anghydfod yn ymwneud ag anghytundebau ynghylch cymhwyso rheolau treth dirlenwi newydd a chymhleth a gyflwynwyd yn 2015 yn gywir, ac anghysondebau o ran sut y cofnodwyd rhywfaint o’r gwastraff. Codir treth dirlenwi ar ddwy gyfradd yn dibynnu ar y math o ddeunydd. Yn ystod y cyfnodau y mae’r anghydfod yn ymwneud â nhw, roedd cyfradd safonol y dreth dirlenwi rhwng £82.60 ac £86.10 y dunnell, ac roedd y gyfradd is rhwng £2.60 a £2.70 y dunnell.

 

Dadleuodd CThEF y dylid codi am y pridd, a godir ar y gyfradd is fel arfer, ar y gyfradd uwch oherwydd methiannau 'gweinyddol' o ran sut y cafodd y deunydd ei drin pan gafodd ei dderbyn ar y safle.

 

Roedd CThEF o'r farn bod y deunydd yn destun profion cydymffurfio ychwanegol oherwydd ei briodoleddau, ond nid oedd y Cyngor o'r farn bod y gofynion cydymffurfio yn berthnasol.

 

Darllenwch fwy yma