Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb mewn egwyddor
gyda CThEF i setlo anghydfod treth yn ymwneud â phridd a deunydd a ddygwyd i
hen safle tirlenwi Ffordd Lamby rhwng naw a saith mlynedd yn ôl i gyfuchlinio a
chapio'r safle.
Roedd yr anghydfod yn ymwneud ag anghytundebau ynghylch
cymhwyso rheolau treth dirlenwi newydd a chymhleth a gyflwynwyd yn 2015 yn
gywir, ac anghysondebau o ran sut y cofnodwyd rhywfaint o’r gwastraff. Codir
treth dirlenwi ar ddwy gyfradd yn dibynnu ar y math o ddeunydd. Yn ystod y
cyfnodau y mae’r anghydfod yn ymwneud â nhw, roedd cyfradd safonol y dreth
dirlenwi rhwng £82.60 ac £86.10 y dunnell, ac roedd y gyfradd is rhwng £2.60 a
£2.70 y dunnell.
Dadleuodd CThEF y dylid codi am y pridd, a godir ar y
gyfradd is fel arfer, ar y gyfradd uwch oherwydd methiannau 'gweinyddol' o ran
sut y cafodd y deunydd ei drin pan gafodd ei dderbyn ar y safle.
Roedd CThEF o'r farn bod y deunydd yn destun profion
cydymffurfio ychwanegol oherwydd ei briodoleddau, ond nid oedd y Cyngor o'r
farn bod y gofynion cydymffurfio yn berthnasol.
Roedd Cyngor Caerdydd yn un o nifer o weithredwyr a
chyrff cyhoeddus oedd yn wynebu ymchwiliadau ac asesiadau treth dirlenwi gan
CThEF ar y mater hwn (Cyllid a Thollau EF yn
casglu £1 biliwn mewn treth heb ei thalu o ymchwiliadau treth dirlenwi -
Accountancy Age).
Swm llawn yr anghydfod yn wreiddiol oedd £35.3 miliwn
mewn treth dirlenwi heb ei thalu. Daeth cosbau â chyfanswm yr atebolrwydd i
bron i £45 miliwn - nid yw'r llog ar y swm hwn, a fyddai wedi bod yn ddyledus
yn dibynnu ar ba bryd y gwnaed y taliad, wedi'i gynnwys yn y ffigur hwn.
Yn dilyn trafodaethau dros nifer o flynyddoedd mae
setliad terfynol mewn egwyddor yn golygu bod y Cyngor yn wynebu bil o £12.3
miliwn mewn treth dirlenwi heb ei thalu a thua £3.9 miliwn mewn llog. Mae hyn
yn golygu y bydd atebolrwydd y Cyngor yn cael ei ostwng o leiaf £28 miliwn mewn
treth heb ei thalu a chosbau, a llawer iawn mwy mewn unrhyw log a fyddai wedi
bod yn ddyledus.
Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 26 Medi, bydd Cabinet
Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad yn argymell derbyn y setliad gyda CThEF.
Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull talu, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r
Cyngor Llawn ar yr un diwrnod i'w gymeradwyo. Yn ogystal, gofynnir i'r Cabinet
gymeradwyo argymhelliad i fynd ar drywydd unrhyw drethi tirlenwi heb eu talu
sy’n weddill ar ôl i CThEF ail-gategoreiddio pridd a ddygir i'r safle.
Daeth y mater i'r amlwg yn ystod archwiliad treth
dirlenwi CThEF ym mis Ionawr 2017 ac i ddechrau roedd yn ymwneud â dau gwmni a
ddaeth â deunydd i safle tirlenwi Ffordd Lamby. Caewyd y safle yn 2015, ond
roedd angen pridd i helpu i’w gyfuchlinio, ei gapio a’i unioni.
Daeth Cwmni A (Bridgend Biomass/South Wales Wood) â
deunydd i'r safle a gafodd ei drethi ar gyfradd is. Roedd CThEF yn anghytuno
â'r categoreiddio gan ddweud y dylai fod wedi cael ei drethu ar gyfradd uwch.
Arweiniodd hyn at anghydfod treth, a gafodd ei ddatrys yn y pen draw am gost
isel i'r Cyngor. Mae manylion y setliad hwn gyda CThEF yn gyfrinachol, felly ni
allwn ddatgelu rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.
Cludodd Cwmni B (Neal Soils) bridd i'r safle a chodwyd am
hyn fel pridd heb ei brosesu ac ar y gyfradd is. Fodd bynnag, honnodd CThEF fod
y pridd hwn wedi’i brosesu ac y dylai fod wedi cael ei drethu ar gyfradd uwch.
Dadleuodd y Cyngor fod y rheoliadau cydymffurfio newydd yn amwys o ran
diffiniad a thriniaeth pridd wedi'i brosesu er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y
gyfradd treth is. Nid oes awgrym o unrhyw anghywirdeb nac anghyfreithlondeb
yma, dim ond anghydfod ynghylch diffiniadau a chategorïau.
Yn wyneb ansicrwydd ymgyfreitha ynghylch dehongli'r pridd
a ddygwyd i'r safle gan Gwmni B, yn erbyn cynnig setliad gan CThEF sy'n
lleihau'r atebolrwydd yn sylweddol, bydd y Cyngor yn cael ei argymell i dderbyn
y cytundeb setlo.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros
Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, fod y setliad arfaethedig yn
"benderfyniad pragmatig" sy'n cydbwyso cost ymgyfreitha â'r risg o
dalu swm llawn yr anghydfod. Pwysleisiodd ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael
â phryderon CThEF, i leihau'r dirwyon a'r cosbau ariannol, wrth wella‘r monitro
ac arferion ar safleoedd gwastraff y Cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Newidiodd rheolau treth dirlenwi tua'r
adeg y daeth y problemau i’r amlwg, a chyfrannodd hyn at y dryswch. Nid oedd y
deunyddiau a aseswyd, a'r rheolau a'r cyfraddau a oedd yn ymwneud â’r
deunyddiau hynny, bob amser yn glir. Mae’r drefn treth dirlenwi yn gymhleth ac
yn amwys, ac nid y Cyngor hwn yn unig sydd wedi derbyn asesiadau treth dirlenwi
gan CThEF. Ni ddylai'r camgymeriadau fod wedi codi, ond gan na allwn fynd yn ôl
i 2015 a gwneud pethau’n wahanol, ein gwaith nawr yw datrys hyn.
"Mae CThEF yn honni yr oedd pridd o Neal Soils wedi
cael ei brosesu ac felly dylai fod wedi bod yn destun profion. Rydym yn
anghytuno, ond gallai ymgyfreitha, o ystyried ei ansicrwydd cynhenid, arwain at
gost llawer uwch i ni.
"Rydym wedi bod mewn
trafodaethau gyda CThEF ers nifer o flynyddoedd. Er y bydd y canlyniad hwn yn
arwain at gost sylweddol i'r Cyngor, rwy'n deall efallai mai dyma'r ffordd orau
ymlaen nawr. Nid yw'r Cyngor yn gallu unioni'r materion sydd wedi codi yn
ôl-weithredol, gan na allwn agor y safle tirlenwi i ynysu a chynnal profion ar
y deunydd dan sylw. Er nad yw'r cyngor yn rhedeg safle tirlenwi mwyach, mae'r
awdurdod wedi adolygu arferion rheoli gwastraff, wedi rhoi gwell mesurau rheoli
ar waith, ac wedi gweithio'n agos gydag arbenigwyr cyfreithiol a threth i
sicrhau y cydymffurfir â'r gyfundrefn drethi.
Nid yw Cyngor Caerdydd erioed wedi cuddio'r anghydfod
hwn. Fe'i nodwyd mewn sawl adroddiad dros y blynyddoedd, gan ddechrau yn 2018.
Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad setliad CThEF yn ei
gyfarfod nesaf ddydd Iau, 26 Medi. Gallwch wylio ffrwd fyw o 1pm yma Agenda ar gyfer Cyfarfod y
Cabinet ddydd Iau, 26 Medi 2024, 1.00pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) lle gallwch hefyd weld yr
adroddiad llawn. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Cyngor Llawn wedyn yn
penderfynu a ddylid cytuno ar y dull talu, a fydd yn golygu gwelliant i
gyllideb 2024/25 yn unol â Fframwaith Polisi'r Gyllideb. Gallwch wylio ffrwd
fyw o'r cyfarfod hwnnw o 4.30pm ar y diwrnod yma Agenda ar gyfer y Cyngor
ddydd Iau, 26 Medi 2024, 4.30pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)
Camau Lliniaru
Cymerodd y Cyngor nifer o gamau sylweddol hefyd i
ymgysylltu â CThEF a lliniaru'r asesiadau treth dirlenwi, gan gynnwys:
- Penodi Ymgynghorwyr: Penododd y Cyngor PwC
yn ymgynghorwyr oherwydd eu harbenigedd mewn treth dirlenwi a'u llwyddiant
yn y gorffennol wrth adennill treth dirlenwi yr oedd y Cyngor wedi’i
gordalu. Penodwyd cwnsler hefyd, a cheisiwyd ei farn ar wahanol adegau
drwy gydol y broses. Galluogodd hyn y Cyngor i sicrhau cynnig setliad a
bil sylweddol is na'r symiau a nodwyd yn wreiddiol.
- Cynnwys yr Uwch Dîm
Rheoli: Pan ddaeth y tîm corfforaethol yn ymwybodol o'r mater ym mis Ebrill
2018, gymeron nhw awenau’r ymchwiliad a neilltuo amser ac adnoddau
sylweddol i gasglu tystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys dod o hyd i dîm o bum
person yn Ffordd Lamby am wythnosau i gasglu gwybodaeth o filoedd o
ddogfennau papur.
- Ymchwiliad Archwilio: Cynhaliwyd ymchwiliad
helaeth mewn cysylltiad â derbyn deunyddiau. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n
agos gyda’r tîm archwilio mewnol i fynd i'r afael â'r diffygion yn
rheolaethau’r gwasanaeth rheoli gwastraff ac i wella rheolaethau pont
bwyso.
- Ymgyfreitha ac
Apeliadau: Ffeiliodd y Cyngor apêl i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf a gwnaeth gais
am Adolygiad Barnwrol i amddiffyn ei hawliau a chynnal prawf straen o’r
sefyllfa gerbron y Llysoedd. Gwnaeth gais caledi hefyd i osgoi benthyca
arian yn erbyn cyfalaf i dalu swm yr anghydfod cyn ffeilio'r apêl.
- Dull Amgen o Ddatrys
Anghydfod: Gwnaeth y Cyngor gais am ddull amgen o ddatrys anghydfod a
chynhaliodd gyfarfod cyfryngol gyda CThEF, pan gyflawnwyd gostyngiadau
sylweddol yn yr asesiad treth dirlenwi a'r cosbau.
- Gohirio Cosb: Cytunodd y Cyngor i
amodau gohirio cosb a chydymffurfiodd â'r amodau hynny, gan arwain at
ganslo neu dynnu pob cosb yn ôl.
- Cytundeb Setliad
Arfaethedig: Daeth y Cyngor i gytundeb setliad terfynol arfaethedig gyda CThEF. O
dan y cytundeb, byddai'r Cyngor yn ildio'i holl hawliau i'r mater gael ei
glywed yn y Llys.