20/9/24
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael gwybod bod ISG Construction Ltd, prif gontractwr prosiect Campws Cymunedol y Tyllgoed, wedi gwneud cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae'r cynllun yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar yr un safle yn y Tyllgoed.
Mae'r cyngor am sicrhau pawb ei fod yn gweithio'n ddiwyd i darfu cyn lleied â phosibl ar y prosiect. Mae hyn yn cynnwys gwaith uniongyrchol a pharhaus i ddatrys y sefyllfa gytundebol fel bod buddiannau’r Cyngor yn cael eu diogelu.
Ein blaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod y safle'r prosiect yn parhau i fod yn ddiogel, a byddwn yn gweithio i sicrhau bod isgontractwyr yn cael eu talu am y gwaith y maent wedi'i gwblhau hyd yn hyn.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni lywio'r sefyllfa hon. Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymroddedig i gwblhau Campws Cymunedol y Tyllgoed ac yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.
Byddwn yn
rhoi’r newyddion diweddaraf wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael.