The essential journalist news source
Back
19.
September
2024.
Yn fwy grymus, iach a hapus: Cynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024-2028
19/9/24

Mae ymrwymiad o'r newydd i wneud Caerdydd yn lle gwych i heneiddio wrth wraidd cynllun gweithredu drafft newydd.

Mae Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, rhwydwaith o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a'r trydydd sector yn ogystal â sefydliadau eraill gan gynnwys busnesau, siopau, lleoliadau adloniant, grwpiau cymunedol a phobl hŷn eu hunain, wedi datblygu'r cynllun pum mlynedd newydd fel map ffordd ar gyfer creu amgylchedd lle mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fod yn fwy egnïol, lle gallan nhw gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd y ddinas, a byw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain cyhyd ag y bo modd.

 

Mae datblygiad cynllun 2024 – 2028, a drafodwyd gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod heddiw (19 Medi), yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed gan Gaerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn ers dod yn aelod cyntaf Cymru o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn ym mis Mawrth 2022. Mae gwaith Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, sydd bellach yn cael ei ystyried yn "aelod rhagorol" o'r rhwydwaith gan Sefydliad Iechyd y Byd, wedi cael ei arddangos i aelodau eraill ledled y byd fel enghraifft o arfer da.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd â nifer o strategaethau a chynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2024-27 a Strategaeth Heneiddio'n Dda 2022 – 2027, Strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol 2023-2035 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyd-gynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro 2023-28 a 'Cymru sy'n Dda i Oedran: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio', ac mae’n tynnu sylw at gyflawniadau'r flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys:

·       36,318 awr o ofal wedi’u darparu gan Hybiau Gofal

·       344 o ymweliadau cartref wedi’u cynnal gan Sight Life, elusen ar gyfer pobl â nam ar eu golwg

·       2,055 o ddigwyddiadau pobl hŷn wedi eu darparu yn Hybiau Caerdydd

·       33,147 o gysylltiadau cwsmeriaid wedi’u rheoli gan dîm Pwynt Cyswllt Cyntaf y Cyngor

·       12,000 o Archwiliadau Diogelwch Cartref wedi’u cynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

·       290 o fusnesau sy'n deall dementia

·       17,144 o ymwelwyr â gwefan Caerdydd sy’n Deall Dementia

·       Dros 200 o ddigwyddiadau ymgysylltu gan Heddlu De Cymru

Mae'r cynllun newydd yn ymrwymo i sicrhau bod dinasyddion yn gallu byw'n annibynnol, ac wedi’u cysylltu â'u cymunedau, gan ystyried beth sy’n bwysig iddyn nhw; i greu cymunedau cydnerth a datblygu rhwydweithiau cymunedol cryf a all gefnogi pobl hŷn i fyw'n dda a darparu gwasanaethau mewn lleoliad lleol, yn agos i gartrefi dinasyddion.

 

Mae gwaith deall dementia y ddinas yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn ogystal â sicrhau bod pobl hŷn yn gallu manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau i wella lles a chyfoethogi eu bywydau. Mae trafnidiaeth agored a hygyrch, y canlyniadau tai gorau i bob person hŷn a chydweithio i wella arferion asesu, diagnosis a chynllunio gofal yn amcanion allweddol hefyd.

Mae'r cynllun wedi'i strwythuro o amgylch yr wyth parth a ddefnyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd i ddisgrifio dinasoedd oed-gyfeillgar, sef:

Mannau awyr agored ac adeiladau cyhoeddus •Tai • Trafnidiaeth • Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd • Cyfathrebu a Gwybodaeth • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth • Cyfranogiad Cymdeithasol • Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Leonora Thomson:  “Mae gan Gaerdydd boblogaeth sy'n heneiddio ac er bod y ffaith bod pobl yn byw'n hirach yn rhywbeth y dylem ei ddathlu, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i helpu pobl hŷn i fod yn egnïol, yn iach ac mor annibynnol â phosibl wrth iddynt heneiddio.

“Mae cynllun 2024-2028 yn ganlyniad cydweithio helaeth â phartneriaid ac ymgynghori â'n cymuned. Rydym i gyd yn rhannu'r weledigaeth ar y cyd bod ein dinas yn diwallu anghenion a dyheadau ein dinasyddion hŷn, gan barhau i symud ymlaen ar ein taith oed-gyfeillgar ac adeiladu ar y cynnydd rhagorol a gyflawnwyd hyd yn hyn.”
 
Darllenwch y cynllun yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s80675/CAB%2019%20September%202024%20-%20Age%20Friendly%20Cardiff.pdf?LLL=0&fbclid=IwY2xjawFfWslleHRuA2FlbQIxMAABHXWV-ZqvTXS9KAybGkENNqJQgssKtg4A6K-nXNA87YoqZF6NyW5zJoHxAA_aem_h2joMTD_O3UZ4CKuakgR2Q