The essential journalist news source
Back
17.
September
2024.
Seremoni Gosod y Garreg Gopa Campws Cymunedol y Tyllgoed

16/9/2024

 

Mae Campws Cymunedol newydd sbon y Tyllgoed wedi gosod y garreg gopa, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn ycampws addysg arloesol gwerth £110myn y Tyllgoed.

Wedi'i ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, y datblygiad newydd yw un mwyaf y ddinas o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau addysg Caerdydd sydd i'w cyflawni o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Mae'r cynllun yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar un safle yn y Tyllgoed.

I nodi'r garreg filltir hon, ymunwyd ag Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a'r Aelod Cabinet dros Addysg Caerdydd y Cynghorydd Sarah Merry ar safle'r campws newydd ganBennaeth Ysgol Uwchradd Cantonian, Diane Gill a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Barbara Connell, ynghyd â'rPennaeth Gweithredol, Wayne Murphy, a Chadeirydd y Llywodraethwyr Bianca Rees o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, y maeYsgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ill dwy'n rhan ohono.

Ymhlith y gwesteion eraill roedd swyddogion o Gyngor Caerdydd, Llywodraethwyr, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, cynghorwyr lleol, aelodau o dîm ISG -y contractwyr sydd wedi'u dewis i adeiladu a dylunio'r ysgol newydd, a phartneriaid gwerthfawr yn cynnwys MACE, HLM, ARUP, ASL, Churngold, Cardiff Demolition a Morgans of Usk.

Ymunodd plant o'r tair ysgol â'r dathliadau gyda disgyblion yn rhoi perfformiadau cerddorol a chanu.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: Bydd dod ag Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank ynghyd ar un safle o'r enw Campws Cymunedol y Tyllgoed, yn sicrhau cyfuniad gwahanol o ddysgu fel rhan o'r cynllun unigryw ac uchelgeisiol hwn.

"Bydd hwn y cyntaf o'i fath i Gaerdydd, a bydd y cyd-gampws addysg yn un o'r sefydliadau mwyaf datblygedig yn addysgol yn y DU. Bydd pob ysgol yn gallu cadw ei hunaniaeth ac yn elwa ar gyfleusterau a rennir, arbenigedd a chyfleoedd addysgu i ddarparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'u cymunedau.

"Wedi'i gyflwyno o dan ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, mae'r campws newydd yn fuddsoddiad sylweddol yn addysg Caerdydd.Mae'n ategu ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor ac yn bodloni'r dyheadau a nodir yng ngweledigaeth Caerdydd 2030, lle mae pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd yn cael addysg o ansawdd uchel ac yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r rhinweddau sy'n eu galluogi i ddod yn ddinasyddion sy'n llwyddiannus yn bersonol ac sy'n ymgysylltu â'r byd.

"Hon fydd ein hysgol Carbon Sero-net gyntaf, ac mae'r prosiect hwn yn ategu ein hymateb i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn cyd-fynd â gweledigaeth Un Blaned Caerdydd i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030."

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg Caerdydd,"Mae'r digwyddiad hwn yn garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol pob un o'r tair ysgol sy'n falch o fod yn rhan o Gampws Cymunedol newydd y Tyllgoed, ac sydd i gyd wedi bod yn rhan annatod o'r cynllunio a'r weledigaeth ar gyfer y campws newydd.

"Rydym bellach yn dechrau gweld dyluniadau'n cael eu gwireddu, ac mae'r cynlluniau ar gyfer y cynllun uchelgeisiol hwn wedi ystyried yr ystod amrywiol o anghenion dysgwyr fel eu bod yn teimlo'n ddiogel gydag ymdeimlad clir o unigolrwydd, a'u bod yn gallu cydnabod pwysigrwydd perthyn nid yn unig i'w hysgol unigol ond hefyd i'r campws ehangach. Yn bwysig, bydd y datblygiad yn gweld cynnydd mewn lleoedd addysg i ddisgyblion prif ffrwd yn ogystal â disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan helpu i ateb y galw ledled y ddinas.

"Yn ogystal â darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a'r amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf i ddisgyblion, mae'r cynllun hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Tyllgoed, gan sicrhau y bydd y gymuned leol hefyd yn elwa ar amwynderau modern rhagorol."

Dywedodd Richard Skone, Cyfarwyddwr Rhanbarthol busnes Adeiladu ISG yng Nghymru:  "Mae cyrraedd y pwynt hwn yng Nghampws Cymunedol y Tyllgoed yn gyflawniad sylweddol i'r holl bartneriaid sy'n rhan o'r prosiect trawsnewidiol hwn. Mae'r datblygiad hwn, a ariennir gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at ein hymrwymiad cyffredin i adeiladu amgylcheddau dysgu cynaliadwy o'r radd flaenaf fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

"Mae'r digwyddiad hwn yn nodi'r cynnydd sylweddol rydym wedi'i wneud i symud o weledigaeth gysyniad i realiti, gan greu campws sydd nid yn unig yn darparu cyfleusterau addysgol modern, o ansawdd uchel sy'n Sero Net, ond sydd hefyd yn hyrwyddo ymdeimlad cryf o gymuned i fyfyrwyr, staff a thrigolion lleol."

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2023 ac ar ôl ei gwblhau, bydd y campws newydd yn cynnwys:

  • Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion.
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol.
  • Adleoli Ysgol Arbennig Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

Bydd y campws hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau'r ysgol. 

Bydd y datblygiad yn un Carbon Sero-net yn unol â safonau Llywodraeth Cymru a bydd yn gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion Caerdydd yn y dyfodol. Bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd iweithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas iliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r gwaith adeiladu wedi'i wneud gydag ystyriaeth fanwl i'r ardal leol a'r ardal gyfagos gydag ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn cynnwys:

  • Adeilad cwbl drydan, wedi'i bweru gan ynni adnewyddadwy (pwmp gwres ffynhonnell aer a ffotofoltäig ar y to, yn cynhyrchu drosodd900,000kWh o ynni y flwyddyn)
  • Mae 100% o'r gwastraff 100% wedi ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi
  • Mae dros 6 tunnell o bren wedi'u rhoi i elusen leol (Community Wood)
  • Mae'r defnydd o goncrit carbon isel (70% GGBS) a rebar arc trydan (99% wedi'i ailgylchu) wedi'i ddefnyddio trwy'r strwythur cyfan gan arwain at ostyngiad o 15% mewn carbon ymgorfforedig yn erbyn llinell sylfaen Llywodraeth Cymru
  • Mae 86% o'r gweithlu o fewn radiws o 30 milltir 
  • Mae 9 o bobl wedi cael gwaith hirdymor
  • Mae 12 prentis wedi bod yn rhan o'r prosiect, ac mae mwy yn yr arfaeth
  • Bu dros 800 awr o ymgysylltu â'r prosiect gan ysgolion  hyd yn hyn.

Rhagwelir y bydd gwaith ar y campws yn cael ei gwblhau erbyn hydref 2026 gyda gwaith ar Ysgol Uwchradd Cantonian yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025.

I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch iDdogfenweledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)