The essential journalist news source
Back
12.
September
2024.
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd; ysgol gynradd fywiog a chynhwysol meddai Estyn

12/9/2024


Mae Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, wedi rhyddhau ei adroddiad arolygu diweddaraf ar Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi'i lleoli yn yr Eglwys Newydd.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y balchder sydd gan ddisgyblion, staff a rhieni yn awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol yr ysgol ac yn nodi'r amgylchedd dysgu parchus a threfnus llwyddiannus sy'n cael ei greu, lle mae agwedd disgyblion tuag at ddysgu a'u hymddygiad yn rhagorol.

Mae'r cryfderau allweddol yn cynnwys natur hapus a chyfeillgar y disgyblion, eu rhyngweithio meddylgar, a'u defnydd naturiol o'r Gymraeg. Mae disgyblion yn dangos diddordeb brwd yn eu treftadaeth leol ac yn ymfalchïo yng nghyflawniadau'r ysgol, yn enwedig mewn cystadlaethau cerddoriaeth ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Mae'r adroddiad yn canmol cwricwlwm creadigol, eang a chytbwys yr ysgol, sy'n cynnig profiadau dysgu ysgogol wedi'u teilwra i'r cyd-destun lleol ac mae Estyn yn canmol arweinyddiaeth y pennaeth, a benodwyd ym mis Ionawr 2023, am feithrin amgylchedd gofalgar a chefnogol sy'n hyrwyddo ymdeimlad cryf o waith tîm.

Mae gweledigaeth glir yr ysgol o ddarparu addysg gyflawn sy'n canolbwyntio ar les disgyblion yn amlwg.

Dywedodd y Pennaeth Gwyndaf Jones: "Mae adroddiad ESTYN yn dyst i ymrwymiad parhaus a gwaith caled cymuned gyfan ein hysgol. Rydym yn hynod falch o ymddygiad rhagorol, natur gynhwysol ac ethos Cymreig cryf ein disgyblion. Rydym wrth ein bodd gyda'r gydnabyddiaeth o'n cyflawniadau ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r profiad addysgol i'n holl ddisgyblion.

 

Adroddiad cadarnhaol, ac mae Estyn wedi gwneud dau argymhelliad allweddol y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yng nghynllun gweithredu'r ysgol.

  • Rhannu arferion addysgu effeithiol ar draws yr ysgol i gefnogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau dysgu annibynnol.
  • Sicrhau bod prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio'n bwrpasol ar effaith y ddarpariaeth ar gynnydd disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod balchder ac ymroddiad cyfunol disgyblion, staff a rhieni Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac mae'n amlwg bod amgylchedd dysgu rhagorol ac awyrgylch meithringar wedi'i sefydlu.

"Roedd yn gadarnhaol darllen bod yr ysgol, o dan arweiniad gweledigaethol y pennaeth brwdfrydig, yn parhau i ddarparu addysg gyflawn sy'n hyrwyddo lles a chyflawniadau disgyblion, yn enwedig yn y celfyddydau. Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am yr adroddiad cadarnhaol hwn."

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd 469 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 52.9% o'r disgyblion oedran ysgol statudol yn siarad Cymraeg gartref ac mae canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn 5.3%. Mae 2.0% o'r disgyblion wedi cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.