The essential journalist news source
Back
10.
September
2024.
Adroddiad Estyn yn amlygu llwyddiant Ysgol Arbennig y Court

10/9/2024

Mae Ysgol Arbennig y Court yn Llanisien wedi cael ei chanmol gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, am ei hamgylchedd dysgu meithringar a chynhwysol, gan ganmol staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i les myfyrwyr.

Barn yr arolygwyr oedd bod yr ysgol, sydd wedi'i lleoli yn Llanisien, yn meithrin awyrgylch diogel a chroesawgar lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae bron pob disgybl yn dod o ardal Caerdydd ac mae llawer o'r disgyblion wedi wynebu heriau gyda lleoliadau blaenorol a effeithiodd ar eu hyder a'u hunan-barch. Mae staff yr ysgol yn gweithio'n galed i ailfagu'r ymddiriedaeth a'r hyder hynny ac mae hyn yn cael ei ystyried yn un o brif gryfderau'r ysgol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod yr ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar les emosiynol a thwf personol, gan greu rhaglenni addysg unigol sy'n bodloni anghenion a diddordebau penodol pob disgybl. O ganlyniad, mae bron pob myfyriwr wedi dangos gwelliant rhyfeddol yn ei agweddau tuag at ddysgu ac wedi datblygu cariad at fynychu'r ysgol.

Mae'r ysgol yn rhagori mewn hyrwyddo iechyd a lles, gyda'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn dangos dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd iach o fyw ac yn dod yn fwy hyderus yn eu galluoedd eu hunain. Canmolodd arolygwyr Estyn gwricwlwm yr ysgol, sydd wedi'i ddiwygio'n ddiweddar i adlewyrchu anghenion a diddordebau'r disgyblion, gan gwmpasu pynciau amrywiol fel seryddiaeth ac arwyr chwaraeon.

Yn ogystal â'r cwricwlwm craidd, mae'r ysgol yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion ddysgu am amrywiaeth a gwahanol ddiwylliannau, gan gefnogi eu datblygiad moesol a diwylliannol. Nododd yr adroddiad fod llawer o'r disgyblion, yn unol â'u galluoedd, wedi datblygu dealltwriaeth gref o ddiwylliannau a chrefyddau eraill yn ogystal â'u lle yng nghymdeithas Cymru.

Amlygwyd datblygiad corfforol fel cryfder penodol yn yr ysgol ac er bod llawer o'r myfyrwyr yn dangos cynnydd nodedig mewn darllen a rhifedd, nododd yr adroddiad sgiliau ysgrifennu fel maes sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Mae Estyn wedi gwneud yr argymhellion canlynol y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu:

  • Mireinio prosesau hunanwerthuso: Mae arweinwyr ar bob lefel yn cael eu hannog i gasglu a dadansoddi data yn systematig i nodi blaenoriaethau strategol yn well.
  • Cryfhau prosesau asesu: Mae angen gwella systemau asesu i sicrhau eu bod yn ystyried yn effeithiol gynnydd disgyblion ar draws pob maes dysgu.

Wrth feddwl am yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Jamyn Beesley: "Rwyf wrth fy modd â chanlyniad arolwg Estyn a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n staff ymroddedig iawn am eu gwaith caled bob dydd. Mae Ysgol y Court yn lle heriol ond gwych i weithio ac rwyf mor falch o gymuned gyfan yr ysgol am ei hymroddiad a'i chefnogaeth barhaus.

"Mae ein dulliau sy'n seiliedig ar drawma, sydd wedi'u hymwreiddio'n llwyr, yn trawsnewid bywydau'r disgyblion y mae gennym y pleser o weithio gyda nhw ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud cynnydd enfawr yn ystod eu hamser gyda ni. Rwyf mor falch bod hyn wedi cael ei gydnabod gan arolygwyr ac yn teimlo'n dawel fy meddwl eu bod wedi cydnabod ein bod yn 'rhoi'r disgyblion wrth wraidd popeth'. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ein maes i ddarllen ein hadroddiad a dod i edrych o gwmpas yr ysgol os hoffen nhw gael gwybod mwy."  

Ychwanegodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Garry Hunt: "Mae adroddiad Estyn yn cydnabod y cydbwysedd llwyddiannus rhwng creu amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc sydd â heriau a chynnydd unigol academaidd cadarn da yn Ysgol y Court.

 

"Mae hyn yn cael ei gyflawni gyda staff addysgu empathig a gweithgar a Thîm Arweinyddiaeth ardderchog a brwdfrydig. Da iawn bawb.  Mae hon yn sylfaen dda ar gyfer twf yr ysgol yn y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae adroddiad Estyn yn cydnabod sut mae Ysgol Arbennig y Court wedi meithrin ethos hynod gynhwysol sydd wedi helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned. Dan arweinyddiaeth y pennaeth, mae uwch arweinwyr wedi cydweithio i sefydlu amgylchedd cefnogol sy'n ymgorffori gweledigaeth yr ysgol sef: "Keep Calm - Keep Learning." Mae'r dull hwn wedi bod yn allweddol wrth greu gofod lle mae'r disgyblion yn ffynnu ac yn magu hyder yn eu galluoedd.

Mae disgwyl i Ysgol y Court gael ei thrawsnewid yn sylweddol gyda buddsoddiad o £23m a fydd yn gweld yr ysgol yn cynyddu capasiti drwy ei hailadeiladu a'i hadleoli dros ddau safle.

Bydd un wedi'i leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a bydd y llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni.

Gan gael ei darparu dan Fand B Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, bydd yr ysgol newydd yn tyfu o 42 i 72 lle, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o flwyddyn academaidd 2025-26, gan helpu i ateb galw'r ddinas am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd. Bydd gan y ddau safle amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr gan gynnwys ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, ardaloedd chwaraeon a chwarae meddal, caeau chwaraeon ac ardaloedd garddwriaethol.

Wedi cwblhau'r gwaith, enw'r ysgol newydd fydd ‘Ysgol Cynefin'a ddewiswyd gan yr ysgol a rhanddeiliaid allweddol i gyfleu'r berthynas rhwng pobl a'r byd naturiol, a sut y gall cysylltu pobl â'r amgylchedd ffurfio ymdeimlad o hunaniaeth a lles.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol y Court am yr adroddiad rhagorol hwn sy'n nodi dechrau pennod newydd gyffrous. Mae'r ysgol yn rhan o gynlluniau sylweddol Caerdydd i drawsnewid darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ar draws y ddinas a mynd i'r afael â'r diffyg mewn lleoedd sydd eu hangen.

"Wedi cwblhau'r gwaith, bydd yr ysgol yn elwa ar gyfoeth o welliannau yn safon y cyfleusterau gan sicrhau y gall y disgyblion a'r staff gael mynediad at ddarpariaeth ddysgu o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer eu hanghenion."

Mae Ysgol Arbennig y Court yn gwasanaethu plant oedran cynradd sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Adeg yr adroddiad roedd 41 o ddisgyblion oedran cynradd (7 i 11 oed) ar y gofrestr gydag 82.4% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.