The essential journalist news source
Back
6.
September
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 06 Medi 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Caerdydd yn cyhoeddi strategaeth newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar draws y ddinas
  • Lansio 'Academi' Newydd i Gerddorion Ifanc
  • Dysgu Oedolion Caerdydd - ffordd wych o roi hwb i'ch rhagolygon gwaith!
  • Gwobrau Aur yr RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd

 

Caerdydd yn cyhoeddi strategaeth newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar draws y ddinas

Mewn ymgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ledled Caerdydd, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dogfen newydd yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cydraddoldeb am y pedair blynedd nesaf.

Bydd y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cynhwysiant ar gyfer 2024-2028 yn ymdrechu i sicrhau bod y ddinas yn darparu cyfleoedd gwych i bawb waeth beth fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef anfantais yn cael eu cefnogi, a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Mae'n nodi'r mesurau y bydd yr awdurdod yn eu datblygu i sicrhau bod ei nod o Gaerdydd 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yn cael ei gyflawni ac mae'n cynnwys pum amcan allweddol:

Caerdydd Decach - Byddwn yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cefnogi pawb yng Nghaerdydd i gyflawni eu potensial.

Caerdydd Hygyrch - Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall pawb gymryd rhan ym mhopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Caerdydd Gynhwysol - Byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas lle mae gwahaniaethau'n cael eu deall a'u dathlu, a lle mae pob cymuned yn teimlo ei bod yn perthyn.

Cyngor sydd yn adlewyrchu ei gymunedau - Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a lle mae'r gweithwyr yn hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i wneud cynnydd, a

Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn greiddiol i'r sefydliad - Byddwn yn sicrhau bod prosesau craidd Cyngor Caerdydd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Ym mis Mehefin 2024, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr i geisio barn preswylwyr Caerdydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28, gan helpu i sicrhau dinas decach i bawb. Bydd Cabinet y Cyngor nawr yn cael ei argymell i nodi canlyniad yr ymgynghoriad a chytuno ar gynnwys nifer o ddiwygiadau i'r strategaeth sydd wedi'u hawgrymu gan ddinasyddion Caerdydd.

Bydd adborth ar amrywiaeth o bynciau yn cael sylw yn y strategaeth yn awr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; Fynediad at wasanaethau, Cefnogi Gofalwyr, pwysigrwydd gwaith parhaus i gefnogi Cydlyniant Cymunedol, Diogelwch Cymunedol, Gwerth Cymdeithasol a Lles Cymunedol, Addysg, Cyflogaeth a Chynnydd

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: "Mae gan Gaerdydd eisoes hanes balch o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ni yw'r awdurdod lleol mwyaf ethnig amrywiol yng Nghymru ac un o'r cymunedau ethnig amrywiol hynaf ym Mhrydain, gyda dros 80 o ieithoedd yn cael eu defnyddio.

"Rydym hefyd yn cael ein hystyried fel y ddinas orau yn Ewrop ar gyfer mewnfudwyr a theuluoedd â phlant ifanc ac rydym ymysg y 10 dinas orau i aelodau o'r gymuned LHDTC+ fyw.

"Fel pob dinas yn y DU, rydym yn wynebu anghydraddoldeb hirsefydlog a dwfn. Mae rhai preswylwyr yn wynebu rhwystrau rhag byw bywydau llawn a gweithgar ac mae angen gwneud mwy i sicrhau nad oes neb yn profi gwahaniaethu o unrhyw fath oherwydd pwy ydyn nhw.

Darllenwch fwy yma

 

Lansio 'Academi' Newydd i Gerddorion Ifanc

Mae penwythnos 'Academi' newydd i Gerddorion Ifanc wedi ei lansio gan y gwasanaeth cerdd ar gyfer Caerdydd a'r Fro,  Addysg Gerdd CF.

Bydd y sesiynau wythnosol newydd, sydd wedi'u datblygu gan, ac yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â, thiwtoriaid sydd â phrofiad o gyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth ieuenctid yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn rhan o Strategaeth Gerdd Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio rhoi cerddoriaeth wrth wraidd datblygiad y ddinas a darparu llif o dalent newydd i'r sector.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Gall mynediad at addysg gerddoriaeth o safon uchel o oedran cynnar ddarparu cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc Caerdydd, gan feithrin cariad gydol oes at gerddoriaeth a'u helpu i dyfu a datblygu. Y tu hwnt i hynny, mae hefyd yn hanfodol os ydym am barhau i gynhyrchu'r cerddorion talentog sy'n sail i economi gerddorol ddeinamig Caerdydd, sy'n werth tua £100 miliwn bob blwyddyn i'r ddinas."

Mae'r Gwasanaeth Cerdd, a fydd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant y flwyddyn nesaf, eisoes yn ymgysylltu ag oddeutu 12,000 o blant lleol yn flynyddol, a dyma'r prif sefydliad yn y rhanbarth ar gyfer cyflwyno'r  Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. Mae'n cynnal 20 ensemble o ansawdd uchel - y cyfan yn cael ei gynnig am ddim i blant o deuluoedd incwm isel - gan gynnwys bandiau, cerddorfeydd, corau, grwpiau offerynnau taro a gitâr sy'n cynnwys 600 o ddisgyblion rhwng 4 a 22 oed, ac mae'n cynnig hyfforddiant mewn ysgolion, yn ogystal â phrofiadau cerddoriaeth ar raddfa fawr a gweithdai. 

Bydd y sesiynau 'academi' newydd, a ychwanegir at y rhaglen hon, yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn, yn Ysgol Stanwell ym Mhenarth ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, ond gyda lle i ehangu i leoliadau eraill ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Darllenwch fwy yma

 

Dysgu Oedolion Caerdydd - ffordd wych o roi hwb i'ch rhagolygon gwaith!

Mae'r cyfnod cofrestru ar agor nawr ar gyfer cyrsiau Dysgu Oedolion Caerdydd y tymor newydd sy'n dechrau ym mis Medi.

Gall preswylwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sgil newydd neu roi hwb i'w rhagolygon am swyddi edrych ar y cyfleoedd diweddaraf ymawww.dysguioedolioncaerdydd.co.uk/cy

Yn rhan o Wasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor, mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cymorth a hyfforddiant pwrpasol i helpu trigolion lleol i uwchsgilio a mynd i mewn i waith.   Yn cynnig ystod o gyrsiau mewn hybiau ac adeiladau'r cyngor ledled y ddinas, mae'r tîm yn cefnogi pobl o bob oed i ennill sgiliau go iawn y mae busnesau wedi nodi eu bod yn hanfodol mewn darpar weithwyr.

Mae'r gwasanaeth wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i waith drwy eu harwain i yrfaoedd boddhaus fel cynorthwywyr addysgu yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyrsiau galwedigaethol eraill â'r nod o wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol.

Mae'r cyrsiau, sydd am ddim i ddysgwyr cymwys, gan gynnwys pobl ddi-waith a'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol, yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn gyda'r rhaglen ddiweddaraf yn dechrau ar 16 Medi.

Yn ogystal â chyrsiau sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer rolau glanhau, gwaith gofal, lletygarwch, manwerthu ac addysg, mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu ystod eang o gyrsiau Dysgu am Oes i'r rhai sy'n dymuno ymgymryd â hobi newydd neu wella sgil y maent yn ei defnyddio at ddibenion hamdden.

Gallwch gadw lle ar-lein ymawww.dysguioedolioncaerdydd.co.uk

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg a all arfogi dysgwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar eu ffordd tuag at gyflogaeth mewn rôl y maent ei heisiau.

"Mae'n adeg wych i fynd yn ôl i ddysgu felly rwy'n annog unrhyw un sydd wedi bod yn meddwl amdano i roi'r gorau i feddwl a dechrau gwneud - mae'r tîm yn barod ac yn aros i gynnig cyngor ac anogaeth ar gyfer eich taith ddysgu."

Darllenwch fwy yma

 

Gwobrau Aur yr RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill dwy o wobrau PawPrints yr RSPCA.

Mae'r gwobrau, gan elusen lles anifeiliaid fwyaf y DU, wedi'u dyfarnu i gydnabod safon "rhagorol" llety cŵn a gwasanaethau cŵn strae a ddarperir yng Nghartref Cŵn Caerdydd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd bellach wedi derbyn o leiaf un Wobr PawPrints yr RSPCA bob blwyddyn ers 2008 ac mae derbyn dwy wobr Aur mewn blwyddyn yn deyrnged wych i'w gwaith.

"Mae'r cŵn sydd yng Nghartref Cŵn Caerdydd i gyd yn haeddu'r gofal gorau posibl ac mae'r gwobrau hyn yn dangos, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwych a chefnogaeth gan yr elusen bartner, The Rescue Hotel, mai dyna'n union y maen nhw'n ei gael."

Darllenwch fwy yma