6/9/2024
Mewn ymgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ledled Caerdydd, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dogfen newydd yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cydraddoldeb am y pedair blynedd nesaf.
Bydd y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cynhwysiant ar gyfer 2024-2028 yn ymdrechu i sicrhau bod y ddinas yn darparu cyfleoedd gwych i bawb waeth beth fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef anfantais yn cael eu cefnogi, a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae'n nodi'r mesurau y bydd yr awdurdod yn eu datblygu i sicrhau bod ei nod o Gaerdydd 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yn cael ei gyflawni ac mae'n cynnwys pum amcan allweddol:
- Caerdydd Decach - Byddwn yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cefnogi pawb yng Nghaerdydd i gyflawni eu potensial.
- Caerdydd Hygyrch - Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall pawb gymryd rhan ym mhopeth sydd gan Gaerdydd
i'w gynnig, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. - Caerdydd Gynhwysol - Byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas lle mae gwahaniaethau'n cael eu deall a'u dathlu, a lle mae pob cymuned yn teimlo ei bod yn perthyn.
- Cyngor sydd yn adlewyrchu ei gymunedau - Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a lle mae'r gweithwyr yn hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i wneud cynnydd, a
- Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn greiddiol i'r sefydliad - Byddwn yn sicrhau bod prosesau craidd Cyngor Caerdydd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Ym mis Mehefin 2024, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr i geisio barn preswylwyr Caerdydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28, gan helpu i sicrhau dinas decach i bawb. Bydd Cabinet y Cyngor nawr yn cael ei argymell i nodi canlyniad yr ymgynghoriad a chytuno ar gynnwys nifer o ddiwygiadau i'r strategaeth sydd wedi'u hawgrymu gan ddinasyddion Caerdydd.
Bydd adborth ar amrywiaeth o bynciau yn cael sylw yn y strategaeth yn awr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; Fynediad at wasanaethau, Cefnogi Gofalwyr, pwysigrwydd gwaith parhaus i gefnogi Cydlyniant Cymunedol, Diogelwch Cymunedol, Gwerth Cymdeithasol a Lles Cymunedol, Addysg, Cyflogaeth a Chynnydd
Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: "Mae gan Gaerdydd eisoes hanes balch o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ni yw'r awdurdod lleol mwyaf ethnig amrywiol yng Nghymru ac un o'r cymunedau ethnig amrywiol hynaf ym Mhrydain, gyda dros 80 o ieithoedd yn cael eu defnyddio.
"Rydym hefyd yn cael ein hystyried fel y ddinas orau yn Ewrop ar gyfer mewnfudwyr a theuluoedd â phlant ifanc ac rydym ymysg y 10 dinas orau i aelodau o'r gymuned LHDTC+ fyw.
"Fel pob dinas yn y DU, rydym yn wynebu anghydraddoldeb hirsefydlog a dwfn. Mae rhai preswylwyr yn wynebu rhwystrau rhag byw bywydau llawn a gweithgar ac mae angen gwneud mwy i sicrhau nad oes neb yn profi gwahaniaethu o unrhyw fath oherwydd pwy ydyn nhw.
Ychwanegodd y Cynghorydd Sangani: "Rydym wedi gwneud gwaith sylweddol i ddatblygu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-28 gan gynnwys cynnal Asesiad o Anghenion Cydraddoldeb drwy asesu setiau data sydd ar gael, adolygu cynlluniau gweithredu lleol a chenedlaethol, ac ymgysylltu â phrif randdeiliaid yn y ddinas. Mae'r canlyniad yn golygu y bydd barn preswylwyr Caerdydd yn helpu i lunio'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan ystyried y pethau sy'n bwysig i bobl Caerdydd.
Bydd cau'r bwlch anghydraddoldeb yn gofyn am barhau i ddarparu addysg ragorol, creu swyddi sy'n rhoi cyfleoedd ar gyfer cynnydd, a chyflawni datrysiadau tai cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pawb, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd."
Mae'r Cyngor eisoes wedi sefydlu arferion da tuag at wella cydraddoldeb, gan gynnwys:
- Sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol
- Dod yn awdurdod sydd ar frig mynegai Stonewall yng Nghymru a'r DU, gan dynnu sylw at ei ymrwymiad i gefnogi staff a chwsmeriaid LHDTC+
- Cyflawni statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, ac
- Arwain ymateb ledled y ddinas i groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Mae'r strategaeth hefyd yn amlinellu bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a ddaeth i rym yn 2011, yn sicrhau bod y nodweddion canlynol yn cael eu diogelu:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil - gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Crefydd neu gred, gan gynnwys diffyg crefydd neu gred
- Rhyw, a
- Chyfeiriadedd rhywiol
Mae'r DCSC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi amcanion bob pedair blynedd o leiaf a chyhoeddi datganiad yn rhoi manylion y camau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd i'w bodloni, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw fwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Bydd y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad Polisi yn craffu ar yr adroddiad i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mercher 11 Medi. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: CARDIFF COUNCIL (moderngov.co.uk)