The essential journalist news source
Back
6.
September
2024.
Lansio 'Academi’ Newydd i Gerddorion Ifanc

6.9.24

Mae penwythnos 'Academi’ newydd i Gerddorion Ifanc wedi ei lansio gan y gwasanaeth cerdd ar gyfer Caerdydd a’r Fro, Addysg Gerdd CF.

Bydd y sesiynau wythnosol newydd, sydd wedi'u datblygu gan, ac yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â, thiwtoriaid sydd â phrofiad o gyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth ieuenctid yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn rhan o Strategaeth Gerdd Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio rhoi cerddoriaeth wrth wraidd datblygiad y ddinas a darparu llif o dalent newydd i'r sector.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Gall mynediad at addysg gerddoriaeth o safon uchel o oedran cynnar ddarparu cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc Caerdydd, gan feithrin cariad gydol oes at gerddoriaeth a'u helpu i dyfu a datblygu. Y tu hwnt i hynny, mae hefyd yn hanfodol os ydym am barhau i gynhyrchu'r cerddorion talentog sy'n sail i economi gerddorol ddeinamig Caerdydd, sy'n werth tua £100 miliwn bob blwyddyn i'r ddinas."

A child playing a violinDescription automatically generated

Plentyn yn canu'r ffidil gyda thiwtor Addysg Gerdd CF yn cyfeilio ar y piano.

Mae'r Gwasanaeth Cerdd, a fydd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant y flwyddyn nesaf, eisoes yn ymgysylltu ag oddeutu 12,000 o blant lleol yn flynyddol, a dyma'r prif sefydliad yn y rhanbarth ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. Mae'n cynnal 20 ensemble o ansawdd uchel - y cyfan yn cael ei gynnig am ddim i blant o deuluoedd incwm isel - gan gynnwys bandiau, cerddorfeydd, corau, grwpiau offerynnau taro a gitâr sy'n cynnwys 600 o ddisgyblion rhwng 4 a 22 oed, ac mae'n cynnig hyfforddiant mewn ysgolion, yn ogystal â phrofiadau cerddoriaeth ar raddfa fawr a gweithdai. 

Bydd y sesiynau 'academi' newydd, a ychwanegir at y rhaglen hon, yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn, yn Ysgol Stanwell ym Mhenarth ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, ond gyda lle i ehangu i leoliadau eraill ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae'r sesiynau yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth i Blant Bach - ar gyfer y rheini sy'n 4 oed ac yn hŷn;
  • Sesiynau dawn gerddorol / gweithdy (theori, llafar, cyfansoddi ac ysgrifennu caneuon);
  • Tuition Extra, rhaglen o wersi cerddoriaeth unigol ychwanegol;
  • Hyfforddiant cerddoriaeth siambr; a
  • Rhaglen datblygu byrfyfyr/jazz.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas hefyd: "Ar draws y DU, mae'r sector cerddoriaeth yn parhau i wynebu heriau, ond mae'n amlwg bod ein Strategaeth Gerddoriaeth yma yng Nghaerdydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, mae cerddorion ifanc wedi cael y cyfle i berfformio yng Nghlwb Ifor Bach drwy ein rhaglen Gigs Bach gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, llu o artistiaid arloesol, newydd a chyffrous y cyhoeddwyd eu bod yn perfformio yng Ngŵyl Dinas Gerdd newydd Caerdydd ymhen ychydig wythnosau, a nawr y sesiynau 'academi' penwythnos newydd ychwanegol hyn sy'n cael eu cyflwyno, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gynhyrchu cenhedlaeth nesaf o gerddorion y ddinas." 

Ochr yn ochr â'r sesiynau newydd, bydd dosbarthiadau dawn gerddorol a sgiliau clywedol, sy'n darparu ar gyfer y rheini sy'n gweithio rhwng Graddau 1 ac 8, yn sicrhau datblygiad cerddorol cyflawn. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu archwilio repertoire cyffrous ac amrywiol fel rhan o'r ensembles a gynigir drwy Addysg Gerdd CF. Bydd rhaglen leisiol, a fydd yn cynnwys hyfforddiant lleisiol, hyfforddiant iaith, a dosbarthiadau perfformio yn rhedeg ochr yn ochr â'r cynnig cerddorfaol. 

Gellir gwella'r gweithgareddau i gyd trwy gofrestru ar gyfer hyfforddiant, wedi'i gyflwyno ochr yn ochr â gweithgareddau'r bore gan dîm profiadol sy'n darparu ar gyfer pob lefel. 

Bydd mentrau newydd eraill ar gyfer 2024-25 yn cynnwys sefydlu canolfannau cerddoriaeth 'lloeren' yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn a Chanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri. Bydd y canolfannau hyn yn cynnig gwersi rhagflas, am ddim, i blant o deuluoedd incwm isel. Gan ychwanegu at yr ystod eang hon o brofiadau cerddoriaeth hygyrch, bydd cyfres newydd o sesiynau lles cerddoriaeth Indiaidd yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd.

Am ragor o wybodaeth am y sesiynau newydd, a'r rhaglen addysg gerddoriaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i: https://www.cfmusiceducation.co.uk/cy/