The essential journalist news source
Back
4.
September
2024.
Gwobrau Aur yr RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd

4.9.24

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill dwy o wobrau PawPrints yr RSPCA.

Mae'r gwobrau, gan elusen lles anifeiliaid fwyaf y DU, wedi'u dyfarnu i gydnabod safon "rhagorol" llety cŵn a gwasanaethau cŵn strae a ddarperir yng Nghartref Cŵn Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd bellach wedi derbyn o leiaf un Wobr PawPrints yr RSPCA bob blwyddyn ers 2008 ac mae derbyn dwy wobr Aur mewn blwyddyn yn deyrnged wych i'w gwaith.

"Mae'r cŵn sydd yng Nghartref Cŵn Caerdydd i gyd yn haeddu'r gofal gorau posibl ac mae'r gwobrau hyn yn dangos, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwych a chefnogaeth gan yr elusen bartner, The Rescue Hotel, mai dyna'n union y maen nhw'n ei gael."

A person holding a dogDescription automatically generated

Gwirfoddolwr Cartref Cŵn Caerdydd gydag un o'r cŵn yn eu gofal.

Mae Gwobrau PawPrints yr RSPCA yn dathlu awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus am eu gwaith arloesol ym maes lles anifeiliaid ledled Cymru a Lloegr.

Dywedodd Lee Gingell, rheolwr materion cyhoeddus yn yr RSPCA: "Rydym wrth ein bodd yn cydnabod Cartref Cŵn Caerdydd gyda gwobrau Aur am Wasanaethau Cŵn Strae a Llety Cŵn yng ngwobrau PawPrints yr RSPCA eleni.

"Mae eu hymrwymiad i les anifeiliaid yn wirioneddol ganmoladwy ac mae'n adlewyrchu'r safonau uchel y mae gwobrau PawPrints yn eu dathlu. Drwy ennill y wobr hon, mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi dangos ymroddiad rhagorol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella lles anifeiliaid, a gobeithio bydd eu cyflawniadau'n ysbrydoli eraill i ymdrechu am ragoriaeth yn y maes hanfodol hwn."

I gael gwybod mwy am Gartref Cŵn Caerdydd, ewch i: https://www.cartrefcwncaerdydd.co.uk/