The essential journalist news source
Back
3.
September
2024.
Dysgu Oedolion Caerdydd – ffordd wych o roi hwb i'ch rhagolygon gwaith!

3/9/24            

Mae’r cyfnod cofrestru ar agor nawr ar gyfer cyrsiau Dysgu Oedolion Caerdydd y tymor newydd sy'n dechrau ym mis Medi.

Gall preswylwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sgil newydd neu roi hwb i'w rhagolygon am swyddi edrych ar y cyfleoedd diweddaraf yma www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk/cy

Yn rhan o Wasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor, mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cymorth a hyfforddiant pwrpasol i helpu trigolion lleol i uwchsgilio a mynd i mewn i waith.   Yn cynnig ystod o gyrsiau mewn hybiau ac adeiladau'r cyngor ledled y ddinas, mae'r tîm yn cefnogi pobl o bob oed i ennill sgiliau go iawn y mae busnesau wedi nodi eu bod yn hanfodol mewn darpar weithwyr.

Mae'r gwasanaeth wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i waith drwy eu harwain i yrfaoedd boddhaus fel cynorthwywyr addysgu yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyrsiau galwedigaethol eraill â’r nod o wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol.

Mae’r cyrsiau, sydd am ddim i ddysgwyr cymwys, gan gynnwys pobl ddi-waith a'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol, yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn gyda'r rhaglen ddiweddaraf yn dechrau ar 16 Medi.

 

Yn ogystal â chyrsiau sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer rolau glanhau, gwaith gofal, lletygarwch, manwerthu ac addysg, mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu ystod eang o gyrsiau Dysgu am Oes i'r rhai sy'n dymuno ymgymryd â hobi newydd neu wella sgil y maent yn ei defnyddio at ddibenion hamdden.

Gallwch gadw lle ar-lein yma www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg a all arfogi dysgwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar eu ffordd tuag at gyflogaeth mewn rôl y maent ei heisiau.

 

"Mae'n adeg wych i fynd yn ôl i ddysgu felly rwy'n annog unrhyw un sydd wedi bod yn meddwl amdano i roi'r gorau i feddwl a dechrau gwneud - mae'r tîm yn barod ac yn aros i gynnig cyngor ac anogaeth ar gyfer eich taith ddysgu."

Mae Addysg Oedolion Caerdydd wedi cefnogi nifer o ddysgwyr i sicrhau swyddi fel cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion yn ddiweddar.

Dilynodd Lizzie Davies gwrs Addysgu a Dysgu â Chymorth mewn Ysgolion (STLS) a chwblhaodd hefyd hyfforddiant sgiliau rhifedd a diogelu, cyn gwirfoddoli yn Ysgol Gynradd Sant Cadog yn Llanrhymni. Gyda chymorth y Gwasanaeth i Mewn i Waith, diweddarodd ei CV a gweithio ar ei sgiliau cyfweld. Erbyn hyn mae hi'n gweithio yn ysgol Sant Cadog. 

Dywedodd:  "Roeddwn i eisiau bod yn athro pan adewais i'r brifysgol ond fe wnes i weithio ym maes manwerthu yn y pen draw. Pan ddechreuais wirfoddoli yn Sant Cadog, lle'r oedd fy mhlant yn ddisgyblion, cafodd dy uchelgeisiau eu hail-gynnau ac roedd y tîm Addysg Oedolion yn gymwynasgar iawn. "Unrhyw bryd mae angen eu cyngor arnyn nhw maen nhw yno i fi ac rydw i wedi eu hargymell i lawer o fy ffrindiau."

Cwblhaodd Poonam Tiwari gwrs STLS, Lefel II Diogelwch Bwyd a Rheoli Ymddygiad Plant Lefel I trwy Ddysgu Oedolion Caerdydd a gwirfoddolodd yn Ysgol Gynradd Springwood yn Llanedern, gan dderbyn adroddiadau clodwiw ar ei pherfformiad yno.  Talodd ei gwaith caled ar ei ganfed pan gafodd gynnig swydd gyflogedig yn Ysgol The Hollies ym Mhentwyn fis Medi diwethaf lle mae hi o hyd, ac mae’n fwy hyderus nag erioed o’r blaen.  Dywedodd:  "Roeddwn i wedi gweithio yn y diwydiant ffasiwn fel dylunydd, ond pan ges i fy mab, roeddwn i eisiau newid fy nghydbwysedd bywyd a gwaith, felly gofynnais a allwn i wirfoddoli yn yr ysgol. Gyda chymorth Dysgu Oedolion Caerdydd, dechreuais y cyrsiau a helpodd fi i gyrraedd lle rydw i nawr. Maen nhw wedi bod yn anhygoel gyda'u hanogaeth, yn cynyddu fy hyder a helpu gyda fy nhechneg cyfweld."