The essential journalist news source
Back
22.
August
2024.
Diwrnod Canlyniadau TGAU yng Nghaerdydd 2024

22/8/2024

Mae miloedd o ddisgyblion Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, gyda chanlyniadau graddau A* - C, yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ddarpar ganlyniadau TGAU CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 26% o ganlyniadau TGAU 2024 yn raddau A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru, sef 19.2%. 

Mae canran y cofrestriadau TGAU yng Nghaerdydd a arweiniodd at raddau A* - C yn 67.4%, o'i gymharu â ffigwr o 62.2% ar gyfer Cymru gyfan. Mae 96.1% o arholiadau TGAU yn raddau A*-G, o'i gymharu â 96.6% ledled Cymru.

Yn debyg i weddill Cymru, mae canlyniadau yn uwch nag yn 2019 ond yn is nag yn 2023 pan roddwyd mesurau ychwanegol ar waith.

Haf 2024 yw cam olaf y trosglwyddo yn ôl i'r trefniadau oedd ar waith yn system cymwysterau Cymru cyn y pandemig.  Nod y polisi oedd dychwelyd yn fras i'r sefyllfa fel yr oedd cyn y pandemig o ran cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Gwneud i Gymru. 

Ni chafodd dysgwyr hysbysiad canlyniadau o flaen llaw ac ni wnaed unrhyw addasiadau i asesiadau.

Mae cymwysterau CBAC a chymwysterau galwedigaethol Gwneud i Gymru wedi'u dyfarnu yn unol â threfniadau cyn y pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Ar ran yr Awdurdod Lleol, hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. 

"Mae'n anhygoel meddwl bod y disgyblion hyn ar ddechrau eu haddysg ysgol uwchradd pan ddechreuodd y pandemig ac wedi parhau i ddangos penderfyniad a gwytnwch drwyddi draw. Mae eu cyflawniadau yn dyst i'w gwaith caled, a hoffwn ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, boed yn symud i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant.

"Mae'n braf gweld bod perfformiad ar draws y ddinas wedi parhau i godi eto ac yn benodol, bod canlyniadau Caerdydd yn sylweddoluwch na'r cyfartaledd Cymreig ar gyfer graddau A* - A. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Hoffwn ddiolch hefyd i ysgolion, athrawon a staff y ddinas am eu hymroddiad a'u cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a'u paratoi ar gyfer eu dyfodol.

"I unrhyw ddisgyblion sy'n ansicr am eu camau nesaf, mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael ar lwyfan Beth Nesafwww.whatsnextcardiff.co.uk/cy/"

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd yn ybydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am barhau mewn addysg lawn amser,  cyfleoedd interniaeth, hyfforddi a gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/

*Mae'r ystadegau'n amodol ac yn seiliedig arganlyniadau TGAU TAG CBAC yn unig.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw CBAC yn rhyddhau ffigurau Cymru gyfan ar gyfer canlyniadau CBAC yn unig.  Fodd bynnag, mae ffigurau Cymru gyfan ar gyfer pob bwrdd ar gael.  Gan nad yw CBAC yn rhyddhau ffigyrau'r holl fyrddau fesul ALl neu ysgol, nid yw'n bosibl gwneud unrhyw gymariaethau dilys o ffigurau'r ALl yn erbyn tueddiadau cenedlaethol.